Lansio astudiaeth o radicaliaeth yng Nghymru

Chwith i’r Dde: Dr Rhys Dafydd Jones, Prifysgol Aberystwyth; Rhodri Evans, myfyriwr doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a Rob Phillips o’r Archif Wleidyddol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Chwith i’r Dde: Dr Rhys Dafydd Jones, Prifysgol Aberystwyth; Rhodri Evans, myfyriwr doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a Rob Phillips o’r Archif Wleidyddol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

09 Rhagfyr 2016

Bydd y modd y mae radicaliaeth yng Nghymru wedi newid yn cael ei astudio fel rhan o brosiect ymchwil newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd yr astudiaeth yn ystyried y gwahanol ddulliau a ddefnyddiwyd gan Fyddin Rhyddid Cymru, Meibion ​​Glyndŵr a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Y nod yw edrych ar gyfranogiad sifil ar gyrion cymdeithas a dadansoddi pam mae rhai mathau o ymgysylltu â dinasyddion yn fwy derbyniol gan gymdeithas nag eraill.

Caiff yr astudiaeth, sy’n cwmpasu'r 30 mlynedd o 1962 tan 1992, cyfnod sy’n cael ei ystyried gan rai yn un cythryblus yn hanes modern Cymru, ei chynnal gan Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol a’i chyllido gan Ganolfan Hyfforddi Ddoethurol Cymru.

Un o nodweddion unigryw'r prosiect fydd y cydweithio agos rhwng y Brifysgol a'r Archif Wleidyddol Gymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Y gobaith yw y bydd yr ymchwil hefyd yn sail i arddangosfa yn 2019 i gyd-redeg gyda hanner can mlwyddiant arwisgiad Tywysog Cymru.

Dywedodd Dr Rhys Dafydd Jones o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear; "Mae'r ysgoloriaeth yn ymdrin â dau fater cyfoes: y pwyslais ar werth cyfranogiad sifil ar y naill law a'r ofn o radicaliaeth ar y llall. Yn amlach na pheidio, mae cymdeithas yn ystyried ymgysylltiad dinesig megis gwirfoddoli fel peth da. Ond y cwestiwn y byddwn yn mynd i'r afael ag e yw beth yw'r gwahaniaeth rhwng gweithredoedd sy'n cael eu hystyried yn rhai "da" a'r rhai sy'n fwy radical ac felly’n cael eu hystyried fel rhai "drwg". Mae hwn yn gwestiwn arbennig o berthnasol wrth edrych ar grwpiau dan sylw a'u gosod yng nghyd-destun Cymru heddiw. "

"Er bod llawer o'u gweithredoedd yn cael eu hystyried fel rhai radical neu'n eithafol ar y pryd, mae yna, fodd bynnag, angen i ddeall y radicaliaeth hon o fewn cyd-destun ehangach, gyda llawer o'r hyn yr oeddent yn galw amdano megis datganoli gwleidyddol a mwy o hawliau i'r Gymraeg, wedi’u gwireddu ac yn rhan o brif ffrwd cymdeithas a disgwrs yng Nghymru," ychwanegodd.

Bydd yr ymchwil yn cael ei wneud gan Rhodri Evans, sy’n raddedig o Brifysgol Aberystwyth ac  yn gyn-ddisgybl o Ysgol y Preseli, fel rhan o’i ddoethuriaeth.

"Mae'r pwnc hwn wedi bod o ddiddordeb mawr i mi ar hyd yr amser ac yn un yr wyf yn teimlo'n angerddol yn ei gylch”, meddai Rhodri.

"Mae'r mater o gyfranogiad sifil gyda grwpiau ymylol yn bwnc sy'n aml wedi cael ei esgeuluso o ran hanesyddiaeth Cymru ac rwy'n gobeithio y bydd fy ngwaith yn gymorth i daflu goleuni ar weithgareddau oedd yn cael eu hystyried yn filwriaethus ar y pryd, ond o’u gosod yng nghyd-destun heddiw, a fu’n ganolog wrth lunio'r Gymru rydym yn ei hadnabod heddiw,” ychwanegodd.

Dywedodd Rob Phillips or Archif Wleidyddol Gymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru; "Rydym yn hynod falch o fod wedi gallu cydweithio â Phrifysgol Aberystwyth ar y prosiect hwn ac yn credu y gall y gwaith ymchwil arwain at ffyrdd arloesol ac apelgar o ddod â'r drysorfa o wybodaeth a gedwir yn ein harchifau yn fyw.

"Ein gobaith yw y bydd canlyniadau'r ymchwil yn arwain at arddangosfeydd ffisegol a digidol yn 2019, sydd mewn sawl ffordd yn addas gan y bydd yn nodi 50 mlynedd ers arwisgo Tywysog Cymru yng Nghaernarfon, digwyddiad a brofodd yn ganolbwynt i lawer o'r gweithgareddau a fydd yn cael eu hastudio yn ystod y ddoethuriaeth hon."