Dathlu’r Nadolig yn yr Hen Goleg

12 Rhagfyr 2016

Mae croeso cynnes i gymuned Aberystwyth ymuno â ni i ddathlu’r Nadolig yn yr Hen Goleg ar Ddydd Mawrth 13 Rhagfyr 2016 rhwng 16.30 - 18.00.

Yn ogystal, bydd Siôn Corn yn croesawu’r ifancaf yn ein plith ac yn codi arian i MIND Aberystwyth, sef Elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor, y Gymraeg, Diwylliant a Chysylltiadau Allanol: "Mae Nadolig yn yr Hen Goleg, sydd yn datblygu yn dipyn o draddodiad, yn agored i’r gymuned gyfan yma yn Aberystwyth, ac mae'n gyfle am ychydig o hwyl Nadoligaidd traddodiadol, danteithion Nadoligaidd, ac yn bwysicaf oll y cyfle i gwrdd â Siôn Corn."

 

AU39316