Graddau daearyddiaeth Aberystwyth ymhlith y cyntaf yn y DU i dderbyn achrediad newydd

Yr Athro Peter Merriman (Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear), a fu’n arwain y broses achredu, yn cynnal gwaith maes yn Nulyn.

Yr Athro Peter Merriman (Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear), a fu’n arwain y broses achredu, yn cynnal gwaith maes yn Nulyn.

14 Rhagfyr 2016

Mae graddau Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ymhlith y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael eu hachredu o dan gynllun newydd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol a Sefydliad Daearyddwyr Prydain (RGS-IBG).

Mae graddau anrhydedd sengl mewn Daearyddiaeth (cyfrwng Cymraeg a Saesneg), Daearyddiaeth Ddynol, a Daearyddiaeth Ffisegol yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear i gyd wedi derbyn achrediad yn dilyn adolygiad yn ystod hydref 2016.

Sefydlwyd yr RGS-IBG yn 1830 er mwyn datblygu a hyrwyddo gwybodaeth ddaearyddol, a’i phernasedd i'r heriau sy'n wynebu cymdeithas a'r amgylchedd.

Mae cynllun achredu newydd yr RGS-IBG ar gyfer cyrsiau daearyddiaeth mewn prifysgolion yn cydnabod rhaglenni gradd sy'n cyflwyno'r wybodaeth ddaearyddol, y dealltwriaeth, y sgiliau, y dulliau a’r nodweddion eraill a ddisgwylir gan raddedigion daearyddiaeth o safon.

Mae Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Aberystwyth yn un o ddwy adran yn unig yng Nghymru i dderbyn achrediad o’r fath, ac un o ddwy ar hugain o adrannau ar draws y DU.

Dywedodd pennaeth yr Adran, yr Athro Rhys Jones: "Rwy'n hynod falch fod pob un o’n graddau Daeardyddiaeth wedi cael eu cydnabod gan yr RGS-IBG. Mae'n dyst i ansawdd rhagorol yr addysg y mae myfyrwyr yn ei derbyn yma yn Aberystwyth. Bydd yr achrediad hefyd o fudd mawr i'n myfyrwyr pan fyddan nhw’n gwneud cais am eu swydd gyntaf ar ôl graddio."

Wedi'i sefydlu yn 1917, mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ymhlith yr hynaf a’r mwyaf o blith adrannau tebyg yn y DU ac fe fydd yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2017.

Cafodd ymrwymiad yr Adran at addysgu rhagorol a phrofiad rhagorol i fyfyrwyr ei amlygu yn y sgor o 95% a gafodd am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr yn arolwg 2016 yr NSS.

Ymhellach, mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF2014) wedi nodi bod 78% o'i hymchwil o "safon fyd-eang" neu yn "rhagorol yn rhyngwladol", gan osod Aberystwyth ymhlith y deg adran Daearyddiaeth orau yn y DU o ran ansawdd ei hymchwil a nifer ei hymchwilwyr gweithredol.

 

AU39116