Prifysgol Aberystwyth yn penodi Is-Ganghellor newydd

Yr Athro Elizabeth Treasure

Yr Athro Elizabeth Treasure

15 Rhagfyr 2016

Mae’r Athro Elizabeth Treasure wedi’i phenodi yn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Ar hyn o bryd, yr Athro Treasure yw Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd lle mae ganddi gyfrifoldeb dros feysydd allweddol gan gynnwys prosiectau ym maes cynllunio strategol, adnoddau a datblygu cynaliadwy yn ogystal â staffio ac ystadau.

Gwnaed y cyhoeddiad heddiw (Dydd Iau 15 Rhagfyr 2016) yn dilyn proses recriwtio dan arweiniad y Canghellor a Chadeirydd Cyngor y Brifysgol, Syr Emyr Jones Parry.

"Hoffem longyfarch yr Athro Treasure ar ei phenodiad fel Is-Ganghellor nesaf Prifysgol Aberystwyth," meddai Syr Emyr Jones Parry.

"Gwnaeth argraff ar y pwyllgor dewis gyda'i gweledigaeth strategol ar gyfer dyfodol y sefydliad, ei deallusrwydd a'i didwylledd. Ar adeg heriol i'r sector addysg uwch, rwy’n hyderus y bydd yr Athro Treasure yn arwain y Brifysgol arbennig iawn yma at lefelau newydd o lwyddiant."

Mae gan yr Athro Treasure radd BDS mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol ynghyd â doethuriaeth o Brifysgol Birmingham.

Yn dilyn ystod o swyddi clinigol yn y Gwasanaeth Iechyd rhwng 1980 a 1990, symudodd yr Athro Treasure i Seland Newydd lle'r oedd ganddi ddwy rôl fel Deintydd Iechyd y Cyhoedd ac fel Darlithydd, yna’n Uwch Ddarlithydd, ym Mhrifysgol Otago.

Yn 1995, penodwyd yr Athro Treasure Uwch yn Ddarlithydd ac Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus Deintyddol yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Cymru. Cafodd ei dyrchafu’n Athro yn 2000 a’i phenodi’n Ddeon a Rheolwr Cyffredinol yr Ysgol a'r Ysbyty Deintyddol yn 2006.

Dyfarnwyd Medal John Tomes iddi am ragoriaeth wyddonol a gwasanaeth eithriadol i'r proffesiwn gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yn 2006 a chymrodoriaeth FDSRCPS (arbennig) yn 2011.

Yn 2010, yr Athro Treasure oedd y fenyw gyntaf i gael ei phenodi'n Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ar hyn o bryd, mae hi hefyd yn Aelod Annibynnol (Prifysgol) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro; yn aelod o Bwyllgor Cyllid UCAS a Phwyllgor Iechyd a Diogelwch Cymdeithas Cyflogwyr y Prifysgolion a’r Colegau (UCEA); yn ymddiriedolwraig gydag Ymddiriedolaeth Lesotho Penarth a’r Cylch, ac yn Aelod o Gyngor Ysgol y Gadeirlan, Llandaf.

"Mae cael fy mhenodi yn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn anrhydedd ac yn fraint," meddai'r Athro Elizabeth Treasure.

"Mae gan Brifysgol Aberystwyth draddodiad hir a balch o ragoriaeth mewn addysgu, ymchwil a phrofiad myfyrwyr. Fy nod fydd adeiladu ar y seiliau cadarn hyn, gan weithio gyda’r sector gyhoeddus a busnesau i hyrwyddo ymhellach effaith economaidd ac addysgol y sefydliad."

"Rwy'n ymwybodol iawn o gyfraniad allweddol Aberystwyth tuag at ddatblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch ac at fywyd diwylliannol Cymru yn gyffredinol. Fel yr Is-Ganghellor nesaf, mae dysgu'r iaith i’r safon a nodwyd yn y swydd ddisgrifiad yn flaenoriaeth ac yn fwriad pendant gennyf er mwyn i mi gofleidio pob agwedd ar fywyd Aber."

Mae disgwyl i’r Athro Treasure ddechrau ar ei swydd newydd ym mis Ebrill 2017 ac yn y cyfamser, bydd yr Athro John Grattan yn parhau yn Is-Ganghellor Dros Dro.

"Fel Prifysgol, mawr yw ein diolch i'r Athro Grattan am ei ymroddiad wrth lywio'r sefydliad drwy'r cyfnod hwn o newid," meddai Syr Emyr Jones Parry.

"Fel Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb am brofiad myfyrwyr ers 2012 ac yna fel Is-Ganghellor Dros Dro ers mis Chwefror eleni, mae’r Athro Grattan wedi chwarae rhan allweddol wrth wella safle Prifysgol Aberystwyth yn y tablau cynghrair - gan gynnwys ein perfformiad gorau hyd yn hyn yn Arolwg Myfyrwyr yr NSS ym mis Awst eleni."