Sylfaenydd ysgoloriaeth yn siarad am greu gwaddol yn ystod ei fywyd

Chwith i’r dde (rhes gefn) Lilla Vér, Louise Jagger (Cyfarwyddwr Cysylltiadau gyda Chyn-Fyfyrwyr), Elena Zolotariov, Magdalana Chmura, (rhes flaen) Naveena Vijayan, Mackenzie Peace, Peter Hancock, Pat Pollard, Lauren Marks (Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth) a Caryl Davies (Cyfarwyddwr Gwasnaethau Cymorth i Fyfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth).

Chwith i’r dde (rhes gefn) Lilla Vér, Louise Jagger (Cyfarwyddwr Cysylltiadau gyda Chyn-Fyfyrwyr), Elena Zolotariov, Magdalana Chmura, (rhes flaen) Naveena Vijayan, Mackenzie Peace, Peter Hancock, Pat Pollard, Lauren Marks (Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth) a Caryl Davies (Cyfarwyddwr Gwasnaethau Cymorth i Fyfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth).

19 Rhagfyr 2016

Yng nghanol y tymor o ewyllys da, mae’r daearegwr a gyflwynodd i Brifysgol Aberystwyth y rhodd ddyngarol unigol fwyaf hael gan roddwr byw wedi bod yn siarad am ei resymau dros sefydlu’r ysgoloriaeth.

Fe roddodd Peter Hancock a'i bartner Pat Pollard (née Trevitt) £506,000 i'r Brifysgol yn 2015 a dyfarnwyd yr ysgoloriaethau cyntaf i dri myfyriwr ym mis Chwefror 2016.

Ar ddechrau tymor academaidd newydd ym mis Hydref 2016, gwnaeth pump o fyfyrwyr eraill geisiadau llwyddiannus am gymorth gan Gronfa Ysgoloriaeth Peter Hancock.

Bydd y rownd nesaf o geisiadau yn agor ym mis Ionawr 2017 pan fydd cyfle i fyfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn eu hail flwyddyn wneud cais am ysgoloriaeth ar gyfer eu trydedd flwyddyn.

Dywedodd Peter Hancock, a raddiodd gyda gradd er anrhydedd mewn Daeareg ym 1962: "Mae’n braf gallu rhoi rhywbeth yn ôl i'r Brifysgol wnaeth gydnabod fy mhotensial i dros hanner can mlynedd yn ôl, gan gynnig cymorth ariannol drwy gyfrwng ysgoloriaeth ar gyfnod tyngedfennol yn fy ngradd.

"Mae fy mhartner Pat - sydd hefyd yn raddedig o Aber (Botaneg a Daeareg) - a minnau ill dau yn gweithio gyda'r Brifysgol i ddatblygu a monitro’r ysgoloriaeth. Gallwn hefyd gynnig mentora a bod yn seinfwrdd i’r rhai sy’n derbyn yr ysgoloriaeth. Dyna beth sydd mor werth chweil am greu etifeddiaeth pan mae dyn dal yn fyw – ti’n gallu gweld y canlyniadau a bod yn rhan o'r broses. "

Derbyniodd Olu Ashiru o Orllewin Swydd Efrog ysgoloriaeth gan Gronfa Peter Hancock  ym mlwyddyn olaf ei radd mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bythefnos ar ôl graddio ym mis Gorffennaf 2016, fe ddechreuodd ar swydd newydd fel Peiriannydd Meddalwedd gydag adran Gwasanaethau Cyfryngau Arlein y BBC yn Llundain.

Dywed Olu fod y gefnogaeth wedi gwneud gwahaniaeth go iawn iddo: "Roedd llwyddo i gael  y gronfa ysgoloriaeth yn golygu y gallwn fforddio lleihau nifer yr oriau roeddwn i’n gweithio'n rhan amser (tra'n astudio amser-llawn) ac felly’n gallu canolbwyntio ar gwblhau fy ngradd israddedig yn llwyddiannus."

Fe dderbyniodd Sabine Hein gymorth yn ei blwyddyn olaf hefyd ac ar hyn o bryd mae hi’n gwneud gradd Meistr yn y Gwyddorau mewn Planhigion Meddyginiaethol a Bwydydd Pwrpasol ym Mhrifysgol Newcastle.

"Mae'r gronfa wedi fy helpu i yn fawr. Roedd yn golygu fy mod i’n gallu canolbwyntio'n llwyr ar fy astudiaethau blwyddyn olaf a graddio gyda’r canlyniad angenrheidiol," meddai Sabine.

"Roedd yn lleddfu’r baich o orfod gwneud oriau hir mewn swydd ran-amser ac yn golygu y gallwn neilltuo mwy o fy amser a’m horiau i Brifysgol Aberystwyth. Roedd hefyd wedi fy ngosod ar y llwybr cywir o ran gwneud astudiaethau ôl-radd."

Yn gynharach eleni, fe deithiodd Peter a Pat o'u cartref yn Seland Newydd i Aberystwyth i gwrdd â phump o fyfyrwyr a gafodd yr ysgoloriaeth eleni.

"Roeddem yn hynod falch i weld eu brwdfrydedd tuag at eu hastudiaethau, a'u dyheadau a'u cynlluniau ar gyfer eu gyrfaoedd," meddai Peter.

"Roedd eu sylwadau am y broses o ddethol ymgeiswyr, am adeiladu ar ymwybyddiaeth am yr ysgoloriaeth a’i statws, a’i hysbysu i'r garfan nesaf o fyfyrwyr Anrhydedd yn ystyrlon ac yn ddefnyddiol. Ar ben hynny, mae yna fonws hyfryd ac annisgwyl ynghlwm wrth yr ysgogiad deallusol a ddaw yn sgil clywed trafodaethau’r myfyrwyr am eu meysydd a thestunau eu traethodau hir, ac o weld eu bod yn croesawu’n hadborth a’n hanogaeth ni."

Roedd gan Peter ambell air o gyngor hefyd i’r myfyrwyr hynny sy'n bwriadu gwneud cais am yr ysgoloriaeth yn 2017: "Os wyt ti’n meddwl bod gen ti’r potensial i gael gradd Anrhydedd dda a bod gen ti’r uchelgais a'r potensial ar gyfer gyrfa lwyddiannus a fydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas - ond dy fod angen cymorth ariannol i gwblhau dy radd Anrhydedd neu dy flwyddyn gyfatebol yn llwyddiannus - yna fe ddylet ti  wneud cais. Nid cymorth ariannol yn unig a ddaw yn sgil ennill yr ysgoloriaeth, bydd hefyd yn anrhydedd sy’n cydnabod dy fod yn unigolion sydd â photensial."