Ymgyrch i arbed ynni dros ‘Dolig

20 Rhagfyr 2016

Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cael eu cymell i gefnogi ymgyrch arbed ynni  dros gyfnod y Nadolig.

Mae’n rhan o ymgyrch Diffodd Popeth y Nadolig y Brifysgol, a’r nod yw helpu’r amgylchedd tra’n cwtogi ar gostau ynni.

Cyn iddyn nhw fynd adref dros y gwyliau, mae staff a myfyrwyr fel ei gilydd wedi cael eu hannog i sicrhau bod pob darn o offer nad sy’n hanfodol wedi cael ei ddiffodd.

Mae'r Brifysgol eisoes yn cymryd rhan yn y diwrnod blacowt blynyddol a drefnir gan Undeb Myfyrwyr yr NUS, gydag ymchwil yn awgrymu arbedion trydan o hyd at 20% ar gyfer pob adeilad o'i gymharu â phenwythnosau arferol.

Mae’r ymgyrch bellach yn cael ei hymestyn i gynnwys cyfnod y Nadolig a hynny ar draws tair safle’r Brifysgol, gyda’r arbedion yn cael eu hasesu ym mis Ionawr fesul campws ac adeilad.

Trwy gyfres o fesurau syml, y nod yw arbed o leiaf 40 tunnell o CO2 a gwneud arbedion ariannol o hyd at £30,000.

Dywedodd Rheolwraig Carbon y Brifysgol Janet Sanders: "Ar yr un llaw, mae hyn yn ymddangos yn ddim mwy na synnwyr cyffredin, ond mae'n drawiadol cynnifer o weithwyr ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau sy’n gorffen gwaith ar gyfer y Nadolig ond yn anghofio diffodd y goleuadau ar goeden y swyddfa er enghraifft neu ddiffodd eu monitorau cyfrifiaduron wrth y soced.

"Drwy wneud ymdrech fel hyn, gallwn barhau â'n gwelliannau amgylcheddol uchelgeisiol – a dychwelyd arian, a allai fod wedi ei wastraffu, i gyllido elfennau pwysicach o'n gwaith."

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o gamau gan y Brifysgol a enillodd Wobr Aur EcoCampus ym mis Tachwedd 2016 yn dilyn archwiliad annibynnol o'i system rheoli amgylcheddol.

Ym mis Gorffennaf 2016, fe lwyddodd y Brifysgol i sicrhau Gwobr y Faner Werdd i Gampws Penglais am yr ail flwyddyn yn olynol, ac am y tro cyntaf i Gampws Llanbadarn.