Hel straeon sîn roc Gymraeg Aber

Dydd Miwsig Cymru

Dydd Miwsig Cymru

09 Chwefror 2017

Ar drothwy Dydd Miwsig Cymru, mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn casglu ynghyd straeon rhai o’r bandiau sydd wedi datblygu yn ystod eu dyddiau yn y coleg ger y lli.

Y nod yw creu cofnod o’r grwpiau gwahanol a dreuliodd eu dyddiau cynnar yn Aber ac sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr at y sîn roc Gymraeg dros y blynyddoedd.

Mae rhai o’r cerddorion sydd wedi bod yn rhannu eu profiadau gydag UMCA yn edrych nôl dros sawl degawd, yn eu plith Linda Griffiths (Plethyn 1976) a’r Dr Rhodri Llwyd Morgan (Cerrig Melys, 1989).

Mae eraill yn cofio cyfnodau mwy diweddar fel Gruff Lynch (Yr Ods, 2007), Lewys Wyn (Yr Eira 2013) a Iolo Jones (Ysgol Sul, 2015).

Llywydd UMCA a Swyddog Materion Cymreig Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, Rhun Dafydd, sydd y tu cefn i’r prosiect: “Y syniad yw dangos pa mor bwysig mae Aber i ddiwylliant roc Cymru a sut mae UMCA wedi gallu rhoi llwyfan i nifer o fandiau ifanc.

“Mae’r dref ei hun wedi bod yn ddylanwadol gan gynnig nifer o lefydd ar gyfer gigs fel Y Llew Du a’r Cŵps. Mae Pantycelyn hefyd wedi bod yn arbennig o ddylanwadol o ran hyrwyddo cerddoriaeth fyw. Mae awyrgylch unigryw yn perthyn i’r neuadd, gyda jamio cyson yn y lolfa a sŵn cerddoriaeth yn gefndir parhaus ac mae bandiau fel Caset, Patrobas a Mosco yn dangos bod hynny’n dal i ddigwydd yn y cyfnod yma cyn ailagor Panty.”

Bydd sŵn cerddoriaeth i’w glywed unwaith eto ym Mhantycelyn nos Wener 17 Chwefror pan fydd gig acwstig yn cael ei gynnal i ddathlu cyfraniad oes Geraint Jarman.

Yn hwyrach y noson honno, mae UMCA wedi trefnu gig arall yn y Llew Du lle bydd tri o fandiau yn chwarae - Los Blancos, Mosco a Dau Cefn.

Mae’r ddwy gig ar y nos Wener yn rhan o benwythnos o gerddoriaeth fyw Cymraeg yn Aber, gyda Gwobrau’r Selar yn cael eu cynnal yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth Nos Sadwrn 18 Chwefror.

Prifysgol Aberystwyth yw prif noddwr Gwobrau’r Selar eto eleni ac mae cyfle i ennill pedwar tocyn ar gyfer y noson fawr.

Un fu’n chwarae mewn band yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr yw’r Dr Rhodri Llwyd Morgan, prif leisydd Cerrig Melys sydd bellach yn Ddirprwy Is-Gagnhellor ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Roedd y cyfnod yn Aber yn ddylanwad mawr,” meddai. “Er taw yn yr ysgol y sefydlwyd y band yn wreiddiol, daeth dau o’m cyd-fyfyrwyr yn aelodau ac roedd y dyddiau coleg yn rhai gweithgar a llawn cynnwrf i’r grŵp. 

“Roedd gigs Cymraeg a nosweithiau disgo (!) yn digwydd yn gyson mewn lleoliadau amrywiol iawn - lan llofft yn y Cŵps, yr Angel, Clwb yr Ysbyty, neu Undeb y Myfyrwyr - ac roedd y dewis helaeth o recordiau Cymraeg ar jiwcbocs y Llew Du yn dipyn o ryfeddod, heb sôn am bosteri enwog y Cŵps. 

“Nid ar hap y digwyddodd hyn, wrth gwrs, ond trwy ymdrechion UMCA ac o ganlyniad i frwdfrydedd afieithus myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.  Maes o law fe werthfawrogais hefyd fod y sîn yn cynrychioli dolen gyswllt hynod bwysig rhwng y coleg a chymuned y dref - roedd y gigs Cymraeg yn ffordd effeithiol tu hwnt o gynnwys pawb ac o hybu Cymreictod cynhwysol ymhlith y to ifanc yn enwedig, yn Gymry Cymraeg neu’n ddi-Gymraeg.”   

Mae hanes y Cerrig Melys a bandiau eraill sydd â chysylltiadau agos gydag Aber i’w gweld ar wefan UMCA.

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cefnogi digwyddiad arbennig yn y Llew Du yn Aberystwyth nos Lun 10 Chwefror 2017 sy’n cael ei drefnu gan Cered: Menter Iaith Ceredigion i ddathlu Dydd Miwsig Cymru.

Fel rhan o raglen y noson, bydd band lleol Y Fflamau Gwyllt yn chwarae am 6.30yh; bydd trafodaeth panel gyda threfnwyr gwyliau cerddoriaeth Ceredigion dan gadeiryddiaeth Richard Rees am 7.15yh, Cwis Mawr Cerddoriaeth Cymru am 8.30yh a cherddoriaeth fyw gan RocCana am 9.45yh.

Mae Bandiau ac artistiaid â chysylltiadau agos gydag UMCA a Phrifysgol Aberystwyth yn cynnwys:

  • Casset
  • Catrin Herbet
  • Cerrig Melys
  • Chwarter i Un
  • Doctor
  • Eira
  • Geraint Lovegreen
  • Hufen Ia Poeth
  • Mosco
  • Mynediad am Ddim
  • Neil Rosser
  • Plethyn
  • Trwynau Coch
  • Tymbal
  • Vanta
  • Y Blew
  • Yr Ods
  • Ysbryd Chouchen
  • Ysgol Sul


I ychwanegu at y rhestr, i rannu atgofion neu luniau o gigs yn Aber, anfonwch ebost at UMCA