UMAber yw Undeb Myfyrwyr y Flwyddyn

Mae gwobr Undeb Myfyrwyr y Flwyddyn yn cydnabod yr hyn a gyflawnwyd gan UMAber yn y deuddeg mis diwethaf wrth lunio addysg a rhoi grym i unigolion

Mae gwobr Undeb Myfyrwyr y Flwyddyn yn cydnabod yr hyn a gyflawnwyd gan UMAber yn y deuddeg mis diwethaf wrth lunio addysg a rhoi grym i unigolion

17 Mawrth 2017

Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth (UMAber) wedi ei henwi yr Undeb Myfyrwyr Addysg Uwch orau yng Nghymru.

Cyflwynwyd y wobr i swyddogion UMAber yng ngwobrau blynyddol Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCMC) a gynhaliwyd yn Llandudno nos Fawrth 14 Mawrth 2017.

Mae'r wobr yn cydnabod yr hyn a gyflawnwyd gan UMAber yn y deuddeg mis diwethaf wrth lunio addysg a rhoi grym i unigolion.

Yn ogystal, dyfarnwyd Gwobr Cyfleoedd i Fyfyrwyr i UMAber ar y cyd gydag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor.

Mae Gwobr Cyfleoedd i Fyfyrwyr yn cydnabod cyfleoedd cynhwysol i fyfyrwyr sydd wedi cael effaith drawsffurfiol ar y bobl dan sylw yn ogystal â'r byd o'u cwmpas.

Dywedodd Llywydd UMAber Lauren Marks: “Undeb sydd yn cael ei harwain gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr yw UMAber, a thrwy ddarparu cyfleoedd, hwyluso newid a chynnig cymorth, ein nod yw gwella profiad myfyrwyr o Brifysgol a'u cynorthwyo i gyflawni eu potensial yn llawn. Rydym yn falch iawn bod ein hymdrechion wedi cael eu cydnabod gan UCMC wrth ddyfarnu Undeb Myfyrwyr y Flwyddyn 2017 i UMAber, mewn blwyddyn lle y gwelodd newid mawr, her a datblygu.”

Dywedodd Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro John Grattan: "Ar ran y Brifysgol, hoffwn longyfarch UMAber ar ei llwyddiant nodedig. Mae llais y myfyrwyr yn eithriadol bwysig yn Aberystwyth ac mae’r tîm o swyddogion sy'n gweithio'n galed yn Undeb y Myfyrwyr yn gwneud gwaith rhagorol o gynrychioli a chefnogi ein myfyrwyr. Mae'r wobr hon yn adlewyrchiad o'r cyfraniad y maent yn ei wneud i gyflawni profiad eithriadol i'n holl fyfyrwyr.”

Yn ogystal ag ennill dwy wobr, cafodd UMAber ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Tîm Swyddogion y Flwyddyn, a chafodd Swyddog Cyllid UMAber, Rebecca Thompson, ei henwebu yng nghategori Aelod Staff y Flwyddyn.

Mae Gwobrau UCM wedi bod yn dathlu gwaith yr Undebau Myfyrwyr ers naw mlynedd.

Maent yn gyfle i Undebau Myfyrwyr ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am eu hymdrechion, gyda gwobrau ar draws yr holl weithgareddau o ymgyrchu ac amrywiaeth i gyfleoedd addysg a myfyrwyr.

Mae gan UMAber dros 100 o glybiau chwaraeon a chymdeithasau, mewn meysydd mor amrywiol â dadlau a chadwraeth, a saethu peli paent a mynydda, a llu o fentrau gwirfoddoli.

Mae'r Undeb hefyd yn cynnal Gwasanaeth Cynghori, sy’n darparu cefnogaeth annibynnol a chynrychiolaeth, boed yn academaidd, lles neu ariannol, i fyfyrwyr a allai fod angen cymorth ychwanegol tra yn y Brifysgol.