Cofnodi Fflach Gwrthdrawiad ar y Lleuad o Ynysoedd Prydain am y tro cyntaf

Gwelwyd y gwrthdrawiad yn hemisffer deheuol y Lleuad sydd wedi ei nodi gydag “X”, ychydig i’r gogledd o geudwll Wolf, ar y cyntaf o Ionawr 2017.

Gwelwyd y gwrthdrawiad yn hemisffer deheuol y Lleuad sydd wedi ei nodi gydag “X”, ychydig i’r gogledd o geudwll Wolf, ar y cyntaf o Ionawr 2017.

20 Mawrth 2017

Mae gwyddonwyr y gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi recordio’r hyn y maent yn credu yw’r cofnod cyntaf yn Ynysoedd Prydain o Fflach Gwrthdrawiad ar y Lleuad.

Yn ôl pob tebyg, achos y fflach a welwyd ar hemisffer deheuol y Lleuad oedd meteorit maint pêl golff yn taro’r wyneb.

Parodd y gwrthdrawiad ar Ddydd Calan 2017 am lai na degfed o eiliad a chafodd llun ohono ei gofnodi drwy delesgop ym Mhrifysgol Aberystwyth gan y gwyddonydd gofod Dr Tony Cook.

Mae Dr Cook yn gyn ymchwilydd yn Amgueddfa Genedlaethol Awyr a Gofod y Smithsonian yn Washington D.C., yn yr Unol Daleithiau ac mae archif o Fflachiadau Effaith Lunar dyddio'n ôl i'r 2000au cynnar.

Cafodd y cofnod cyntaf o Fflachiadau Gwrthdrawiad ar y Lleuad eu recordio gan seryddwyr amatur yn yr Unol Daleithiau yn ystod cawod meteor Leonid ym mis Tachwedd 1999.

Mae cofnod diweddaraf Dr Cook, a’r cyntaf yn Ynysoedd Prydain, wedi’i ei gadarnhau gan dîm o seryddwyr o’r Eidal.

Mae hefyd yn rhan o brosiect ymchwil Matthew Menzies, myfyriwr blwyddyn olaf sy’n astudio Astroffiseg ac yn edrych ar ffyrdd o wella sut mae’r gwrthdrawiadau hyn yn cael eu cofnodi a'u mesur.

Bwriad Dr Cook yw cyflwyno'r canfyddiadau yn yng Nghyngres Ewropeaidd Gwyddoniaeth y Planedau sy'n cael ei chynnal yn ddiweddarach eleni yn Riga, prifddinas Latvia.

Meddai Dr Cook: “Pethau anodd iawn i’w cofnodi yw Fflachiadau Gwrthdrawiad ar y Lleuad. Byddai'r meteorit yn teithio ar gyflymdra o rhwng 10 a 70 km yr eiliad wrth iddi daro wyneb y Lleuad. Mae hyn yn cyfateb i deithio o Aberystwyth i Gaerdydd mewn ychydig eiliadau yn unig, a’r gwrthdrawiad drosodd mewn ffracsiwn o eiliad.”

"Byddai meteorit tebyg yn taro atmosffer y Ddaear yn cynhyrchu seren wib hardd, ond gan nad oes atmosffer gan y Lleuad mae’n taro’r wyneb yn syth gan achosi crater maint twll mawr. Caiff ychydig o dan 1% o ynni'r meteorit ei droi’n fflach olau, a dyma a lwyddom i’w gofnodi yma yn Aberystwyth. "

Mae gwyddonwyr yn amcangyfrif bod y Lleuad yn cael ei tharo gan feteoritau o faint tebyg mor aml ag unwaith bob 10 i 20 awr.

Fodd bynnag, dim ond ar y rhan dywyll o’r lleuad y mae modd gweld y fflachiadau ar delesgop gan eu bod mor wan.

Ar ben hyn, rhaid i’r fflachiad gael ei weld o fwy nag un lleoliad cyn gallu ei gadarnhau.

"Nid yw un ddelwedd yn ddigon", dywedodd Dr Cook. “Gall pelydrau cosmig ar ffurf ymbelydredd o’r gofod gynhyrchu fflachiadau byr iawn o olau a gall fod yn anodd iawn i ddweud y gwahaniaeth rhwng gwrthdrawiad go iawn ar wyneb y Lleuad â phelydrau cosmig. Pan fydd gennych ddwy ddelwedd wedi eu tynnu ar yr un pryd gan ddau delesgop gwahanol yn edrych yr un rhan o'r Lleuad, gallwch fod yn siŵr bod hyn wedi digwydd ar wyneb y lleuad.”

Yn ôl Dr Cook, er bod mesur effaith un gwrthdrawiad ddim yn arwyddocaol, mae astudio ystadegau llawer o fflachiadau a’u cymharu â nifer y tyllau sydd i bob cilomedr sgwâr, yn galluogi gwyddonwyr i ddyddio wyneb y Lleuad.

“Ni fydd llawr o graterau ar ardal ifanc o’r lleuad sydd wedi gweld gweithgaredd folcanig diweddar, rhai degau neu 100 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Fodd bynnag, os yw wedi bod yn agored i'r gofod am sawl biliwn o flynyddoedd mi fydd yn llawn craterau. Drwy gyfrif nifer y tyllau, fel cylchoedd mewn coed, cewch oedran cymharol yr wyneb.”

Mae ymchwil Dr Cook yn canolbwyntio ar erydiad ar y Lleuad, craterau newydd yn ffurfio a sut mae llwch yn symud o gwmpas.

Drwy gydweithio gyda myfyrwyr, mae'n astudio gwahanol gyfnodau'r ffrwydradau yn fanylach er mwyn deall faint o wres sy’n cael ei gynhyrchu ganddynt, maint y gronynnau a pha mor bell mae'r shrapnel a gloddiwyd gan y gwrthdrawiad yn teithio.

Mae'n awyddus i gydweithio â seryddwyr amatur sydd â thelesgopau a chamerâu sy'n gallu gwneud fideo manwl o’r rhan dywyll o’r Lleuad.

Gallai'r gwaith hwn fod yn amhrisiadwy os yw pobl yn ymsefydlu ar y Lleuad.

"Bydd y data rydym yn ei gasglu yn ein galluogi i ddeall yn well natur y ffrwydradau hyn a diogelu canolfannau ar y Lleuad neu longau gofod.

“Mae'n debygol iawn y byddai unrhyw un sy’n sefyll ar y Lleuad yng nghyffiniau un o'r ffrwydradau hyn yn cael ei ddallu gan y fflach olau, ac yna ei daro gan shrapnel yn teithio ar gyflymder 1-2 km yr eiliad. Byddai siwtiau gofod yn frith o dyllau o ganlyniad, a hynny’n digwydd ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd hyd yn oed.”

Ar hyd y canrifoedd cofnodwyd Fflachiadau Gwrthdrawiad ar y Lleuad. Yn 1178 sylwodd mynachod yng Nghaergaint ar bluen o olau ar ymyl y Lleuad, ac yn 1948 gwelodd y seryddwr amatur Prydeinig F.H. Thornton fflach olau ddisglair y tu mewn i'r crater Plato, ac ym 1953 tynnodd y seryddwr amatur Americanaidd Leon Stuart ffotograff  o fflach hir ger crater Pallas.