Myfyrwraig PhD yn cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth ysgrifennu’r ESRC

Siobhan Maderson

Siobhan Maderson

29 Mawrth 2017

Roedd myfyrwraig PhD o Brifysgol Aberystwyth ymhlith deuddeg a gyrhaeddodd restr fer cystadleuaeth ysgrifennu’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) eleni, 'Making Sense of Society'.

Mae Siobhan Maderson yn astudio gwybodaeth amgylcheddol gwenynwyr ac mae’i gwaith wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Cymdeithasol.

Dywedodd Siobhan, sy’n gweithio yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: “Mae ymchwil fy noethuriaeth yn seiliedig ar y gostyngiad byd-eang yn nifer y pryfed peillio a’r heriau o ran diogelu cyflenwadau bwyd a bioamrywiaeth, ond mae’n canolbwyntio’n benodol ar wybodaeth draddodiadol gwenynwyr am yr amgylchedd, a sut mae defnyddio hynny’n well i hybu cynaliadwyedd amgylcheddol.

“Enillais radd MSc mewn Diogelu Cyflenwadau Bwyd a Dŵr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2014.  Roedd fy nhraethawd hir yn trafod yr hyn y mae gwenynwyr yn ei wybod am iechyd pryfed peillio, yn ogystal ag amodau amaethyddol ac amgylcheddol ehangach.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd amryw o wahanol fentrau polisi i ymdrin â’r gostyngiad yn nifer y pryfed peillio, llawer ohonynt yn trafod yr angen i gynnwys pobl wrth lunio polisïau, a phwysigrwydd meithrin cyswllt â gwenynwyr.

“Mae fy ymchwil yn ymdrin â manteision amgylcheddol meithrin cyswllt cryfach â gwenynwyr, oherwydd mae eu hymwneud agos, dros gyfnodau hir, â’r gwenyn a’u hecosystem yn datblygu gwybodaeth unigryw a chyfoethog am yr amgylchedd.”

Yn yr erthygl 800 gair a gyflwynwyd gan Siobhan i’r gystadleuaeth, dan y teitl ’Ensuring a sweeter future’, mae’n disgrifio ei hymchwil, pam y mae o ddiddordeb iddi, a pham y mae’n berthnasol i gynulleidfa ehangach.

Meddai Siobhan: “Roedd cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth ysgrifennu ‘Making Sense of Society’ y Cyngor Ymchwil yn anrhydedd aruthrol. Mae trafod cyfathrebu rhwng ymchwilwyr academaidd a’r gymuned ehangach, a mynd ati i wella hynny, yn bwysig dros ben i mi. Mae ymchwil ryngddisgyblaethol yn elfen allweddol o’m PhD, ac mae hynny’n cynnwys ymdrin â gwybodaeth y tu hwnt i’r byd academaidd traddodiadol. Mae cyrraedd rhestr fer y gystadleuaeth wedi rhoi cydnabyddiaeth i’r agwedd eang honno. Roedd pob un o’r gweithiau ar y rhestr fer yn ymdrin ag amrywiaeth ddifyr iawn o bynciau trafod, ac yn amlygu ystod a gwerth ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol o safbwynt amryw helaeth iawn o faterion cyfoes yn y gymdeithas.”

Dywedodd Michael Woods, Athro Gwyddor Gymdeithasol Drawsnewidiol yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a goruchwyliwr PhD Siobhan: "Rwyf wrth fy modd fod Siobhan wedi cyrraedd rhestr fer y wobr nodedig hon. Mae gwaith pwysig Siobhan ar ymwneud gwenynwyr â gwyddoniaeth a pholisi er mwyn ymdrin â’r argyfwng pryfed peillio o ddiddordeb i nifer o wahanol grwpiau, a bydd yr anrhydedd hwn yn hybu proffil y gwaith hwnnw. Mae’n dangos hefyd y gall myfyrwyr PhD Aberystwyth gystadlu â’r goreuon ym Mhrydain."

Lansiwyd cystadleuaeth ysgrifennu’r Cyngor Ymchwil, ‘Making Sense of Society’ ym mis Hydref 2016, mewn partneriaeth â SAGE Publishing.

Eleni, gofynnwyd i’r ymgeiswyr gyflwyno 800 gair yn amlinellu sut y mae eu hymchwil yn helpu i wneud synnwyr o gymdeithas, a pham y mae hynny’n bwysig.

Dywedodd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol: “Gwnaeth yr ymgeiswyr ar y rhestr fer argraff ar y beirniaid drwy ddisgrifio eu hymchwil mewn ffordd ddifyr, wreiddiol a grymus, gan ennyn diddordeb y darllenydd.”

Cyflwynwyd y gwobrau ddydd Mawrth 21 Mawrth 2017 yn Llyfrgell Wolfson yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain. 

Cafodd Wilhelmiina Toivo o Brifysgol Glasgow a Lauren White o Brifysgol Sheffield eu coroni’n gyd-enillwyr, gan ennill £1,000 yr un.

Bydd pob un o’r ymgeiswyr a gyrhaeddodd y rhestr fer yn cael dosbarth meistr SAGE ar sut i fynd ati i gyhoeddi eu gwaith, a chaiff eu herthyglau eu cyhoeddi mewn print ac ar-lein. 

Darllenwch yr erthyglau buddugol a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer yma: http://www.esrc.ac.uk/skills-and-careers/writing-competition/

 

AU12117