Car-go yn cipio GwobrMenterAber

Dde i’r chwith: Enillwyr GwobrMenterAber Pasi William Sachiti ac Ariel Ladegaard gyda threfnydd GwobrMenterAber Tony Orme, Alana Spencer, yr Athro Donald Davies, Cadeirydd y Beirniaid, Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni a’r Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth.

Dde i’r chwith: Enillwyr GwobrMenterAber Pasi William Sachiti ac Ariel Ladegaard gyda threfnydd GwobrMenterAber Tony Orme, Alana Spencer, yr Athro Donald Davies, Cadeirydd y Beirniaid, Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni a’r Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth.

30 Mawrth 2017

Mae cerbyd cyflenwi di-yrrwr cysyniadol a ddatblygwyd gan dîm o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn hwb o £10,000 ar ôl ennill GwobrMenterAber 2017.

Crëwyd Car-go gan y myfyrwyr Ariel Ladegaard ac Aparajit Narayan, a’r cyn-fyfyriwr Pasi William Sachiti.

Cyflwynwyd siec o £10,000 i Ariel a Pasi gan enillydd The Apprentice Alana Spencer ar ôl i feirniaid GwobrMenterAber gefnogi eu cysyniad ddydd Llun 27 mis Mawrth 2017.

Mae Car-go, sy’n cael ei ddisgrifio fel y cerbyd sy’n “berffaith ar gyfer dosbarthu mewn ardaloedd preswyl”, yn defnyddio cyfuniad o roboteg uwch a thechnoleg cerbydau di-yrrwr. Ei nod yw lleihau “costau cyflenwi’r filltir olaf” yn sylweddol.

Roedd Car-go yn un o chwe syniad i gyrraedd y rownd derfynol i’w hystyried gan feirniaid GwobrMenterAber 2017, panel a oedd yn cynnwys cyn-fyfyrwyr o Aberystwyth sydd wedi profi llwyddiant ym myd academia, diwydiant a bancio.

Dywedodd cadeirydd y panel, yr Athro Donald Davies, Athro Emeritws mewn Tocsicoleg yng Ngholeg Imperial Llundain a Sefydlwr a Chyfarwyddwr ML Laboratories PLC: "Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig gyda GwobrMenterAber 2017. Gofynnwyd i ni fel panel ddewis chwech o’r ugain cystadleuydd gwreiddiol i ymddangos yn y rownd derfynol, tasg a oedd yn ddigon anodd yn ei hun. Roedd dewis enillydd o'r chwech yn y rownd derfynol yn her go iawn ac estynnwn ein llongyfarchiadau i’r cais buddugol Car-go.

“Braf iawn cael adrodd hefyd bod y panel o’r farn fod nifer o’r cynigion heddiw yn debygol o fod yn fusnesau da ac roedd ansawdd y cyflwyniadau yn ardderchog.”

“Mae Car-go yn brosiect cyffrous iawn ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt wrth gychwyn ar eu taith ddatblygu a dechrau adeiladu eu prototeip.”

“Mae galluogi myfyrwyr i ddatblygu syniadau a chysyniadau busnes yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol mor bwysig, ac mae GwobrMenterAber yn gyfrwng ardderchog ar gyfer gwneud hyn. Pwysig nodi hefyd fod hyn oll yn bosibl diolch i gefnogaeth ariannol ein cyn-fyfyrwyr; heb eu cefnogaeth nhw ni fyddai GwobrMenterAber yn digwydd,” ychwanegodd yr Athro Davies.

Mae Ariel a Pasi hefyd yn gweithio ar ddatblygu Hugh y llyfrgellydd robot.

Dywedodd Ariel: “Mae paratoi ar gyfer GwobrMenterAber 2017 wedi bod yn brofiad gwych. Pan fyddwch yn gweithio ar brosiect tebyg i Car-go mae’n hawdd cael eich tynnu i’r manylder a cholli golwg bron ar sut mae hyn yn berthnasol i'r byd y tu allan. Mae cyflwyno cysyniad i rywun nad yw'n ymwneud â’r cynllun yn gyfle gwych i fyfyrio ar y syniad ei hun.”

Dywedodd Pasi: “Yr her sy’n wynebu cwmnïoedd newydd yw dod o hyd i gyllid; i godi arian mae angen proteip, ac mae angen arian i adeiladu prototeip. Bydd cefnogaeth ariannol GwobrMenterAber yn ein galluogi i adeiladu ein prototeip cyntaf, darparu prawf o gysyniad a'i gyflwyno i'r byd y tu allan.

"Mae gan Car-go’r potensial i newid y farchnad cyflenwi cartref yn sylweddol a gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddatrys “problem cyflenwi'r filltir olaf”. Ein gweledigaeth yw car robot sy’n medru cyflenwi archebion ar-lein i gartrefi pobl, o bosibl o fewn hanner awr i archebu.”

Cyflwynwyd siec am £10,000 i’r buddugol gan Alana Spencer, enillydd The Apprentice a sylfaenydd Ridiculously Rich. Roedd ei thad yn allweddol yn sefydlu gwobr GwobrMenterAber.

Dywedodd Alana: “Mae'n fraint cael gwahoddiad yn ôl i Aberystwyth i gyflwyno enillydd GwobrMenterAber 2017, menter y bu fy nhad yn cyfrannu ati yn ystod ei gyfnod yn gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Mae cystadlaethau fel hyn yn bwysig iawn i fusnesau. Mae'r cyfle sydd gan Car-go yn un anhygoel - £10,000 tuag at y busnes yn ogystal â chymorth a chyngor gan staff a chyn-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth; mae’n gyfle gwych.

"Yr allwedd i lwyddiant yw cael nod a chynllun. Mae'n bwysig iawn bod gennych syniad o ble rydych am fynd, yna gweithio yn ôl o’r pwynt hwnnw a dysgu beth sydd angen i chi ei wneud i gyflawni hynny. Rwy’n edrych ymlaen at glywed llawer mwy am Car-go”, ychwanegodd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth, Louise Jagger: "Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi gwneud GwobrMenterAber 2107 yn gymaint o lwyddiant, ac yn arbennig i Car-go am eu cysyniad ac am ennill cefnogaeth y beirniaid. Gall cefnogaeth o'r math hwn olygu cymaint i rywun sydd â syniad gwych ac sydd angen cefnogaeth ariannol ac arweiniad i ddechrau pethau. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r cyn-fyfyrwyr sy'n parhau i roi mor hael tuag at Cronfa Aber sy'n ariannu'r wobr ariannol, ac i'r cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr am roi o’u hamser i fod ar y panel beirniadu.”

Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth sydd yn trefnu GwobrMenterAber ac mae’n rhan o'i rhaglen o gefnogaeth, cymorth ymarferol a chyngor i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu syniadau busnes arloesol a mentrus.

Panel beirniaid Gwobr Menter Aber.

Jane Clayton – Mae Jane yn gyfrifydd siartredig cymwysedig ac yn Gyfarwyddwr anweithredol profiadol. Hi ar hyn o bryd yw Cadeirydd Bay Leisure Limited a Thrysorydd Sefydliad Meddygol Dewi Sant.

Donald Davies – Athro Emeritws mewn Tocsicoleg yng Ngholeg Imperial Llundain a Chyfarwyddwr Sylfaen ML Laboratories plc (deunydd fferyllol) un o'r cwmnïau biodechnoleg cyntaf i'w restru ar Farchnad Stoc Llundain.

Nigel Davies – Ar ôl graddio ac ymgymryd ag astudiaethau uwchraddedig yn Aberystwyth, bu Nigel yn gweithio am 30 mlynedd ym maes technoleg gorfforaethol a busnes. Yn 2003 ef oedd cyfarwyddwr cyntaf Innoval Technology, sy'n ymgynghoriaeth yn seiliedig ar dechnoleg yn y DU, ac sydd â chleientiaid yn fyd-eang.

Peter Gradwell – Astudiodd Peter Beirianneg Meddalwedd yn Aber, gan raddio yn 2002. Tra'r oedd yn y Brifysgol sefydlodd ei gwmni cyfathrebu rhyngrwyd ei hun, Gradwell dot com Ltd sydd erbyn hyn yn cyflogi 65 o bobl ac sydd ag incwm blynyddol dros £7m.

Huw Morgan - Cyn Bennaeth Bancio Busnes, Banc HSBC plc, gweithiodd Huw i HSBC am y rhan fwyaf o'i yrfa. Yn fwy diweddar roedd yn gyfrifol am Fancio Busnes a Masnachfreintio yn y Deyrnas Gyfunol.

David Sargen - David yw Partner Rheoli Derivatives Risk Solutions LLP, ymgynghoriaeth risg arbenigol sy’n darparu arbenigedd ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau o fewn y diwydiant ariannol, gyda ffocws arbennig ar y farchnad deilliadau byd-eang.