Phrifysgol Aberystwyth a Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth

Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth, lleoliad Cynhadledd Awtistiaeth Ceredigion

Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth, lleoliad Cynhadledd Awtistiaeth Ceredigion

31 Mawrth 2017

Mae tîm Sbectrwm Awtistiaeth Ceredigion a Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd ar y cyd ar Awtistiaeth yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth heddiw, ddydd Gwener 31 Mawrth 2017.

Cynhelir y gynhadledd hon am y bedwaredd gwaith eleni, ac mae'n dwyn ynghyd pobl ar y sbectrwm awtistiaeth, rhieni, gofalwyr, cynorthwywyr a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.

Bydd yn gynhadledd yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd sy’n rhedeg o 27 Mawrth tan 2 Ebrill 2017 a Diwrnod Awtistiaeth y Bydd, Dydd Sul 2 Ebrill 2017.

Dywedodd Carys James, Pennaeth Comisiynu a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyngor Sir Ceredigion:  “Rydym yn falch o weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth i drefnu Cynhadledd Awtistiaeth Ceredigion, gan ddathlu'r llwyddiant a gafwyd dros y blynyddoedd blaenorol.  Gydag amrediad o siaradwyr arbenigol, bydd y digwyddiad yn cynnig dirnadaeth a dealltwriaeth newydd o gyflwr sy'n effeithio ar o leiaf un o bob cant o bobl”.

Agorir y gynhadledd gan Dr Jill Bradshaw o Ganolfan Tizard yng Nghaint, sy'n enwog drwy'r byd i gyd, a bydd yn sôn am ansawdd y cymorth cyfathrebu i bobl sydd ag awtistiaeth ac anableddau deallusol.

Dywedodd John Harrington, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth, “Mae'n bleser gan Brifysgol Aberystwyth gynnal y digwyddiad hwn unwaith eto yn yr Hen Goleg, adeilad eiconig a oedd yn gartref y Brifysgol gyntaf yng Nghymru ym 1872.  Mae'n bleser gennym hefyd groesawu cydweithwyr academaidd o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caint, sydd ar y blaen ym maes ymchwil am Awtistiaeth”.

Bydd Katy Unwin a Zoe Williams o Brifysgol Caerdydd yn cynnig trosolwg o'r gwaith ymchwil a gynhelir ar hyn o bryd yng Nghanolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd.  Bydd hwn yn cynnwys ymchwil am wahaniaethau prosesu synhwyraidd mewn awtistiaeth a sut y mae'r gwahaniaethau hyn yn effeithio ar ymddygiad, a'r gorgyffwrdd rhwng Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, a'r anawsterau cymdeithasol y mae plant sydd â'r ddau gyflwr yn eu cael.

Yn ogystal, bydd y gynhadledd yn clywed gan Dr Dougal Hare, seicolegydd clinigol sydd wedi bod yn gweithio ym maes awtistiaeth ac anableddau datblygiadol deallusol ers dros 25 o flynyddoedd o fewn GIG ac i'r Gymdeithas Awtistig Genedlaethol.

Ar hyn o bryd, mae Dr Hare yn Gyfarwyddwr Ymchwil ar gyfer rhaglen hyfforddiant seicoleg clinigol De Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd yn canolbwyntio ar y cyswllt rhwng awtistiaeth a chyflyrau datblygiadol eraill.

I gau'r diwrnod, croesawir John Simpson yn ôl i Geredigion.  Ar ddiwedd Cynhadledd Awtistiaeth 2015, rhoddodd John anerchiad teimladwy ac ysbrydoledig am ei brofiadau ef fel rhywun sydd ag awtistiaeth.  Eleni, mae'n bwriadu sôn am ofid a'r effaith y mae hyn yn ei gael ar gyfathrebu ac ymddygiad, gan fynd ati i'n hargyhoeddi ni bod “Straen yn Beth Da (o ddifrif!)”

Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru yn galluogi Tîm Sbectrwm Awtistiaeth Cyngor Sir Ceredigion i drefnu'r gynhadledd.  Mae'r gynhadledd yn llawn, a bydd 120 o bobl yn mynychu'r diwrnod ymwybyddiaeth ysbrydoledig hwn yn rhad ac am ddim.

Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth y Byd yma.