Wythnos Dechrau Busnes 2017

04 Ebrill 2017

Cynhelir Wythnos Dechrau Busnes flynyddol Prifysgol Aberystwyth o ddydd Llun 10fed tan ddydd Iau 13 Ebrill.

Yn ystod yr wythnos ceir rhaglen o weithdai sgiliau busnes wedi'u seilio ar faterion allweddol sy'n wynebu busnes neu fenter gymdeithasol ar y cychwyn. 

Gan ganolbwyntio ar hyfforddi sgiliau busnes hanfodol, bydd rhaglen yr Wythnos Dechrau Busnes yn cynnwys sesiynau ar ymchwil i'r farchnad, marchnata, technegau gwerthu, marchnata digidol, darogan a rheoli cyllidol, a materion cyfreithiol. 

Mae'r amserlen hefyd yn cynnwys dau gyflwyniad gan unigolion sydd wedi dechrau busnesau llwyddiannus.

Fel y dywed Tony Orme, Rheolwr Menter y Brifysgol, sydd wedi bod yn gyfrifol am yr Wythnos Dechrau Busnes ers degawd:  "Os ydych chi wedi breuddwydio am ddechrau'ch busnes eich hun neu os ydych chi'n awyddus i droi syniad da yn fusnes, bydd hon yn wythnos ddelfrydol ichi.

Mae'r gweithdai’n cynnig ysbrydoliaeth a phrofiad uniongyrchol gan rai sydd wedi mentro'u hunain yn ogystal ag awgrymiadau ac arweiniad ymarferol gan gynghorwyr busnes a staff menter y Brifysgol. 

"Mae'r fformat yn un hyblyg fel y gellir dod i raglen gyflawn o sesiynau, neu ddethol a dewis agweddau sydd o ddiddordeb penodol.

"Mantais ychwanegol dod i'r digwyddiad yw'r cyfle a geir i gwrdd ag unigolion o'r un bryd a chreu rhwydwaith o gefnogaeth i'w ddefnyddio wrth symud eich syniad busnes yn ei flaen. 

Bydd y gweithdai, sy'n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb, gan gynnwys staff, myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Aberystwyth, yn cael eu cynnal ar Gampws Penglais.

Mae'r Wythnos Dechrau Busnes yn bartneriaeth rhwng Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth a Syniadau Mawr Cymru Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle ar un neu fwy o'r gweithdai, cysylltwch â Louise Somerfield, los14@aber.ac.uk


AU12317