£8.8m ar gyfer prosiect cnydau gwydn yn IBERS

11 Ebrill 2017

Mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cychwyn ar raglen £8.8m gyda chyllid gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC).

Mae'r cyllid newydd yn rhan o fuddsoddiad sylweddol o £319M a gyhoeddwyd heddiw i sicrhau bod sylfaen ymchwil biowyddoniaeth y DG yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn flaenllaw yn fyd-eang i gwrdd â'r heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas yn y degawdau nesaf.

"Mi fydd buddsoddiadau ariannu strategol y BBSRC mewn ymchwil, pobl a galluoedd cenedlaethol hanfodol mewn sefydliadau biowyddoniaeth sy'n arwain y byd, yn cyflwyno arloesedd a gwybodaeth newydd ac yn helpu i wireddu potensial economi bio-seiliedig" meddai'r Athro Melanie Welham, Prif Weithredwr y BBSRC. "Bydd effeithiau cadarnhaol mewn bwyd, amaethyddiaeth, ynni, deunyddiau ac iechyd yn helpu i hybu twf economaidd a darparu buddion i gymdeithas ar draws y DG a thu hwnt."

Mae IBERS yn un o sawl sefydliad ymchwil a ariennir yn strategol gan y BBSRC ar draws y DG, a'r unig un yng Nghymru i dderbyn cyllid strategol. Mi fydd IBERS yn cyflwyno Rhaglen Strategol Craidd y BBSRC ar gyfer Cnydau Gwydn.

Mae'r rhaglen ar gyfer gwella cynaliadwyedd economaidd, cynhyrchiol ac amgylcheddol cnydau yn wyneb newid yn yr hinsawdd a newidiadau gwleidyddol. Mae'r arian yn cael ei sicrhau tan ddiwedd y cyfnod adolygu gwariant ac yna yn arwyddol, yn dibynnu ar ddyraniadau’r BBSRC yn y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr IBERS

"Mae'r buddsoddiad newydd hwn yn arwyddocaol wrth alluogi gwyddonwyr bridio planhigion IBERS i barhau i arwain y byd gyda bron i 100 mlynedd o brofiad mewn datblygu a defnyddio cnydau mewn byd sy'n newid."

Mae’r ymchwil a ariennir gan y BBSRC yn IBERS yn cynnwys glaswelltydd porthiant, meillion, ceirch, ac yn fwy diweddar y glaswellt ynni Miscanthus.

Mae'r ffocws ar ddatblygu mathau o gnydau sy'n gallu cynnal gwelliannau ansawdd a chynnyrch yn wyneb eithafion tywydd megis sychder a llifogydd, ac sydd yn gallu gwrthsefyll plâu a chlefydau.

Ychwanegodd yr Athro Gooding "Mewn byd ôl-Brexit, mi fydd hi’n hanfodol bod adnoddau’n cael eu defnyddio mor effeithlon â phosib er mwyn diogelu'r ecosystemau yr ydym oll yn dibynnu arnynt.

Mae sawl ffordd y gall cynhyrchiant ein caeau helpu i fodloni gofynion y diwydiannau bwyd, ffibr a chemegol, heb gyfaddawdu ar ein tirwedd a’n treftadaeth.

Mae'n arbennig o galonogol bod yr ymchwil a ariennir gan y BBSRC yn cynnwys defnyddio ein llwyfannau ymchwil fferm ym Mhwllpeiran a Thrawsgoed, gan arwain at ryngweithio hollol newydd rhwng yr ymchwil hwnnw a chynhyrchwyr, eu hymgynghorwyr, a’u cwsmeriaid."

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth "O lifogydd i ffermio a diogelwch bwyd, mae ein hymchwilwyr yn IBERS yn mynd i'r afael â rhai o heriau mawr y byd heddiw. Rwyf wrth fy modd fod y BBSRC unwaith eto wedi cydnabod yr ymchwil blaenllaw a wneir yng Ngogerddan ac yn croesawu'r buddsoddiad sylweddol pellach yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.”

Mae'r cyllid strategol gan BBSRC yn rhan bwysig o’r incwm ymchwil o dros £15m a geir gan IBERS bob blwyddyn.

Yn ychwanegol at y buddsoddiad gan y BBSRC, mae buddsoddiadau newydd yn IBERS ar gyfer 2017 yn cynnwys: labordai ar gyfer patholeg filfeddygol; galluoedd blaengar i leihau effaith amgylcheddol cynhyrchu anifeiliaid cnoi cil, ac i wella ansawdd cynnyrch da byw; a lansiad ein Huned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd  (WARU) i ymgymryd â gweithgarwch ymchwil newydd i hyrwyddo iechyd a lles yn y gymuned.