Prifysgol Aberystwyth yn cynnal 10fed Colocwiwm BCSWomen Lovelace

Ada Lovelace

Ada Lovelace

11 Ebrill 2017

Bydd prif gynhadledd gyfrifiadura'r Deyrnas Unedig sy’n cymell mwy o fyfyrwyr benywaidd i fynd i fyd cyfrifiadureg a Thechnoleg Gwybodaeth yn dathlu ei 10fed penblwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher 12 Ebrill 2017.

Sefydlwyd Colocwiwm BCSWomen Lovelace gan Dr Hannah Dee, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Enwyd y gynhadledd undydd ar ôl y mathemategydd Ada, Iarlles Lovelace, sy'n cael ei hadnabod fel rhaglennydd cyfrifiaduron cynta’r  byd, a’r nod yw dod â myfyrwyr, menywod mewn technoleg a chyflogwyr at ei gilydd.

Prif siaradwr y gynhadledd eleni fydd Dr Sue Black OBE, sylfaenydd BCSWomen a sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol TechMums, menter gymdeithasol sy'n darparu hyfforddiant technegol i famau mewn ardaloedd difreintiedig.

Y siaradwyr eraill sydd wedi eu cadarnhau yw Milka Horozova o Google, Carrie Anne Philbin, Cyfarwyddwr Addysg gydag Ymddiriedolaeth Raspberry Pi a Christine Zarges o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth.

Google yw’r prif noddwr (ac yn dychwelyd am y 10fed flwyddyn yn olynol) gyda nawdd hefyd gan BCS, GE, Bloomberg, IBM, JP Morgan, Scott Logic, Amazon a ThoughtNetworks.

Mae Dr Dee a'i chyd-drefnwyr yn disgwyl 200 o gynadleddwyr o bob cwr o'r DU i fynychu eleni, o'i gymharu â'r 60 a fynychodd y digwyddiad cyntaf a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Leeds yn 2008.

Yn eu plith, fe fydd 100 o fyfyrwyr benywaidd sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth poster y gynhadledd.

Mae’r dasg wedi ei seilio ar grynodeb 250 gair ar unrhyw agwedd o gyfrifiadura gyda gwobr gyntaf o £300 ym mhob un o’r pedwar categori - israddedigion blwyddyn gyntaf, ail ac olaf, a myfyrwyr MSc.

Mae pob un sydd wedi cyrraedd y rownd olaf yn cael teithio i ac o’r gynhadledd, a llety am ddim.

Ysbrydolwyd Dr Hannah Dee i sefydlu Colocwiwm BCSWomen Lovelace yn dilyn ei phrofiad cynnar o gynadleddau.

“Y gynhadledd ymchwil gyntaf erioed i mi fynychu oedd un ar olwg gyfrifiadurol yn 2004. Tua hanner ffordd drwy gyflwyno fy mhapur sylweddolais mai fi oedd yr unig fenyw yn yr ystafell, ac roedd yn eithaf rhyfedd. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, roeddwn yn mynychu digwyddiad menywod mewn cyfrifiadureg lle'r oedd y gwrthwyneb yn wir, ac er fy amheuon roedd yn brofiad cadarnhaol. Dyna pryd y sylweddolais y byddwn wedi mwynhau gallu mynychu digwyddiad o'r fath fel myfyriwr israddedig, ac felly fe es ati i sefydlu un.”

“Mae myfyrwyr Aberystwyth wedi mynychu'r digwyddiadau BCSWomen Lovelace blynyddol bob blwyddyn ers 2011, ac yn 2014 llwyddodd y criw i ennill £1000 o wobr rhyngddynt. Mae staff Aberystwyth wedi chwarae rhan bwysig hefyd, gyda thîm ohonom yn cynorthwyo gyda threfniadau’r gynhadledd yng Nghaerfaddon, Nottingham, Reading, Caeredin a Sheffield. Mae'n wych felly cael dod â hi adref ar gyfer ei 10fed pen-blwydd.”

Cafodd cyfraniad Dr Dee ei gydnabod gan Computer Weekly yn 2016 lle ddaeth hi yn y 9fed safle ar restr o’r menywod mwyaf dylanwadol ym maes Technoleg Gwybodaeth yn y Deyrnas Unedig.

"Mae digon o dystiolaeth erbyn hyn fod cael safbwyntiau gwahanol yn bwydo i mewn i'r broses o wneud penderfyniadau, yn arwain at benderfyniadau gwell. Mae adroddiad McKinsey Women Matter yn dangos bod busnesau gyda byrddau amrywiol yn perfformio'n well, ac nid yw hyn yn ymwneud â rhyw yn unig”, meddai Dr Dee.

“Y broblem gyda chyfrifiadureg yw ei fod yn fyd hen, gwrywaidd a gwelw - rydym yn ddiwydiant lle mae 15% o’r gweithlu technegol yn fenywod. Y rheswm pam fod Google, Amazon a llawer o’r prif gyflogwyr eraill yn ymuno â ni yn y Colocwiwm BCSWomen Lovelace Colocwiwm yw oherwydd eu bod yn awyddus i recriwtio pobl – maen nhw am gael menywod disglair yn eu timau.”

I danlinellu’r pwynt, cyfeiriodd Dr Dee at ap iechyd a ddatblygwyd yn ddiweddar gan gwmni technoleg blaenllaw nad oedd yn gallu cofnodi misglwyf menywod.

“Daeth i’r amlwg nad oedd menyw ar ei tîm datblygu. Byddech chi’n meddwl bod hyn yn dipyn o beth i’w anghofio ac mae’r math hyn o beth yn digwydd drwy'r amser”, ychwanegodd.

Mae Colocwiwm BCSWomen Lovelace 2017 yn dechrau heno (Nos Fawrth 11 Ebrill 2017) gyda Her Deallusrwydd Artiffisial Colocwiwm Lovelace.

Noddir y digwyddiad heno gan Scott Logic ac mae’r hacathon yn cael ei chynnal yn Theatr Stiwdio Canolfan y Celfyddydau nos Fawrth 11 Ebrill 2017.

Mae’r gynhadledd ei hun wedi ei lleoli ym Medrus Mawr (Penbryn) gyda’r brif raglen yn dechrau am 9.30 fore Mercher 12 Ebrill a’r sgyrsiau yn cael eu cynnal yn Narlithfa A12 adeilad Hugh Owen.