Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn urddo chwe aelod o Brifysgol Aberystwyth

Yr Athro Elizabeth Treasure

Yr Athro Elizabeth Treasure

28 Ebrill 2017

Mae’r Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure yn un o chwe aelod o Brifysgol Aberystwyth sydd wedi eu hethol yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Yn ogystal â’r Athro Treasure, etholwyd yr Athro Iwan Morus, Athro Hanes yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru, a’r Athro Michael Woods, Athro Daearyddiaeth Ddynol a Gwyddorau Cymdeithasol Trawsnewidiol yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Tri arall sydd wedi eu hethol yw’r Athro Peter Barry, Athro Emeritws yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, yr Athro Howard Williams, Athro Emeritws yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a’r Athro Richard Rathbone, Athro Er Anrhydedd yn Adran Hanes a Hanes Cymru.  

Cafodd y penodiadau eu cyhoeddi gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru ddydd Iau 27 Ebrill 2017.

Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd. Etholir Cymrodyr yn dilyn asesiad trylwyr o’u cyflawniadau yn eu meysydd perthnasol.

Mae’r etholiad hwn yn cryfhau Cymrodoriaeth y Gymdeithas ymhellach drwy ychwanegu 44 o Gymrodyr newydd i’w rhengoedd, gan gynnwys dau Gymrawd er Anrhydedd, cyn Arlywydd Iwerddon, yr Athro Mary McAleese a’r Arglwydd Stewart Sutherland, Barwn Sutherland o Houndwood.

Bellach mae gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru dros 460 o Gymrodyr, yn ddynion a menywod nodedig o bob cangen dysg, sy’n ffigurau blaenllaw yn eu disgyblaethau academaidd neu broffesiynau penodol.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru: “Rwyf i’n falch iawn i groesawu amrywiaeth mor eang o unigolion rhagorol i’r Gymrodoriaeth eleni. Mae’r etholiad eleni yn gwerthfawrogi ysgolheigion sy’n gwneud cyfraniad o ragoriaeth. Maent hwy a’u gwaith yn ysbrydoliaeth i’r genedl. Eto eleni, etholwyd mwy o fenywod yn Gymrodyr sy’n adlewyrchu ymrwymiad y Gymdeithas i wobrwyo teilyngdod.”

Ymhlith y Cymrodyr eraill sydd wedi eu hethol ag sydd yn gyn-fyfyrwyr neu’n gyn-aelodau staff o Brifysgol Aberystwyth mae Dr Richard Bevins, Cyd-gyfarwyddwr Dros Dro (Casgliadau ac Ymchwil) a Cheidwad Gwyddorau Naturiol, Amgueddfa Cymru; Yr Athro Roy Goodacre, Athro Cemeg Fiolegol ym Mhrifysgol Manceinion; Yr Athro Andrew Henley, Athro Entrepreneuriaeth ac Economeg, Prifysgol Caerdydd; Yr Athro Diane Kelly, Athro Microbioleg ym Mhrifysgol Abertawe;  Yr Athro Damian Walford Davies, Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd.