Ap achub mewn trychineb naturiol GeoRescue yn ennill gwobr Her SateLife

Y myfyrwyr ar y radd MPhys Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a'r Gofod, Elliot Vale yn sefyll ger radar EISCAT ar Svalbard a goleuni’r gogledd yn awyr y nos.

Y myfyrwyr ar y radd MPhys Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a'r Gofod, Elliot Vale yn sefyll ger radar EISCAT ar Svalbard a goleuni’r gogledd yn awyr y nos.

02 Mai 2017

Mae myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill cyfle i gyflwyno ei syniad am ap achub mewn trychineb naturiol i gynrychiolwyr mewn cynhadledd flaenllaw am y Gofod.

Mae Elliot Vale yn astudio Ffiseg a Ffiseg y Planedau yn Aberystwyth a bu’n gweithio ar yr ap cysyniadol GeoRescue gyda Tia Mountain, myfyriwr ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr.

Bydd Elliot a Tia yn cyflwyno GeoRescue yng Nghynhadledd UK Space 2017 sy’n cael ei chynnal ym Manceinion o 30 Mai - 1 Mehefin.

Cynlluniwyd GeoRescue er mwyn cynorthwyo pobl sy'n byw neu'n teithio mewn ardaloedd lle mae perygl o drychineb naturiol yn uchel, ac mae’n darparu gwybodaeth mewn amser real ar drychinebau sy’n cael eu rhagweld, yn debygol neu’n digwydd.

Y nod hefyd fydd arwain pobl allan o'r ardal yr effeithiwyd arni gan ddefnyddio uwch wasanaethau mapiau.

Unwaith y bydd yr ap yn weithredol, bydd yn gyrru signal allan gan ddefnyddio GPS i ddynodi lleoliad person er mwyn cynorthwyo gwasanaethau chwilio ac achub.

Mae GeoRescue yn un o ddeuddeng enillydd Her SatelLife Asiantaeth Ofod y DU.

Roedd y gystadleuaeth, a oedd yn cynnig £50,000 mewn gwobrau, yn ceisio syniadau ysbrydoledig gan bobl ifanc 11 i 22 oed ar sut gellid defnyddio data lloeren i wella bywyd ar y Ddaear.

Fel rhan o’u gwobr enillodd Elliot a Tia £5,000 a chyfle nid yn unig i roi cyflwyniad i Gynhadledd Ofod y DU ym Manceinion, ond i gyflwyno eu syniad i banel o 'ddreigiau' o sector gofod y DU ym mis Mehefin.

Eu gobaith yw y gallai'r cyflwyniad hwn arwain at ddatblygu eu syniad yn ap gweithredol allai achub bywydau.

Fel rhan o'i radd MPhys pedair blynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Elliot yn dod i ddiwedd cyfnod o bum mis yn y Ganolfan y Brifysgol yn Svalbard tu fewn i'r Cylch Arctig.

Daeth yn gynyddol ymwybodol o beryglon trychinebau naturiol a defnydd posibl ar gyfer ap tebyg i GeoRescue wedi i eirlithrad ddinistrio tŷ ar yr archipelago Norwyaidd.

"Diolch byth nad chafodd unrhyw un eu hanafu gan yr eirlithrad, ond fe’m gwnaeth yn ymwybodol iawn o'r peryglon o fyw mewn amgylchedd peryglus," meddai Elliot.

"Y syniad gyda GeoRescue yw y gallwn rybuddio pobl o drychinebau a ragwelir neu sy’n digwydd fel eu bod yn ymwybodol ac yn gallu osgoi teithio i'r ardal honno, neu ei gadael os yn bosibl, rhybuddio pobl mewn ardaloedd sydd mewn perygl fel y gallant wneud cynlluniau addas, ac arwain pobl allan o ardaloedd lle y gallai trychineb naturiol ddigwydd neu lle mae un ar droed, a’u symud i ddiogelwch."

Ychwanegodd Elliot: "Yn ôl UNISDR, Swyddfa'r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Lleihau Risg Trychineb, adroddwyd ar 346 o drychinebau naturiol yn 2015, a achosodd farwolaethau 22,773 o bobl. Yn ogystal, effeithiwyd ar 98.6 miliwn o bobl ar gost gyfatebol o $66.5 billion dollar UD. Ein gobaith yw y bydd GeoRescue yn cynorthwyo i leihau’r peryglon y mae trychinebau naturiol yn eu peri i bobl.”

"Rydym wrth ein bodd i fod yn un o enillwyr Her SatelLife Asiantaeth Ofod y DU. Rydym yn edrych ymlaen at fynychu Cynhadledd UK Space 2017 a chyflwyno'r cysyniad i banel o arbenigwyr. Pwy a ŵyr, un diwrnod efallai y gwelwn yr ap yn cael ei ddatblygu’n ap go iawn sy'n achub bywydau."

Llongyfarchodd yr Athro Andrew Evans, Pennaeth yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Elliot ar ei lwyddiant.

"Mae Elliot yn enghraifft wych o sut mae ein myfyrwyr ffiseg wrth eu bodd yn datrys heriau," meddai'r Athro Evans.

"Mae blwyddyn olaf cwrs Ffiseg y Gofod yn UNIS ar Svalbard yn darparu hyfforddiant ardderchog yn ogystal â chynnig llawer o heriau ac mae'n wych bod Elliot wedi manteisio'n llawn ar y cyfle hwn i ddefnyddio ei sgiliau a’i wybodaeth i ddatrys problem byd go iawn a ysbrydolwyd gan ei brofiad yn yr amgylchedd dramatig hwn yn yr Arctig,” ychwanegodd yr Athro Evans.

Svalbard: Tir eirth gwyn ac aurorae

Mae Elliot yn un o saith o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sydd yn treulio semester yn astudio yng Nghanolfan y Brifysgol yn Svalbard - UNIS.

Casgliad o ynysoedd sy’n rhychwantu lledredau o tua 74N i 81N, ymhell y tu mewn i'r cylch Arctig yw Svalbard, ac un o'r ychydig ardaloedd gwyllt sydd heb eu cyffwrdd.

Mae llawer o'r ynysoedd wedi eu gorchuddio gan rewlifoedd ac maent yn gartref i fywyd gwyllt gan gynnwys eirth gwynion, ceirw, walrysiaid, morloi a llwynogod yr Arctig.

Dyma'r lle delfrydol i astudio ffiseg atmosfferig, ionospheric a gofod oherwydd yma, ar ledredau uchel y mae ffenomenau dramatig yn digwydd sy'n anhygyrch mewn mannau eraill, megis y fortecs nos begynol stratosfferig, disbyddu osôn, a’r cysylltiad rhwng maes magnetig y blaned â'r gofod rhyngblanedol drwy'r llinellau maes agored a geir ar ledredau pegynol.

Mae myfyrwyr ar y radd MPhys Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a'r Gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael y cyfle digyffelyb i dreulio ail semester eu blwyddyn olaf (Ionawr-Mai) yn astudio yn UNIS, prifysgol ryngwladol yn nhref Longyearbyen.

Yn ychwanegol at eu hastudiaethau academaidd, mae’n ofynnol i Elliot a'i gyd-fyfyrwyr dderbyn hyfforddiant goroesi, sy'n cynnwys mewn rhew môr ac eirlithradau.

Mewn ardal lle nad yw eirth gwyn yn anghyffredin, maent hefyd wedi eu haddysgu i ddefnyddio reifflau pwerus, er mwyn osgoi sylw diangen os oes angen.

“Mae'r profiad a gefais yma yn Svalbard wedi bod yn wych, yn enwedig y gallu i astudio'r aurorae - goleuadau’r gogledd”, meddai Elliot. “Ond mae angen i chi fod yn barod ar gyfer bywyd mewn lle oer. Ar ddiwrnod da gall fod yn -10, weithiau -20 ac ar y gwaethaf -30 gydag oerfel gwynt. Byddwn yn argymell y profiad yn fawr iawn, ond mae angen i chi baratoi yn iawn a chael yr offer priodol.”