Myfyriwr o Aberystwyth yn ennill gwobrau am fentergarwch

James Bryan gyda Julie James AC, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Llun:  Syniadau Mawr Cymru | Big Ideas Wales

James Bryan gyda Julie James AC, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Llun: Syniadau Mawr Cymru | Big Ideas Wales

03 Mai 2017

Mae myfyriwr israddedig blaengar o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill dwy wobr o fri mewn cystadleuaeth genedlaethol i ddod o hyd i’r mentergarwyr ifanc mwyaf dawnus yng Nghymru.

Cyflwynwyd gwobrau Entrepreneur y Dyfodol a Busnes Gorau Addysg Uwch i James Bryan, myfyriwr ail flwyddyn Busnes a Rheolaeth, yn rownd derfynol cystadleuaeth Dathlu Syniadau Mawr a gynhaliwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 30 Mawrth 2017.

Enillodd James y wobr am ei ap arloesol Snapsearch - for Snapchat, a lansiodd ar Apple iTunes ac ar http://snapsearchapp.co ym mis Hydref 2015.

“Mae Snapsearch yn gwella profiad defnyddwyr yn sylweddol ac mae’n eu galluogi i gysylltu â’i gilydd yn well ar Snapchat. Mae’n gwneud Snapchat yn haws i’w ddefnyddio, yn fwy diogel ac yn fwy o hwyl,” esboniodd James, 20, a gafodd y syniad am Snapsearch tra ei fod yn y chweched dosbarth.  

Mae Dathlu Syniadau Mawr yn gystadleuaeth ar gyfer pobl 16-25 oed yng Nghymru, a gall unigolion a grwpiau gynnig eu syniadau busnes neu brosiectau busnes sydd eisoes ar waith.

Yn y digwyddiad yng Nghaerdydd, gwahoddwyd deg ymgeisydd a oedd wedi cyrraedd y rhestr fer i roi munud o gyflwyniad ynglŷn â’u syniad neu fusnes i banel o feirniaid, ac roedd gan y panel dair munud pellach i ofyn cwestiynau.

Y categorïau ar gyfer y gwobrau oedd: Gweithgaredd Menter Gorau, Syniad Busnes Gorau, Gwobr Pwysigrwydd Arian, Gwobr Effaith Amgylcheddol, Gwobr Effaith Gymdeithasol a Gwobr Entrepreneur y Dyfodol. Yn ogystal, cyflwynwyd tair gwobr Busnes Gorau i gydnabod y busnesau gorau yn Addysg Uwch, Addysg Bellach a’r Chweched Dosbarth.  

Ar ôl y seremoni wobrwyo, dywedodd James:  “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill y ddwy wobr. Roedd y profiad yn wych a buaswn yn ei argymell i unrhyw fyfyrwyr sydd â syniadau busnes neu sydd â busnes eisoes. Roedd yn ddigwyddiad rhwydweithio ardderchog, ac yn gyfle gwych i gwrdd â phobl eraill sydd â’r un angerdd.”

Dywedodd Rheolwr Menter Prifysgol Aberystwyth, Tony Orme: “Mae James yn fentergarwr naturiol. Mae’n gweld cyfleoedd, yn eu hasesu a’u hymchwilio’n drylwyr, ac yna’n gweithredu. Mae James wedi manteisio ar bob cyfle a oedd ar gael iddo ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddatblygu ei gynnyrch ac i ddatblygu ei hun fel dyn busnes. Mae’n llawn haeddu’r gwobrau hyn am ei broffesiynoldeb.”

Trefnwyd y gwobrau Dathlu Syniadau Mawr gan Syniadau Mawr Cymru, sy’n gweithio tuag at weithredu Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (IE) Llywodraeth Cynulliad Cymru. Nod y strategaeth yw cefnogi pobl ifanc i gynyddu eu hymwybyddiaeth am fentergarwch, dod o hyd i’w hysbrydoliaeth, archwilio syniadau ac, yn y pen draw, lansio eu busnesau eu hunain.

 

AU15817