Cyrsiau newydd yn IBERS ar gyfer 2017

Bydd myfyrwyr ar y BSc Cadwraeth Bywyd Gwyllt yn datblygu dealltwriaeth eang o'r cysyniadau sylfaenol allweddol sy'n berthnasol i fioleg cadwraeth megis esblygiad ac amrywiaeth organebau; cynefinoedd ac ecosystemau ac agweddau perthnasol polisi a rheolaeth.

Bydd myfyrwyr ar y BSc Cadwraeth Bywyd Gwyllt yn datblygu dealltwriaeth eang o'r cysyniadau sylfaenol allweddol sy'n berthnasol i fioleg cadwraeth megis esblygiad ac amrywiaeth organebau; cynefinoedd ac ecosystemau ac agweddau perthnasol polisi a rheolaeth.

04 Mai 2017

Mae dau gynllun gradd israddedig newydd sbon mewn Bioleg Ddynol ac Iechyd, a Chadwraeth Natur wedi cael eu lansio gan Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd y cwrs BSc Bioleg Ddynol ac Iechyd yn adeiladu ar yr agweddau iechyd dynol o astudiaethau biolegol sydd eisoes ar gael drwy'r radd BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn IBERS.

Mae'r cwrs newydd yn cynnig dealltwriaeth eang o ddisgyblaethau biolegol er mwyn arfogi myfyrwyr gyda'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddilyn gyrfa flaengar o ran datblygiadau mewn meddygaeth, maetheg, gwyddor chwaraeon ac iechyd meddwl.

Bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar yr agweddau o fioleg sydd fwyaf perthnasol i'n rhywogaeth ein hunain; gan gynnwys geneteg, ffisioleg, bioleg celloedd ac anatomeg; a bydd hefyd yn datblygu gwerthfawrogiad o sut mae'r corff yn ymateb mewn cyflwr iach ac mewn afiechyd.

"Mae'r cwrs BSc israddedig newydd cyffrous hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am yrfa sy'n canolbwyntio ar wella iechyd a lles pobl," meddai Dr Daniel Low, Darlithydd mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff a chydlynydd cynllun y cwrs newydd.

Mae'r cwrs BSc Cadwraeth Bywyd Gwyllt yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr yn y gwyddorau naturiol i fyfyrwyr yn ogystal รข'r agweddau dynol o gadwraeth drwy eu galluogi i archwilio'r wybodaeth wyddonol gefndirol, a chysyniadau ecolegol wedi eu cymhwyso i gadwraeth planhigion dan fygythiad, ffawna a chynefinoedd.

Esboniodd Dr Jim Provan, Darllenydd mewn Gwyddorau Biolegol, a chydlynydd y Cynllun BSc Cadwraeth Bywyd Gwyllt yn IBERS: "Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth eang o'r cysyniadau sylfaenol allweddol sy'n berthnasol i fioleg cadwraeth megis esblygiad ac amrywiaeth organebau; cynefinoedd ac ecosystemau ac agweddau perthnasol polisi a rheolaeth."

Dywedodd Yr Athro Mike Gooding Cyfarwyddwr IBERS: “Mae'r cynlluniau newydd yma yn adlewyrchu angen cynyddol i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol, esblygol a chymdeithasol.

“Mewn cyfnod o newid byd-eang na welwyd mo’i debyg, mae’r angen i warchod bioamrywiaeth yn awr yn holl bwysig i ymchwil a pholisi. Yn yr un modd, mae bioleg ddynol yn hanfodol i ddatblygiadau mewn meddygaeth, iechyd a lles.”

“Bydd y ddau gwrs newydd yn galluogi myfyrwyr i ddefnyddio arbenigedd a gweithgaredd ymchwil helaeth gan staff o fewn IBERS i archwilio’r meysydd hanfodol yma."

Mae’r cyrsiau, a fydd yn rhedeg o fis Medi 2017, yn agored yn awr ar gyfer ceisiadau, ac ar gael fel opsiynau o 3 blynedd neu 4 blynedd (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) a fydd yn rhoi hwb ychwanegol ar gyfer y dyfodol.