Coroni Ffiseg yn Adran y Flwyddyn yng Ngwobrau Dysgu UMAber 2017

Enillwyr y Gwobrau Dysgu UMAber 2017. Llun: Mick McGrath

Enillwyr y Gwobrau Dysgu UMAber 2017. Llun: Mick McGrath

12 Mai 2017

Cafodd Ffiseg ei choroni yn Adran y Flwyddyn yng Ngwobrau Dysgu blynyddol Undeb Myfyrwyr Aberystwyth a gynhaliwyd nos Wener 5 Mai 2017.

Cynhaliwyd y gwobrau yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau a dyfarnwyd gwobr Darlithydd y Flwyddyn i’r Athro Mark Whitehead o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Derbyniwyd dros 400 o enwebiadau ar gyfer  yr 14 o wobrau gafodd eu cyflwyno yn ystod y noson, sy’n cydnabod staff a chynrychiolwyr academaidd ar draws y Brifysgol.

Dywedodd Ryan Myles, Swyddog Addysg yn Undeb y Myfyrwyr: “Heb amheuaeth, y Gwobrau Dysgu yw un o uchafbwyntiau calendr y Brifysgol. Maent yn ffordd ni ddathlu’r hyn sy’n gwneud Prifysgol Aberystwyth yn wych - ein staff sy'n mynd y filltir ychwanegol i ddod â’u pynciau’n fyw,  myfyrwyr sy'n cynrychioli eu cyfoedion mewn modd mor ardderchog, a’r aelodau staff hynny sy'n gweithio’n dawel yn y cefndir.”

“Rydw i mor falch o fod yn rhan o gymuned sy'n cydnabod ei myfyrwyr a staff yn y ffordd yr ydym yn ei wneud, ac roedd cael cynnal seremoni wobrwyo o'r fath yn anrhydedd. Roedd pa mor anodd oedd hi i ddewis rhestr fer eleni, heb sôn am yr enillwyr, yn brawf o pa mor weithgar mae ein myfyrwyr a’n staff.”

Wrth sôn am lwyddiant y gwobrau, dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Cawsom noson wych, gan ddiolch a dathlu aelodau staff, cynrychiolwyr myfyrwyr ac adrannau eithriadol sy'n helpu i wneud y Brifysgol hon mor arbennig. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi ennill ac wedi'u henwebu a diolch i Undeb y Myfyrwyr am drefnu digwyddiad mor wych.”

Enillwyr Gwobrau Dysgu UMAber 2017 oedd:

Gwobr Arwain Cydraddoldeb
Ruth Fowler (Adnoddau Dynol)

Gwobr Cam Nesaf
Alison Pierse (Dysgu Gydol Oes)

Gwobr Ddysgu Arloesol
Jukka Kiukas (Adran Mathemateg)

Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn
Alexandros Koutsoukis (Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol)

Goruchwyliwr y Flwyddyn (Ôl-raddedig)
Lucy Taylor (Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol)

Goruchwyliwr y Flwyddyn (Israddedig)
Jim Provan (Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig)

Gwobr Arwyr Etholiadau
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Gwobr Adborth Eithriadol
Ian Harris (Ysgol Busnes Aberystwyth)

Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn
Philip Perry (Ysgol Addysg)

Tiwtor Personol y Flwyddyn
Kim Kenobi (Adran Mathemateg)

Hyrwyddwr Iaith Gymraeg
Arddun Arwyn (Adran Hanes a Hanes Cymru)

Aelod Staff Ategol / Gwasanaethu'r Flwyddyn 
Helen Stockley-Jones (Canolfan Chwaraeon / Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear) 

Darlithydd y Flwyddyn
Mark Whitehead (Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear)

Adran y Flwyddyn
Adran Ffiseg