Prifysgol Aberystwyth yn parhau i ddringo’r tablau cynghrair

16 Mai 2017

Mae cynnydd Prifysgol Aberystwyth yn nhablau cynghrair y prifysgolion yn parhau yn sgil cyhoeddi canllaw prifysgol 2018 The Guardian.

Mae’r Brifysgol wedi dringo 27 safle, sef y cynnydd mwyaf yng Nghymru a’r ail fwyaf yn y DU.

Dyma hefyd berfformiad gorau Aberystwyth yn nhablau cynghrair The Guardian ers chwe blynedd.

Ar draws y Deyrnas Unedig, mae Aberystwyth yn drydydd am fodlonrwydd gyda’r cwrs, yn seithfed am fodlonrwydd gydag adborth, ac yn safle 11 am fodlonrwydd gyda’r addysgu.

Ar lefel pynciau unigol, mae Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd ynghyd â Chelf yn y deg uchaf yn y DU yn eu tablau cynghrair perthnasol.

Yn ogystal, mae Celf ar frig y tabl pwnc am fodlonrwydd gyda’r cwrs a’r addysgu, ac ymhlith y deg gorau am fodlonrwydd gyda safon yr asesu.

Mae Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol hefyd ar frig eu tabl pwnc o ran bodlonrwydd addysgu, tra bod y Gwyddorau Daear a Morol; Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd, ac Ieithoedd Modern ymhlith y deg uchaf.

O ran bodlonrwydd gyda’r cwrs, mae Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd ar frig y tabl pwnc yn y DU tra bod Gwyddorau Daear a Morol; Hanes; Gwleidyddiaeth; a Chynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth i gyd yn y deg uchaf.

Mae sawl pwnc yn y deg uchaf yn y DU ar gyfer adborth sef Seicoleg; y Gwyddorau Daear a Morol; Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd; Mathemateg; Cyfrifeg a Chyllid; a Chelf.

O ran rhagolygon gyrfa, mae Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Bwyd; ac Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth yn y deg uchaf.

Roedd newyddion da pellach i Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth gan fod y pwnc ymhlith y dringwyr uchaf yn y tabl pwnc, ynghyd ag Astudiaethau Ffilm a Chyfryngau.   

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb am Brofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Dyma’r pumed tro mewn deg mis i Aberystwyth ddringo’n sylweddol mewn tablau cynghrair prifysgol. Yr hyn sy’n gyrru’r cynnydd hwn yw bodlonrwydd ein myfyrwyr sy’n cael ei adlewyrchu yn y canlyniadau ardderchog a welir yn y meysydd pwnc a’r adrannau unigol yn y tabl cynghrair diweddaraf. Mae hyn yn ei dro yn adlewyrchu safon ein haddysgu, ein hymchwil sydd o safon fyd-eang, a’n mentrau cyflogadwyedd. Ynghyd â buddsoddiad sylweddol y Brifysgol yn ei chyfleusterau, llety myfyrwyr sydd ymhlith y gorau yn y DU ac ystafelloedd dysgu o’r radd flaenaf, dyma dystiolaeth ychwanegol bod Aber yn ddi-os yn lle eithriadol i ddysgu a byw.”

Mae’r canlyniadau diweddaraf yn adeiladu ar lwyddiant Aberystwyth mewn tablau cynghrair yn ystod y 12 mis diwethaf.

Ym mis Awst 2016, dathlodd Prifysgol Aberystwyth ei pherfformiad gorau erioed yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (ACM) gyda bodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr o 92%.

Roedd Aberystwyth ar y brig yng Nghymru ac yn bedwaredd orau o blith prifysgolion eang eu darpariaeth y DU, yn ôl ACM 2016.

Ym mis Medi 2016, llamodd Aberystwyth 23 safle yn nhabl cynghrair The Times and Sunday Times Good University Guide, gan gyrraedd y degfed safle yn y DU am ragoriaeth dysgu a’r 19eg safle am brofiad myfyrwyr, yn yr hyn a ddisgrifiwyd gan y cyhoeddiad fel "trawsnewidiad rhyfeddol ers 2015".

Yng ngwobrau What Uni 2017, roedd Aberystwyth ymhlith y Deg Uchaf yn y DU o ran Prifysgol y Flwyddyn, Llety, Cyrsiau a Darlithwyr, Rhyngwladol ac Ôl-raddedig.

Ac ym mis Ebrill 2017, gwelodd Aberystwyth y cynnydd mwyaf yng Nghymru ac un o’r pedwar gorau yn y DU yn nhabl The Complete University Guide.

Mae tablau cynghrair The Guardian yn cynnwys 121 o sefydliadau addysg uwch ac wedi eu seilio ar wyth ffon fesur: Bodlonrwydd gyda’r cwrs, Bodlonrwydd gyda’r addysgu, Bodlonrwydd gyda’r adborth, Cymhareb Myfyrwyr/Staff, Gwariant y myfyriwr; Cyfartaledd tariff mynediad, Sgôr ychwanegu gwerth a Gyrfa wedi chwe mis.

Mae rhagor o wybodaeth am The Guardian University Guide 2018 ar gael arlein.