Ymunwch â CAA Cymru i ddathlu’r byd cyhoeddi Cymraeg yn y Fedwen Lyfrau eleni

Dewch â’ch teuluoedd i ymuno â CAA Cymru ar antur anhygoel, yn seiliedig ar ein llyfr, Sali a’r bownsiwr gofod gwyllt, yn y Fedwen Lyfrau eleni. Bydd Seren a Lobs, cymeriadau S4C, angen eich help i ennill sêr er mwyn achub eu planed, Asra!

19 Mai 2017

Bydd CAA Cymru yn cymryd rhan yn y Fedwen Lyfrau unwaith eto eleni. Cynhelir y Fedwen yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar garreg drws CAA Cymru, ddydd Sadwrn yr 20fed o Fai.

Trefnir y digwyddiad gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru, sef pwyllgor sy’n cynrychioli cyhoeddwyr ledled Cymru, er mwyn dathlu a mwynhau’r gorau o’r byd cyhoeddi cyfrwng Cymraeg. Delyth Ifan, Cyfarwyddwr CAA Cymru, yw cadeirydd y Cwlwm eleni.

Dewch â’ch teuluoedd i ymuno â CAA Cymru ar antur anhygoel, yn seiliedig ar ein llyfr, Sali a’r bownsiwr gofod gwyllt, yn y Fedwen Lyfrau eleni. Bydd Seren a Lobs, cymeriadau S4C, angen eich help i ennill sêr er mwyn achub eu planed, Asra!

Mae sesiwn stori CAA yn y Fedwen Lyfrau yn cychwyn am 10:45 yn sinema Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Bydd yn ddiwrnod llawn hwyl i’r holl deulu. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi yno!

Mae 2017 yn flwyddyn bwysig iawn i CAA Cymru, gan ein bod yn dathlu 35 mlynedd o gyhoeddi ym mis Medi. Cadwch lygaid ar ein gwefan ac ar ein cyfryngau cymdeithasol er mwyn cael gwybod am y newyddion, y digwyddiadau a’r cynhigion diweddaraf.