Y tenant cyntaf yn cyd-leoli ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth

30 Mehefin 2017

Gloversure Cyf, sydd wedi ei sefydlu gan un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth Richard Glover-Davies, yw'r cwmni cyntaf i gymryd tenantiaeth ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth.

Llwyddiant i rewlifegwyr wrth iddynt dyllu rhewlif uchaf y byd

30 Mehefin 2017

Y rhewlifegwyr o Aberystwyth, yr Athro Bryn Hubbard a Katie Miles yn llwyddo yn eu humgais i fod yn cyntaf yn y byd i dyllu rhewlif uchaf y byd sydd yn nhroedfynyddoedd Everest, Khumbu.

Cyflogadwyedd graddedigion Aberystwyth yn parhau i godi

29 Mehefin 2017

Mae mwy o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn dod o hyd i swyddi da ar ôl graddio nac erioed o’r blaen yn ôl arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch sydd newydd ei gyhoeddi.

Ymchwil a robotiaid ar y prom

28 Mehefin 2017

Bydd robotiaid a adeiladwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth gan blant ysgol lleol yn cael eu harddangos yn y Bandstand Ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf 2017.

Athro o Aberystwyth yn golygu cyfnodolyn hanes mwyaf blaenllaw’r byd

26 Mehefin 2017

Economic History Review, cyfnodolyn sydd yn cael ei gyd-olygu gan yr Athro Phillipp Schofield o Adran Hanes a Hanes Cymru, ar frig tabl cyfnodolion hanes Thompson Reuters.

Cyngor a chanllawiau ymchwil i fyfyrwyr Bagloriaeth Cymru

22 Mehefin 2017

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn croesawu cannoedd o fyfyrwyr chweched dosbarth i’r campws yr haf hwn fel rhan o brosiect Diwrnodau Profiad Bagloriaeth Cymru. 

Barn pobl ifanc am Brexit

21 Mehefin 2017

Flwyddyn wedi’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn trafod ymateb pobl ifanc yng Nghymru mewn cynhadledd yn Llundain ar ddydd Iau 22 Mehefin 2017.

Cryfhau cysylltiadau addysgiadol gyda Tsieina

20 Mehefin 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi adnewyddu ei phartneriaeth gydag Phrifysgol fawr ei bri o Tsieina, Hohai.

Cynghori ar gydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer FfRhY 2021

16 Mehefin 2017

Mae Cyfarwyddwr Ymchwil, Busnes ac Arloesi wedi ei ddewis i gynghori ar gydraddoldeb ac amrywiaeth cyn y prif asesiad nesaf o ansawdd ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch yn y Deyrnas Unedig (DU).

Pennaeth Rhaglenni newydd BBC Radio 1 o Aberystwyth

16 Mehefin 2017

Aled Haydn Jones, a urddwyd gyda Gradd er Anrhydedd yn y Celfyddydau o Brifysgol Aberystwyth yng Ngorffennaf 2016, yn cael ei benodi'n Bennaeth Rhaglenni BBC Radio 1,

Dau o gyn-fyfyriwr ar restr fer gwobrau barddoniaeth mawreddog

16 Mehefin 2017

Mae dau o gyn-fyfyrwyr Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth Richard Georges a  Maria Apichella wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Barddoniaeth Forward 2017.

Myfyriwr o Aberystwyth yn addasu technoleg sganio CT ar gyfer astudiaeth arloesol o wenith

13 Mehefin 2017

Mae technoleg sganio CT sydd yn gyffredin mewn ysbytai yn cael ei haddasu gan Nathan Hughes, myfyriwr israddedig ym maes Cyfrifiadureg er mwyn cael gwybodaeth newydd o ddelweddau 3D o bennau grawn gwenith.

Gwirioni ar flodau gwyllt

13 Mehefin 2017

Mae Rheolwr Tiroedd Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn cadw dyddiadur gweledol i gofnodi datblygiad gwely o flodau gwyllt lliwgar ar gampws Penglais.

Prifysgol Aberystwyth yn lansio arolwg o droseddau mewn ardaloedd gwledig

13 Mehefin 2017

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn galw ar ffermwyr yn ardal Heddlu Dyfed-Powys i gyfrannu at astudiaeth newydd o droseddau mewn ardaloedd gwledig.

Y chwilio am fodau dynol cynnar yn ysbrydoli arddangosfa gelf

06 Mehefin 2017

Mae arddangosfa gelf-wyddoniaeth newydd sy’n ceisio deall amgylchedd hinsoddol ein cyndeidiau cynnar i’w gweld yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar hyn o bryd.

Cyhoeddi rhifyn 2017 Y Ddraig

05 Mehefin 2017

Mae rhifyn diweddaraf Y Ddraig, cylchgrawn llenyddol Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, newydd ei gyhoeddi.

Alumna Aber yn ennill Medal Ddrama’r Urdd

01 Mehefin 2017

Cyn fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth yw enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Tac ac Elái 2017.


Daeth Mared Llywelyn Williams, sy’n 24 oed, yn fuddugol gyda drama yn dwyn y teitl “Lôn Terfyn”.


Yn ôl y beirniad, roedd hon yn “ddrama afaelgar” ac roedd “safon ac uchelgais y ddrama hon yn hollol haeddiannol o’r fedal”. 

Ysgol Fusnes Aberystwyth yn cynnal Brecwast Busnes

05 Mehefin 2017

Mae arweinwyr busnes o bob rhan o'r rhanbarth wedi dod at ei gilydd ar gyfer Brecwast Busnes a gynhaliwyd gan Ysgol Fusnes Aberystwyth mewn partneriaeth â Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru (MWMG).


Roedd y digwyddiad poblogaidd yn yr Ysgol Fusnes ar gampws Llanbadarn fis Ebrill yn canolbwyntio ar adeiladu ac adfywio cysylltiadau gyda'r gymuned fusnes lleol.