Gwirioni ar flodau gwyllt

13 Mehefin 2017

Mae Rheolwr Tiroedd Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn cadw dyddiadur gweledol i gofnodi datblygiad gwely o flodau gwyllt lliwgar ar gampws Penglais.

Mae’r gwely blodau trawiadol yn rhedeg islaw adeilad Hugh Owen tuag at Ganolfan y Celfyddydau.

Mae’n cynnwys cymysgedd o fylbiau’r gwanwyn a blannwyd o dan 476m² o dywarch blodau gwyllt ac a fydd yn blodeuo un ar ôl y llall.

Ers i’r blodau cyntaf ddechrau ymddangos, mae’r gwely blodau wedi ennyn cryn dipyn o sylw ac adborth cadarnhaol oddi wrth fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr.

Sgroliwch i lawr i weld ein halbwm Flickr o’r blodau gwyllt.

Mae Paul Evans wedi bod yn arwain y prosiect yn ei rôl fel Rheolwr Tiroedd yn Adran Ystadau’r Brifysgol: “Ym mis Tachwedd 2016, fe wnaethom blannu cymysgedd o 30,000 o fylbiau’r gwanwyn o dan haenen o dywarch blodau gwyllt. Mae hyn yn cyfuno manteision bylbiau’r gwanwyn sy’n blodeuo’n gynnar â’r blodau gwyllt sy’n blodeuo’n hwyrach, ac felly bydd yn darparu lliwiau a diddordeb cyson am tua wyth mis o’r flwyddyn. 

“Un o’r llu o fanteision sydd wedi deillio o’r prosiect yw gwella bioamrywiaeth ar y campws. Mae’r gwely blodau yn darparu neithdar cynnar i beillwyr o’r chwe amrywiaeth gwahanol o fylbiau gwanwyn cynnar, ac yn ddiweddarach bydd y 35 math o flodau gwyllt cynhenid a’r 15 math o flodau lluosflwydd anghynhenid yn estyn y tymor hyd at ddiwedd yr hydref.

“Mae hefyd yn golygu na fydd angen i ni dreulio cymaint o amser yn tocio planhigion a thorri’r gwair; mae’n gyfeillgar i’r amgylchedd ac mae’n darparu tymor hir o liwiau a diddordeb.

“Mae’r adborth oddi wrth staff, myfyrwyr ac ymwelwyr wedi bod yn ardderchog, yn cynnwys sylwadau canmoliaethus, negeseuon e-bost, a phobl yn tynnu lluniau’n gyson. Dwi ddim yn meddwl bod diwrnod wedi mynd heibio heb i rywun wneud sylw amdano.”

Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredol: “mae Campws Penglais eisoes yn cynnig golygfeydd trawiadol dros Fynyddoedd Cambria, tref Aberystwyth, ac arfordir Bae Ceredigion. Bydd y gwely blodau gwyllt newydd, sydd i’w weld yn newid lliw bob wythnos bron, yn ychwanegu at fwynhad ein hymwelwyr yn ogystal â gwella bioamrywiaeth ar ein campws prydferth. Gall darpar fyfyrwyr ac ymwelwyr weld y blodau yn eu holl ogoniant pan fyddant yn ymweld â’n Diwrnod Agored nesaf ddydd Mercher 12 Gorffennaf.”

Bellach mae yna ddeunaw ardal o flodau gwyllt ar Gampws Penglais.

 

Gwely o flodau gwyllt | Wildflower bank

AU20717