Cynghori ar gydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer FfRhY 2021

16 Mehefin 2017

Mae Cyfarwyddwr Ymchwil, Busnes ac Arloesi Prifysgol Aberystwyth wedi ei ddewis i gynghori ar gydraddoldeb ac amrywiaeth cyn y prif asesiad nesaf o ansawdd ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch yn y Deyrnas Unedig (DU).

Dewiswyd Mr Gary Reed i eistedd ar y Panel Cynghori ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY).‌

Y FfRhY, a gynhaliwyd ddiwethaf yn 2014, yw’r drefn ar gyfer asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.

Ymgymerir â’r FfRhY gan y pedwar corff cyllido addysg uwch yn y DU, yn cynnwys Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Canlyniadau’r ymarfer, a fydd yn cael ei gynnal nesaf yn 2021, sy’n sail i’r modd y bydd arian cyhoeddus yn cael ei ddyrannu ar gyfer ymchwil.

Mae’r pedwar corff cyllido addysg uwch yn y DU wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn gyrfaoedd ymchwil, ac yn annog sefydliadau yn gryf i sicrhau trefniadau teg a thryloyw sy’n cefnogi gwaith eu holl ymchwilwyr.

Sefydlwyd Panel Cynghori ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth y FfRhY i gynghori cyrff cyllido addysg uwch y DU, tîm y FfRhY a phaneli’r FfRhY ar weithredu mesurau cydraddoldeb yn y FfrRhY.

Yn y lle cyntaf, bydd y Panel Cynghori yn cefnogi datblygu meini prawf sy’n cydnabod ystyriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob elfen o’r cyflwyniadau i’r FfRhY nesaf.

Bydd y Panel Cynghori yn rhoi cyngor i dîm y FfRhY ynglŷn ag a ddylai fod ganddo rôl benodol yng ngham cyflwyno ac asesu’r FfRhY nesaf, ar ôl iddo gwblhau’r gwaith cychwynnol.  

Meddai Gary Reed: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy enwebu gan Brifysgol Aberystwyth a CCAUC i gynrychioli Cymru ar y panel FfRhY pwysig hwn a’r nod yw cefnogi’r FfRhY nesaf i gynrychioli amrywiaeth gyflawn y gymuned ymchwil yn addysg uwch y DU.  O brofiad personol, rwy’n ymwybodol iawn o ragfarn a gwahaniaethu, er nad yn eu ffurfiau amrywiol ar gyfer pobl â gwahanol nodweddion gwarchodedig; ond hyderaf y bydd y profiadau hyn, fy mhrofiad o drefnu FfRhY2014 ym Mhrifysgol Aberystwyth,  fy nirnadaeth a’m empathi yn fewnbwn gwerthfawr ar gyfer cyflawni FfRhY a fydd yn cynrychioli holl amrywiaeth y sector ac yn hybu’r angen ar gyfer rhagor o ddealltwriaeth a mentrau cydraddoldeb ac amrywiaeth.”

Mr Gary Reed

Ymunodd Gary Reed â Phrifysgol Aberystwyth University yn 2007, gan arwain Partneriaeth Ymchwil a Menter prifysgolion Aberystwyth a Bangor, a gafodd ei hariannu trwy £10.9M gan CCAUC.

Yn 2010, sefydlodd Swyddfa Ymchwil Aberystwyth ac yn 2013 ef a arweiniodd yr uno rhwng y swyddfa hon a’r swyddfa fenter. Gary oedd Rheolwr FfRhY2014 Prifysgol Aberystwyth, a oedd yn cynnwys rôl Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y FfRhY.

Yn ei waith fel Cyfarwyddwr Ymchwil, Busnes ac Arloesi Prifysgol Aberystwyth, mae Mr Reed yn arwain pum swyddogaeth gyda 24 o bobl yn cefnogi datblygiad ymchwil a menter.

Ar hyn o bryd, mae Mr Reed ar secondiad i’r Sefydliad Arweinyddiaeth Addysg Uwch fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Aelodaeth (Cymru) am dridiau yr wythnos tan Ebrill 2018. Yn y swydd hon, mae e’n cydgysylltu ag uwch-reolwyr yn sefydliadau addysg uwch Cymru ar lywodraethu, arwain a rheoli, a hefyd yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, CCAUC a Phrifysgol Cymru.

Cyn hyn, bu Gary yn gweithio ym myd rheoli academaidd ym Mhrifysgol Loughborough am 10 mlynedd, lle bu’n gyfarwyddwr ymchwil y ganolfan rheoli modurol. Mae ganddo brofiad pellach fel athro ysgol uwchradd cymwysedig, darlithydd Coleg Addysg Bellach, ac ym maes gwerthiant systemau telathrebu. Roedd Gary hefyd yn Gadeirydd y Ganolfan i Bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yng Nghaerlŷr, sy’n dwyn statws elusennol, rhwng Ionawr 2005 a Mai 2007.  

 

AU20417