Cyngor a chanllawiau ymchwil i fyfyrwyr Bagloriaeth Cymru

Disgyblion chweched dosbarth Ysgol Gymunedol Aberdâr y tu allan i adeilad Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth ym mis Mehefin 2017.

Disgyblion chweched dosbarth Ysgol Gymunedol Aberdâr y tu allan i adeilad Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth ym mis Mehefin 2017.

22 Mehefin 2017

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn croesawu cannoedd o fyfyrwyr chweched dosbarth i’r campws yr haf hwn fel rhan o brosiect Diwrnodau Profiad Bagloriaeth Cymru.

Nod y rhaglen addysgol yw cynnig arweiniad arbenigol i ddisgyblion ar gyfer eu Prosiect Unigol, yn ogystal â rhoi rhagflas ar fywyd prifysgol a chyfle i ymweld ag un o bump o lyfrgelloedd hawlfraint y DU.

Mae'r Brifysgol wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ar y prosiect gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru am y pum mlynedd diwethaf. Ers 2012, mae mwy na 2,000 o fyfyrwyr Blwyddyn 12 o ysgolion ar draws de a gorllewin Cymru wedi ymweld â'r Brifysgol i gymryd rhan mewn Diwrnod Profiad Bagloriaeth.

Eleni, bydd disgyblion o 11 o ysgolion gwahanol yn treulio diwrnod yn Aberystwyth rhwng 22 Mehefin - 12 Gorffennaf, 2017 gan gynnwys Ysgol Gymunedol Aberdâr, Ysgol Bro Hyddgen, Ysgol Emlyn, Ysgol Rhydywaun, Ysgol Maesydderwen, Ysgol Bro Pedr, Ysgol Bro Myrddin, Ysgol Aberaeron, Gwernyfed, Porth a Ferndale.

Bydd eu hymweliadau yn dechrau gyda gweithdy dan ofal staff academaidd yn Sefydliad Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg y Brifysgol. Nod y gweithdy yw helpu disgyblion i ofyn y cwestiynau cywir yn eu Prosiectau Unigol ac i amlygu ffyrdd gwahanol o fynd ati i wneud gwaith ymchwil.

Byddan nhw hefyd yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn cael cyflwyniad i gyfoeth casgliadau’r sefydliad yn ogystal â'i adnoddau ar-lein.

Fel rhan o’r daith, bydd cyfle i weld yr Ystafelloedd Darllen, arddangosfeydd cyhoeddus ac ardaleodd mynediad cyfyng, yn ogystal â chael chyfarwyddiadau ar sut i ymuno â'r Llyfrgell a derbyn Tocyn Darllenwr.

Gall y disgyblion hefyd fynychu gweithdy ar gyfeirnodi Harvard sy’n elfen hanfodol o'r Prosiect Unigol.

Gan ddefnyddio enghreifftiau o gasgliadau’r Lyfrgell Genedlaethol, byddan nhw’n dysgu sut i gyfeirnodi manylion perthnasol wrth ymchwilio a sut i ddyfynu’n gywir.

Cynnig gweithdy sgiliau fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ganolbwyntio ar ddibynadwyedd ffynonellau gwahanol o wybodaeth - o Wikipedia i ddatganiadau’r llywodraeth - er mwyn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwilio a meddwl beirniadol.

Y nod yw annog pobl ifanc i ystyried pa wybodaeth sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer eu prosiectau unigol cyn gwneud penderfyniad ynghylch y lle gorau i ddod o hyd i’r wybodaeth honno.

Caiff Diwrnodau Profiad Bagloriaeth Cymru eu cydlynu gan Dewi Phillips o Dîm Cyswllt Ysgolion Prifysgol Aberystwyth: "Rydym yn wirioneddol ffodus yma yn Aber i gael mynediad i academyddion ysbrydoli, yn Llyfrgell Genedlaethol byd-enwog a chefnogaeth wych gan y Genedlaethol Cynulliad Cymru sy'n ein galluogi i gynnig profiad unigryw hwn ar gyfer myfyrwyr chweched dosbarth. Mae'n bwysig bod Sefydliadau Addysg Uwch megis ysgolion cefnogi Aberystwyth a cholegau drwy gynnig cymorth gyda chymhwyster pwysig fel Bagloriaeth Cymru a rhannu eu gwybodaeth drwy bartneriaethau fel hyn. "

Dywedodd Rhodri Morgan, Swyddog Addysg y Llyfrgell Genedlaethol: “Un o flaenoriaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw cynnig mynediad i bobl ieuanc at ei chasgliadau amrywiol, eu cynorthwyo i ddehongli'r deunyddiau a'u defnyddio yn eu hastudiaethau. Hefyd, fel rhan o'r bartneriaeth gynhyrchiol yma gyda Phrifysgol Aberystwyth a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'r Llyfrgell yn hyrwyddo a chefnogi dysgu sgiliau hanfodol sy'n bwysig i addysg y disgyblion.”

Dywedodd Kate Gravell, Swyddog Addysg yn y Cynulliad Cenedlaethol: "Mae'n bleser cael bod yn rhan o’r bartneriaeth lwyddiannus hon sydd nid yn unig yn helpu pobl ifanc gyda chymhwyster Bagloriaeth Cymru ond sydd hefyd yn ein galluogi ni i'w haddysgu am y broses ddemocrataidd".