Cychod ymchwil morol newydd i’r Brifysgol

Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, gyda Dr Pippa Moore, cydlynydd cynllun gradd bioleg forol a dŵr croyw IBERS gyda myfyrwyr ar fwrdd Taliesin.

Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, gyda Dr Pippa Moore, cydlynydd cynllun gradd bioleg forol a dŵr croyw IBERS gyda myfyrwyr ar fwrdd Taliesin.

12 Gorffennaf 2017

Mae dau gwch ymchwil morol newydd sbon yn cael eu lansio gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd newydd.

Mae cyllid gan y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Llywodraeth Cymru wedi galluogi prynu cwch 6.5m aer caled (RIB) a catamarán 10 metr Cheetah a adeiladwyd yn benodol ar gyfer y brifysgol, sydd yn gallu cario hyd at 12 o deithwyr a chriw, ynghyd ag offer samplo gwaith maes eigioneg ac offer plymio gwyddonol cysylltiedig.

Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) fydd yn gyfrifol am y cychod ac mi fyddant yn golygu cynyddu’r nifer o brosiectau ymchwil morol yng Nghanolbarth Cymru a chyfoethogi’r profiadau ymchwil ac addysgu o fewn IBERS ac adrannau eraill gan gynnwys Daearyddiaeth, Cyfrifiadureg a Ffiseg.

Mi fydd y cychod newydd yn galluogi prosiectau megis mapio gwymon dŵr bas i ymchwilio ei botensial wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd, archwilio bioamrywiaeth Bae Ceredigion, gan gynnwys diet y boblogaeth dolffiniaid breswyl ail fwyaf yn y DU, a'r defnydd o robotiaid ar gyfer mapio cynefinoedd tanddwr.

Cafodd y cychod eu henwi yn dilyn pleidlais ymhlith staff a myfyrwyr IBERS, gan godi £100 ar gyfer RNLI Borth yn y broses. Enwyd y RIB, Idris, ar ôl Cader Idris sy'n edrych dros Fae Ceredigion, a’r catamarán yn Taliesin, ar ôl y bardd dirgel o chwedloniaeth Cymru a oedd ganddo gysylltiadau â'r môr a chaffael gwybodaeth.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mi fydd cael ein cychod ein hunain yn hwyluso ymchwil morol ym Mae Ceredigion yn ogystal â darparu ychwanegiad gwych at yr ystod eang o gyfleusterau rydym eisoes yn eu cynnig i fyfyrwyr yma yn Aberystwyth. Mi fydd yn galluogi myfyrwyr i ychwanegu ymhellach at eu sgiliau mewn marchnad swyddi sydd yn gynyddol gystadleuol.”

Bydd y cychod yn cael eu defnyddio gan fyfyrwyr bioleg môr a dŵr croyw ac mi fydd llawer ohonynt yn dilyn gyrfaoedd yn gweithio i reoleiddwyr amgylcheddol yn y DU a thramor, a ymgynghoriaethau ecolegol neu gyrff anllywodraethol.

Dywedodd Dr Pippa Moore, Cydlynydd cynllun gradd bioleg forol a dŵr croyw IBERS: “Derbyniodd ein cyrsiau Bioleg Môr a Dŵr Croyw gyfradd bodlonrwydd myfyrwyr o 93% yn yr  Arolwg Bodlonrwydd Myfyrwyr Cenedlaethol diweddaraf yn 2016 ac maent yn 10 uchaf y Guardian yn y DU am 2017.

“Mae ein cwrs newydd Cadwraeth Ddyfrol Gymhwysol yn defnyddio’r cychod ymchwil newydd ac yn canolbwyntio ar y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio ym maes cadwraeth ddyfrol, ac yn sicrhau bod myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn parhau i fod mor gystadleuol â phosibl ar gyfer swyddi yn y sector hwn.

“Bydd myfyrwyr yn rhoi eu sgiliau newydd ar waith yn ystod yr wythnos gwaith maes lle bydd defnydd helaeth yn cael ei wneud o'r ddau gwch ymchwil newydd, gan roi iddynt y profiad ymarferol o dechnegau a ddefnyddir gan fiolegwyr dyfrol proffesiynol.

“Bydd y cychod yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd â treillrwydo pysgod, gosod potiau ar gyfer astudiaethau marcio ac ail-ddala cimychiaid neu grancod, a samplo trwy gipio i adnabod organebau sy'n byw yn y tywod - prosesau a elwir yn samplu benthig a cefnforol.

“Rydym hefyd yn bwriadu cael pecyn ar gyfer samplu acwstig fel gweithgaredd y dolffin. Rydym hefyd am gael offer deifio llawn ac yn rhagweld ymgorffori deifio gwyddonol i'n haddysgu yn y dyfodol.”

Mae IBERS yn sefydlu cysylltiadau cryf gyda chlwb deifio Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth fel eu bod yn hyfforddi'r myfyrwyr sut i ddeifio, gan alluogi darlithwyr IBERS i'w dysgu mewn technegau samplu o dan y dŵr yn y 3edd flwyddyn.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn lleoliad perffaith ar gyfer astudiaethau bioleg forol a dŵr croyw, mewn lleoliad rhagorol ar arfordir Bae Ceredigion, yn llythrennol o fewn tafliad carreg i’r môr.