Cyflwyno cais caniatâd cynllunio Pantycelyn

Aelodau o Fwrdd Prosiect Pantycelyn sy'n arwain y gwaith o ailwampio'r neuadd breswyl ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

Aelodau o Fwrdd Prosiect Pantycelyn sy'n arwain y gwaith o ailwampio'r neuadd breswyl ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

13 Gorffennaf 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno cais i Gyngor Sir Ceredigion am ganiatâd cynllunio i ailwampio neuadd breswyl hanesyddol Pantycelyn.

Y nod yw creu 200 o ystafelloedd gwely en-suite ynghyd â gofod cymdeithasu at ddefnydd myfyrwyr a’r gymuned leol.

Mae penseiri a benodwyd gan Brifysgol Aberystwyth wedi llunio cynlluniau manwl yn dangos sut mae’r Brifysgol yn bwriadu trawsnewid Pantycelyn yn llety o’r radd flaenaf ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith.

Wrth greu’r cynlluniau cysyniadol, bu’r tîm o benseiri yn trafod gyda myfyrwyr a staff ystadau’r Brifysgol yn ogystal â thynnu ar gasgliadau’r ymgynghoriad a wnaed gan gwmni Old Bell 3 ar ran y Brifysgol yn 2015-16.

O sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer y newidiadau i’r adeilad Gradd 2 rhestredig, y bwriad yw ailagor Pantycelyn erbyn mis Medi 2019.

“Dyma garreg filltir bwysig arall yn hanes Pantycelyn wrth i ni symud gam yn nes at ailagor yr adeilad fel llety myfyrwyr,” meddai Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn.

Bydd y cynlluniau cysyniadol i’w gweld ym Mhafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd (24-27 Gorffennaf) ac ar stondin y Brifysgol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn (4-12 Awst). Maen nhw hefyd i’w gweld ar wefan y Brifysgol.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae miloedd o fyfyrwyr wedi byw a mwynhau awyrgylch Pantycelyn dros y blynyddoedd ac rydyn ni’n awyddus bod y cynlluniau yma yn cael eu gweld gan gynifer o bobl a phosib. Ac wrth i’r cais am ganiatâd cynllunio fynd gerbron y cyngor sir, mae’r Brifysgol yn bwrw ymlaen gyda’r gwaith o sicrhau bod y cyllid angenrheidiol yn ei le ar gyfer y prosiect uchelgeisiol hwn.”

Dywedodd Gwion Llwyd, Llywydd UMCA: “Mae Pantycelyn wedi bod yn gartref i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ers degawdau ac mae’r neuadd wedi bod yn rhan annatod o fywyd a diwylliant Cymraeg y dre ers dros 40 o flynyddoedd. Mae gweld y cynlluniau ar gyfer y dyfodol nawr yn hynod gyffrous ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld y neuadd yn ailagor fel llety ar gyfer myfyrwyr Cymraeg erbyn mis Medi 2019.”

  • Cynlluniau cysyniadol Pantycelyn