Cyflwyno’r Faner Werdd i Brifysgol Aberystwyth am y drydedd flwyddyn yn olynol

Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i Brifysgol Aberystwyth i sicrhau Gwobr y Faner Werdd.

Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i Brifysgol Aberystwyth i sicrhau Gwobr y Faner Werdd.

18 Gorffennaf 2017

Mae Gwobr y Faner Werdd wedi ei chyflwyno i Brifysgol Aberystwyth am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac mae campws Penglais a champws Llanbadarn wedi derbyn cydnabyddiaeth am ragoriaeth yr adnoddau a safon wych y mannau gwyrdd.

Datgelwyd enillwyr Gwobrau'r Faner Werdd heddiw, ddydd Mawrth 198 Gorffennaf 2017. Maent yn cael eu cyflwyno’n flynyddol gan Cadwch Gymru’n Daclus, marc rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o ansawdd.

Caiff cynllun Gwobr y Faner Werdd ei gyflwyno yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Caiff ei beirniadu gan arbenigwyr mannau gwyrdd, sydd yn gwirfoddoli eu hamser i ymweld â’r safleoedd sy’n gwneud cais a’u hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, yn cynnwys safonau garddwriaethol, glanweithdra, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol.

Campws Penglais Prifysgol Aberystwyth oedd y campws prifysgol cyntaf yng Nghymru i dderbyn Gwobr y Faner Werdd pan gafodd ei dyfarnu iddo yn 2015.  Derbyniodd Campws Llanbadarn y wobr yn 2016. 

Dywedodd Andrea Pennock, Cyfarwyddwr Datblygu Ystadau Prifysgol Aberystwyth: “Rydym wrth ein boddau o fod wedi derbyn y wobr wych hon am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae ein Tîm Cynnal y Gerddi yn gweithio’n ddiflino er mwyn sicrhau bod myfyrwyr, staff ac ymwelwyr yn cael cyfle i fyw a dysgu mewn amgylchedd mor hardd a diogel; mae’n wych eu bod nhw wedi derbyn y gydnabyddiaeth sy’n haeddiannol iddynt.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus:  “Mae Gwobr y Faner Werdd yn ymwneud â rhoi pobl mewn cysylltiad â’r parciau a’r mannau gwyrdd gorau. Mae'n bleser gan Cadwch Gymru’n Daclus gynnal y cynllun yng Nghymru am ein bod yn gwybod y gall cael amgylchedd o ansawdd da gael effaith fawr ar ein cymunedau, ein hiechyd a’n lles a’r economi.

“Hoffwn longyfarch Prifysgol Aberystwyth a diolch i bawb wnaeth weithio’n ddiflino i gynnal y safonau y mae Gwobr y Faner Werdd yn galw amdanynt. Rwyf yn annog pawb i fynd allan i’r awyr agored ac archwilio’r ystod amrywiol o gyfleusterau rhagorol sydd ar drothwy ein drws.”

Mae cyfanswm o 183 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru wedi bodloni’r safon uchel sydd ei angen i gael Gwobr flaenllaw'r Faner Werdd neu Wobr Gymunedol y Faner Werdd.

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus.