Urddo’r Athro Martin Conway yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth

Syr Emyr Jones Parry yn cyflwyno'r Athro Martin Conway yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

Syr Emyr Jones Parry yn cyflwyno'r Athro Martin Conway yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

21 Gorffennaf 2017

Mae’r Athro Martin Conway (MA DPhil Oxf, FRHistS) o Goleg Balliol, Rhydychen wedi ei gyflwyno’n Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

Cafodd Martin ei eni a’i fagu yn Aberystwyth, a mynychodd Ysgol Penglais.

Aeth ymlaen i astudio Hanes yng Ngholeg Wadham ym Mhrifysgol Rhydychen, a dyfarnwyd iddo ei ddoethuriaeth yn 1989.

Ers 1990, bu’n Gymrawd a Thiwtor Hanes yng Ngholeg Balliol, yn ogystal ag Athro Hanes Ewropeaidd Cyfoes yn y Gyfadran Hanes.

Bu’n un o olygyddion English Historical Review rhwng 2006 a 2016, ac ef yw Cadeirydd y Gyfadran Hanes ar hyn o bryd.

Yn ei waith ymchwil, canolbwyntiodd ar nifer o themâu yn Hanes Ewropeaidd yr ugeinfed ganrif, yn cynnwys ffasgiaeth, cydweithredu adeg rhyfel yn Ewrop ym meddiant y Natsïaid, Catholigiaeth wleidyddol ac, yn fwyaf diweddar, weddnewidiad democrataidd gorllewin Ewrop ar ôl 1945.

Mae e’n awdur, neu’n gydawdur, saith o lyfrau.

Mae ambell un o’r rhain yn Ewropeaidd o ran eu cwmpas, ac eraill yn canolbwyntio’n fwy penodol ar wlad Belg, gwlad y mae ganddo ddiddordeb mawr yn ei hanes ers iddo gael ei annog gan ei athrawon ym Mhenglais i dreulio blwyddyn yno cyn mynd i’r brifysgol.

Cafodd yr Athro Martin Conway ei gyflwyno gan Martin Alexander, Athro Emeritws yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar ddydd Gwener 21 Gorffennaf 2017.

Y cyflwyniad i’r Athro Martin Conway:

Canghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Yr Athro Martin Conway yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Professor Martin Conway as a Fellow of Aberystwyth University.

A pupil at Ardwyn Grammar School for its last year, Martin Conway attended the then newly-established Ysgol Penglais High School from 1973 to 1979. As in my own case, earlier, at Lancaster Royal Grammar School, Martin Conway was blessed with an inspirational History teacher who crucially influenced our new Honorary Fellow’s education and his later professional direction.

Martin Conway enjoys an international scholarly reputation. He has long been among the United Kingdom’s most eminent historians of twentieth century political Catholicism, European right-wing politics and social movements. He is Britain’s foremost authority on modern Belgium and on Belgium’s complex and sometimes conflictual politics of regionalism and language. Professor Conway has authored outstanding books, from Collaboration in Belgium. Léon Degrelle and the Rexist Movement 1940-44 (Yale UP, 1993) and Catholic Politics in Europe 1918-1945 (Routledge, 1997), to Europe in Exile. European Exile Communities in Britain 1940-45 (Berghahn, 2001) -- and, more recently, Europeanization in the Twentieth Century (Palgrave-Macmillan, 2010) and The Sorrows of Belgium: Liberation and Political Reconstruction 1944-47 (Oxford UP, 2012).

A scholar of deep humanity and a magnificent example of the “good academic citizen”, Professor Conway is held in high esteem thanks not just to his books but to his selfless contributions to learning and the wider UK historical profession. This was never more apparent than in his ten years of dedicated service editing the English Historical Review -- the ‘Teid or “Dadcu” if you will, the granddaddy, of our historical journals.

Not least of all, the international reputation of Professor Conway is attested by his election in 2007 to the Académie Royale de Belgique (the francophone Belgian Royal Academy), a distinction that is as exceptional as it is rare.  And so -

Canghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Yr Athro Martin Conway i chi yn Gymrawd.

Chancellor, it is my absolute pleasure to present Professor Martin Conway to you as a Fellow of Aberystwyth University.

Ganghellor Syr Emyr Jones Parry, Yr Athro Martin Conway, a Is-Ganghellor Yr Athro Elizabeth Treasure

 

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2017

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu wyth o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2017, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 18 Gorffennaf a dydd Gwener 21 Gorffennaf.

Cyflwynir chwe Chymrawd er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.

Cyflwynir dwy radd Baglor er Anrhydedd. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad, i gydnabod eu gwasanaeth hir, eu cyfraniad a’u hymrwymiad i’r Sefydliad; ac i aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.

Cymrodoriaethau er Anrhydedd:

Lance Batchelor, cyn-fyfyriwr o Aberystwyth a Phrif Swyddog Gweithredol Saga ccc

Yr Athro Martin Conway, Cymrawd a Thiwtor Hanes yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, ac Athro Hanes Ewropeaidd Cyfoes.

Gareth Howell LLB, sy’n raddedig yn y Gyfraith o Aberystwyth sydd wedi dangos arweinyddiaeth arloesol wrth ddyfeisio atebion ymarferol mewn gwledydd sy’n wynebu pontio eithafol yn eu bywyd cenedlaethol.

Heini Gruffudd BA, cyn-fyfyriwr o Aberystwyth,  athro, awdur, ac ymgyrchydd iaith, a chadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

Louise Rickard BSc PhD PGCE, sydd wedi ennill dros gant o gapiau Rygbi Cymru ac yn raddedig o Aberystwyth (BSc Anrhydedd Sŵoleg, PhD Bioleg y Môr), a Phennaeth Bioleg yn Suffolk.

Dato’ Mohamed Sharil bin Mohamed Tarmizi LLB, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth a chyn-reoleiddiwr  telegyfathrebu, cyfryngau a phost ym Malaysia.

Graddau Baglor er Anrhydedd:  

Alan Lovatt, Uwch-fridiwr Glaswellt yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

David Alun Jones, Is-Lywydd Cymdeithas Pêl Droed Cymru a Llywydd Cymdeithas Pêl-droed Canolbarth Cymru.