Bywyd Newydd i’r Hen Goleg

Chwith i'r dde: Bryn Jones a Karina Shaw, Fforwm Gymunedol Penparcau;  Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor; John Glen AS, Is Ysgrifennydd Gwladol Senedd y DU dros y Celfyddydau, Treftadaeth a Thwristiaeth; Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd Bwrdd Prosiect yr Hen Goleg, Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor; Louise Jagger, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr; a Guto Bebb, Gweinidog Swyddfa Cymru.

Chwith i'r dde: Bryn Jones a Karina Shaw, Fforwm Gymunedol Penparcau; Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor; John Glen AS, Is Ysgrifennydd Gwladol Senedd y DU dros y Celfyddydau, Treftadaeth a Thwristiaeth; Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd Bwrdd Prosiect yr Hen Goleg, Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor; Louise Jagger, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr; a Guto Bebb, Gweinidog Swyddfa Cymru.

26 Gorffennaf 2017

Mae dros £10 miliwn wedi ei neilltuo ar gyfer gwaith adfer sylweddol ar adeilad eiconig yr Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth, man geni addysg brifysgol yng Nghymru.

Mae adeilad rhestredig Gradd I yr Hen Goleg yn cael ei gysylltu ag adeiladu’r genedl Gymreig wedi iddo gael ei brynu gan Brifysgol Cymru am ddim ond £10,000 yn 1867 gan ddefnyddio arian a gyfrannwyd gan y gymuned leol.

Wedi iddo agor ei ddrysau i fyfyrwyr am y tro cyntaf yn 1872, am bron i ganrif gwelodd yr adeilad Gothig ar lan y môr filoedd o fyfyrwyr yn mynd a dod, cyn i bethau ddechrau newid yn yr 1960au pan symudodd y brifysgol i gampws newydd sbon.

Wedi’i achub gan y bobl am yr eildro

Erbyn hyn, bydd arian a ddaeth gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn golygu y bydd yr adeilad poblogaidd hwn yn hawlio’i le yn ôl yn ganolbwynt bywyd Aberystwyth a’r gymuned leol. Yn y lle cyntaf bydd Prifysgol Aberystwyth yn derbyn arian datblygu o £849,500 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, fydd yn ei galluogi i ddatblygu ei chynlluniau, gan arwain yn y pendraw at dderbyn y swm llawn o £10,581,800.*

Bu John Glen AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros y Celfyddydau, Treftadaeth a Thwristiaeth yn Aberystwyth heddiw i wneud y cyhoeddiad: “Mae Hen Goleg Aberystwyth yn adeiladu gaiff ei drysori’n lleol ac a gaiff ei gydnabod fel un o ddarnau pensaerniol Gothig mwyaf arwyddocaol y DU.

“Mae’r cynllun gwych hwn yn gymaint mwy na phrosiect adfer. Diolch i gyfraniad o £10.5 miliwn gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol bydd yn creu cyrchfan fywiog i ymwelwyr fydd yn darparu adnoddau diwylliannol a chymunedol newydd i Aberystwyth, Gorllewin Cymru ac yn rhoi hwb i economi Cymru yn gyffredinol.”

Dywedodd y Farwnes Kay Andrews, ymddiriedolydd y DG a Chadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: “Mae’r cynlluniau cyffrous hyn i roi ail wynt i un o adeiladau hanesyddol mwyaf poblogaidd Cymru yn cynnig hwb arwyddocaol ac amserol i ddiwylliant ac economi Aberystwyth a thu hwnt.”

“Fel llawer o raddedigion Aberystwyth, mae gennyf atgofion melys o’r Hen Goleg. Erbyn hyn, am y tro cyntaf, bydd yr adeilad unigryw hwn – llofnod Aberystwyth – yn agored i’r gymuned gyfan ei fwynhau ac elwa ohono, gan gynnwys ymwelwyr â Gorllewin Cymru. Mae hyn yn  newyddion gwych i Aberystwyth ac i Gymru’n gyffredinol.”

Cyfuno’r hen a’r newydd

Gyda’r bwriad o gwblhau trawsnewidiad yr Hen Goleg mewn pryd ar gyfer dathliadau 150 mlwyddiant y brifysgol yn 2022, mae’r gwaith wedi cychwyn i ddatblygu cynlluniau fydd yn troi’r adeilad yn ofod perfformio ac oriel ar gyfer artistiaid, arddangosfeydd a cherddorion, canolfan i fentergarwyr a busnesau, yn ogystal â chaffi ac ystafelloedd cymunedol. Bydd yn gartref hefyd i amgueddfa’r brifysgol gan arddangos eitemau o gasgliadau ar draws y sefydliad, a bydd canolfan wyddonol newydd yn cynnwys yr arddangosiadau rhyngweithiol diweddaraf ynghyd â phlanedariwm a chyfleuster 4D yn amlygu cysylltiadau’r brifysgol gyda’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.

Ychwanegodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Chwaraeodd yr  Hen Goleg ran ganolog yn y gwaith o ddarparu addysg uwch yng Nghymru a’r byd ehangach. Ag yntau wedi’i adeiladu gyda cheiniogau chwedlonol y werin, mae’n gweddu rhywsut fod arian gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn chwarae rhan yr un mor ganolog yn adfywio’r adeilad ac economi’r rhan hyfryd hon o Gymru. Ein gobaith yn awr yw y daw’r Hen Goleg yn ganolfan ar gyfer arddangos ymchwil, addysgu a thrysorau rhagorol Prifysgol Aberystwyth, tra’n darparu cyfleusterau bywiog newydd ar gyfer ymwelwyr a’r gymuned leol sy’n bartneriaid allweddol yn y fenter hon.”

Yn ogystal â chreu swyddi newydd, prentisiaethau, cyfleoedd profiad gwaith a chyfleoedd hyfforddiant a gwirfoddoli, bydd yr Hen Goleg ar ei newydd wedd hefyd yn annog graddedigion o’r brifysgol i aros yn y dref a sefydlu busnesau newydd.

Dywedodd Kathleen Gasela, sy’n byw yn lleol ac sy’n un o chwaraewyr y Loteri Genedlaethol : “Rwyf wedi chwarae’r Loteri Genedlaethol ers blynyddoedd, ac fel pawb arall wedi dychmygu sut byddwn yn gwario’r arian pe bawn i’n ennill y jacpot. Mae’n flin gen i ddweud nad wyf wedi dod yn filiwnydd eto, ond er hynny rwyf yn hapus iawn i weld yr arian yn cael ei wario ar brosiectau teilwng fel hwn fydd yn gwneud newidiadau gwirioneddol i’r hyn sy’n cael ei gynnig yn ein cymuned ac yn gwneud ein tref glan môr hyfryd yn lle gwell fyth i fod ynddo!”

Amcangyfrifir mai cyfanswm cost yr ailddatblygu fydd tua £22m, ac mae’r brifysgol yn cynllunio ffynonellau eraill o ariannu’r prosiect, gan gynnwys ymgyrch godi arian fawr.

Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru: “Mae’r arian hwn gan y Loteri Genedlaethol yn sicrhau dyfodol yr Hen Goleg, gan olygu y gall barhau i chwarae rôl allweddol yn nyfodol y brifysgol a’r dref ei hun. Fel cyn fyfyriwr fy hun, rwyf yn falch o weld prosiect mor werth chweil a chyffrous â hwn yn cael ei gefnogi i helpu sicrhau dyfodol cynaliadwy i adeilad y mae gennyf atgofion melys iawn ohono.”

Ychwanegodd Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion: “Mae hyn yn newyddion gwych i Geredigion a bydd yn datguddio hanes cudd tirnod eiconig yn ogystal â dangos y ffordd ar gyfer ei ddyfodol. Bydd yr Hen Goleg yn cael ei gydnabod unwaith eto yn ganolfan diwylliant a chreadigrwydd, ac yn gatalydd o bwys ar gyfer adfywiad economaidd a chymdeithasol.”

Ychwanegodd Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion: “I bobl leol, daw'r Hen Goleg yn ffynhonnell sgiliau a chreu swyddi, ysbrydoliaeth, dysgu ac adloniant. I ymwelwyr, bydd yn  gyrchfan dreftadaeth newydd yng Nghymru ag iddi apêl ryngwladol. Bydd yr Hen Goleg yn denu cynulleidfaoedd amrywiol i fwynhau ei safle diguro ar lan y môr yn Aberystwyth a’i hanes rhyfeddol yn epiganolfan dysg yng Nghymru.”

Ychwanegodd Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd Bwrdd Prosiect yr Hen Goleg: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd i’n cynlluniau a’n llwyddiant yn sicrhau’r arian cychwynnol hwn gan CDL. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein cynlluniau mewn partneriaeth â’r gymuned, a’n bwriad yw cadw’r Hen Goleg ar agor gymaint ag y bo modd yn ystod y trawsnewidiad, a byddwn yn trefnu arddangosfeydd a gweithgareddau i’n helpu i brofi a datblygu ein cynlluniau gyda’r gymuned, myfyrwyr a phartneriaid y prosiect.”