Cyn-fyfyrwyr Aber yn cipio’r Goron

Enillydd y Goron, Gwion Hallam. Tra’n fyfyriwr yn Aberystwyth bu'n astudio ysgrifennu creadigol o dan y diweddar Athro John Rowlands a Mihangel Morgan.

Enillydd y Goron, Gwion Hallam. Tra’n fyfyriwr yn Aberystwyth bu'n astudio ysgrifennu creadigol o dan y diweddar Athro John Rowlands a Mihangel Morgan.

07 Awst 2017

Gwion Hallam, sy’n raddedig o Brifysgol Aberystwyth, yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fôn.

Cafodd Gwion, sydd yn gynhyrchydd teledu ac yn gyn-lywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, ei goroni mewn seremoni ar Faes yr Eisteddfod ddydd Llun 7 Awst 2017.

Yn wreiddiol o Rydaman, mae Gwion yn byw yn Y Felinheli gyda’i wraig Leri a’u plant, Noa, Moi, Twm a Nedw.

Tra’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth bu’n astudio ysgrifennu creadigol o dan y diweddar Athro John Rowlands a Mihangel Morgan.

Ers iddo ennill Coron Eisteddfod yr Urdd, Bro Maelor yn 1996 mae wedi sgriptio ar gyfer teledu a radio ac yn 2004 cafodd gomisiwn i gyd-ysgrifennu’r ddrama lwyfan rymus Deinameit (gyda Mari Emlyn) i gwmni theatr Llwyfan Gogledd Cymru.

Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o gerddi i blant ac yn 2005 cyhoeddodd Gwasg Gomer ei nofel gyntaf, Creadyn yn y gyfres Whap i ddarllenwyr yn eu harddegau. Enillodd y nofel honno wobr Tir Na Nog yn 2006.

Daeth yn agos at ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, 2003, ond ar ôl hynny, ychydig iawn o farddoni a wnaeth.

Yn ôl Gwion ei hun mae prin wedi barddoni ers geni’i blentyn cyntaf bedair blynedd ar ddeg yn ôl. 

Ond yn ddiweddar bu’n gweithio fel bardd gyda rhai â dementia, ac fe newidiodd hyn bopeth. 

Bu’r gwaith hwn, y cyfle i annog trigolion mewn cartrefi dementia i farddoni, a’r fraint o’u hadnabod a gwrando ar odlau eu bywydau’n ddigon i atgyfodi’r ysfa ynddo i farddoni, a heddiw, fe’i hanrhydeddwyd ar lwyfan y Pafiliwn.

Cyflwynwyd y Goron eleni am bryddest ddigynghanedd heb fod yn fwy na 250 o linellau dan y teitl Trwy Ddrych.

Y beirniaid oedd M Wynn Thomas, Glenys Mair Roberts a Gwynne Williams.  Wrth draddodi’r feirniadaeth o lwyfan y Pafiliwn, dywedodd M Wynn Thomas ar ran ei gyd-feirniaid eu bod yn “llawen o gytûn inni gael eleni nid un gerdd, ond nifer anarferol o gerddi, a lwyddodd i gyrraedd y safon aruchel hon.”

Dywedodd nad oedd dod i benderfyniad unfrydol ddim yn hawdd chwaith. “Dyna chi’n cyfyng gyngor gwych ni’n tri felly. Cymaint o bryddestau rhagorol, ond dim ond un a all gipio’r goron.”

Ond roedd y tri ohonynt yn unfryd ychwanegodd, “mai drych elwyn/annie/janet/jiws ‘ddylai adlewyrchu wyneb haul a llygad goleuni yma eleni ym Modedern.”

Llongyfarchwyd Gwion ar ei lwyddiant gan Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth. Dywedodd: “Mae cyhoeddi enillydd y Goron ymhlith uchafbwyntiau pob Eisteddfod ond mae 'na wefr ychwanegol heddiw o glywed bod y Prifardd yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a bod ysgrifennu creadigol ymhlith y pynciau a astudiodd. Llongyfarchiadau mawr i Gwion ac edrychwn ymlaen at ddarllen ei bryddest fuddugol.”

Ar y nos Sadwrn olaf, daeth llwyddiant i gyn lywydd arall Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, wrth i Steffan Prys Roberts gipio Gwobr Goffa David Ellis a'r Rhuban Glas am yr unawdydd lleisiol gorau. Graddiodd Steffan mewn Rheoli Cefn Gwlad yn 2009 ac mae'n drefnydd cynorthwyol Eisteddfod yr Urdd ar hyn o bryd.