Prifysgol Aberystwyth ar y brig yng Nghymru a’r 5 uchaf yn y DU am foddhad myfyrwyr

Mae Aberystwyth ar y brig yng Nghymru ac yn un o'r pum sefydliad addysg uwch gorau yn y DU o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr.

Mae Aberystwyth ar y brig yng Nghymru ac yn un o'r pum sefydliad addysg uwch gorau yn y DU o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr.

09 Awst 2017

Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ymhlith y rhai mwyaf bodlon eu byd yn y Deyrnas Unedig gyfan, yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) a gyhoeddwyd heddiw ddydd Mercher 9 Awst 2017.

Mae Aberystwyth ar y brig yng Nghymru ac yn un o'r pum sefydliad addysg uwch gorau yn y DU o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr*.

Dengys canlyniadau diweddaraf yr ACF bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 91% - saith pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU o 84%.

Mae'r arolwg o israddedigion blwyddyn olaf hefyd yn gosod Prifysgol Aberystwyth yn ail yn y DU am safon asesu ac adborth i fyfyrwyr, ac yn y pump uchaf o ran addysgu, cefnogaeth academaidd, a threfniadaeth a rheolaeth.  

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae'r canlyniadau ACF diweddaraf yn siarad cyfrolau am y gymuned o staff a myfyrwyr talentog a gweithgar sydd gennym yn Aber. Rydym yn brifysgol arloesol sy'n ceisio ysbrydoli trwy ei haddysgu a thrawsnewid bywydau ein myfyrwyr. Gwnawn hynny mewn amgylchedd sy'n gynhwysol a chefnogol, ac sy'n galluogi ein myfyrwyr i ymgysylltu â'r byd ehangach a chofleidio’i heriau. Wrth i ni ddathlu canlyniadau’r arolwg, nid ydym yn llaesu dwylo ac fe ddefnyddiwn yr adborth gwerthfawr yma i adeiladu ymhellach ar y sylfeini cadarn hyn o lwyddiant. "

Mae Cynghorau Cyllido Addysg Uwch y DU, sy'n comisiynu'r arolwg blynyddol, wedi gwneud newidiadau sylweddol i holiadur 2017 gan gyflwyno cwestiynau newydd er mwyn galluogi prifysgolion i gryfhau ymgysylltiad myfyrwyr a rhoi mwy o lais iddyn nhw.

Dywedodd Bruce Wight, Swyddog Datblygu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: "Llongyfarchiadau i Brifysgol Aberystwyth yn dilyn canlyniadau anhygoel eto eleni yn arolwg cenedlaethol y myfyrwyr. Mae'n wych gweld Aberystwyth yn y 5 uchaf yn y DU a'r gorau yng Nghymru ar gyfer boddhad myfyrwyr. O'r canlyniadau hyn, mae’n amlwg ein bod wedi gwella ac yn gwella'n gyson bob blwyddyn. Rwy'n edrych ymlaen at yr hyn y gall y brifysgol ei ychwanegu at brofiad y myfyriwr eleni ac rwy'n ffyddiog, trwy gydweithio'n agos a gwrando ar lais myfyrwyr, y bydd Aberystwyth yn parhau i fod y gorau yng Nghymru."

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn cael 100% am foddhad cyffredinol myfyrwyr ac mae ar y brig yn y DU ym maes Astudiaethau Celtaidd.

Mae adrannau eraill sydd â sgorau o 90% neu fwy ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr yn cynnwys Addysg (98%), Celf (97%), Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (97%), Seicoleg (96%), Gwleidyddiaeth Ryngwladol (95%), Ieithoedd Modern (93%), Hanes a Hanes Cymru (92%), IBERS (91%), Ffiseg (91%), Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (90%) ac Ysgol y Gyfraith (90%).

Mae ystod o bynciau ar draws rhaglenni gwyddoniaeth, gwyddorau cymdeithasol a dyniaethau'r Brifysgol hefyd wedi gweld sgorau eithriadol yn yr ACF eleni.

Ymhlith y pynciau sydd yn y deg uchaf ar draws y DU ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr  mae Addysg, Bioleg Moleciwlaidd, Celf Gain, Geneteg, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Gwyddor Anifeiliaid, Microbioleg, Saesneg, Seicoleg a Sŵoleg.

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd wedi cofnodi canlyniadau rhagorol ar draws ystod o bynciau, gan gynnwys 100% o foddhad cyffredinol myfyrwyr ar gyfer chwe maes pwnc: Astudiaethau Celtaidd, Bioleg Foleciwlaidd, Microbioleg, Peirianneg Electroneg sy’n cwmpasu pynciau Roboteg, Dealltwriaeth Artiffisial a Gwyddor y Gofod yn yr Adran Cyfrifiadureg, Polisi Cymdeithasol sy’n cynnwys Troseddeg, a Sŵoleg. Mae gan 18 pwnc arall sgôr rhwng 90-98% ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr.

Caiff yr Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr ei gynnal gan IPSOS Mori ar ran cynghorau cyllido addysg uwch y DU ac mae'n casglu barn myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn olaf mewn prifysgolion yn ogystal â cholegau a darparwyr eraill.

Mae'n gofyn i fyfyrwyr sgorio eu prifysgol ar draws ystod eang o gwestiynau gan gynnwys ansawdd yr addysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefnu a rheoli, adnoddau dysgu, cymuned ddysgu, llais y myfyrwyr a boddhad cyffredinol.

Mae ffigurau'r ACF yn dilyn yn agos ar sodlau'r ffigyrau cyflogadwyedd diweddaraf ar gyfer prifysgolion y DU a ddangosodd fod 95% o raddedigion Prifysgol Aberystwyth mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Aberystwyth (HESA 2017).

• Ffigurau Cyflogadwyedd Prifysgol Aberystwyth

Gweler ein tudalennau adrannol am ragor o wybodaeth am raglenni neu bynciau unigol.

*Mae safleoedd Prifysgol Aberystwyth yn seiliedig ar y cwestiwn boddhad cyffredinol ac yn defnyddio'r rhestr o sefydliadau addysg uwch gan The Times a Sunday Times Good University Guide 2018.