Cadeirydd newydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth

Bydd Dr Emyr Roberts yn dechrau ar ei ddyletswyddau fel Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth ym mis Ionawr 2018.

Bydd Dr Emyr Roberts yn dechrau ar ei ddyletswyddau fel Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth ym mis Ionawr 2018.

09 Awst 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o gyhoeddi bod Dr Emyr Roberts wedi ei benodi yn Gadeirydd nesaf y Cyngor.

Ar hyn o bryd Dr Roberts yw Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru a bydd yn ymddeol ym mis Hydref 2017 ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.

Cyn ymuno â Chyfoeth Naturiol Cymru, bu Dr Roberts yn gweithio i Lywodraeth Cymru mewn cyfres o swyddi uwch yn y gwasanaeth sifil, gan gynnwys Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Sgiliau, Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Leol, a Phrif Weithredwr Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Yn enedigol o bentref Benllech ar Ynys Môn, mae gan Dr Roberts gysylltiadau agos â Phrifysgol Aberystwyth. Graddiodd gyda doethuriaeth o’r Brifysgol ym 1988; daeth yn Gymrawd Anrhydeddus yn 2013, ac mae wedi bod yn aelod o Gyngor y Brifysgol ers 2015.

"Fel cyn-fyfyriwr, Cymrawd Anrhydeddus ac aelod o’r Cyngor, mae gen i ymrwymiad arbennig at lwyddiant parhaus Prifysgol Aberystwyth," dywedodd Dr Roberts. "Mae'n Brifysgol sy'n ymgymryd â gwaith ymchwil o bwys byd-eang sy'n cael effaith ar fywydau go iawn; mae ganddi enw am ddarparu addysgu o safon ragorol yn ogystal â phrofiad ardderchog i fyfyrwyr, ac mae'n chwarae rhan bwysig ym mywyd cyhoeddus a diwylliannol Cymru. Mae'n anrhydedd cael fy mhenodi yn Gadeirydd y Cyngor ac rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd wedi cynnal y Brifysgol hon ers bron i 150 o flynyddoedd."

Bydd Dr Roberts yn cychwyn ar ei ddyletswyddau fel Cadeirydd y Cyngor ym mis Ionawr 2018, gan olynu Syr Emyr Jones Parry sydd wedi bod yn Gadeirydd y Cyngor ac yn Ganghellor y Brifysgol am gyfnod llawn o ddeng mlynedd.

Fe benderfynodd y Brifysgol yn gynharach eleni i wahanu'r ddwy rôl gyda’r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd - Prif Ustus Cymru a Lloegr ar hyn o bryd - yn ymgymryd â dyletswyddau anrhydeddus y Canghellor o fis Ionawr 2018.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure,: "Rwy'n hynod falch mai’r Dr Emyr Roberts fydd Cadeirydd nesaf ein Cyngor. Mae Emyr wedi bod yn aelod gwerthfawr o'r Cyngor ers dwy flynedd bellach ac mae ganddo brofiad helaeth o weithredu ar lefelau uchaf gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â gwybodaeth fanwl am y sector addysg uwch.

“Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef a'n Canghellor nesaf o fis Ionawr 2018 wrth i ni weithredu strategaeth bum mlynedd newydd y Brifysgol ar gyfer 2018-2023 fydd yn mynd â ni y tu hwnt i garreg filltir ein pen-blwydd yn 150 oed. Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, mae hefyd yn addas ein bod yn talu teyrnged i'n Cadeirydd a’n Canghellor presennol Syr Emyr Jones Parry am ei gyfraniad nodedig i’r Brifysgol arbennig iawn yma dros y degawd diwethaf. "

Am y tro cyntaf erioed, cafodd rôl Cadeirydd y Cyngor ei hysbysebu'n eang ac fe gafodd ymgeiswyr oedd ar y rhestr fer eu cyfweld gan aelodau Pwyllgor Enwebiadau'r sefydliad.

Y Cyngor yw corff llywodraethu goruchaf y Brifysgol ac mae'n gyfrifol am benderfynu ar gyfeiriad strategol y Brifysgol ac am y modd y mae’n gweithredu materion ariannol a gweinyddol a materion eraill y Brifysgol, yn unol â'i hamcanion.