Cadeirio cyn-fyfyriwr o Aber yn Brifardd Eisteddfod Genedlaethol Môn

Cadair Osian Rhys Jones oedd y drydedd brif wobr lenyddol i'w hennill gan gyn-fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn Eisteddfod 2017.

Cadair Osian Rhys Jones oedd y drydedd brif wobr lenyddol i'w hennill gan gyn-fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn Eisteddfod 2017.

11 Awst 2017

Osian Rhys Jones, a raddiodd mewn Cymraeg a Hanes Cymru o Brifysgol Aberystwyth, yw enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn.

Crewyd y Gadair, sy’n nodi canrif ers Cadair Ddu Penbedw a enillwyd gan Ellis Humphrey Evans, Hedd Wyn, wythnosau wedi iddo gael ei ladd ym mrwydr Passchendaele, gan Rhodri Owen a raddiodd mewn Celfyddyd Gain o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

Daw ei fuddugoliaeth wedi i ddau arall o gyn-fyfyrwyr brofi llwyddiant ym mhrif wobrau llenyddol y Brifwyl.

Ddydd Llun coronwyd Gwion Hallam o’r Felinheli a fu’n astudio ysgrifennu creadigol gyda’r diweddar Athro John Rowlands a Mihangel Morgan, ac yna ddydd Iau cyflwynwyd Medal Ddrama’r Eisteddfod i’r gyn-fyfyrwraig yn Adran y Gymraeg, Heiddwen Tomos.

Wrth longyfarch Osian, dywedodd Dr Cathryn Charnell-White, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Ar ran ei hen Adran, mae’n bleser cael llongyfarch Osian ar ennill y Gadair eleni. Mae hi’n briodol iawn ei fod yn ennill cadair y mae ‘aileni’ yn rhan mor amlwg o’i gwneuthuriad, oherwydd mae Osian, yn ei farddoniaeth ac yn ei ymwneud â’r sin farddol, yn dangos perthnasedd a chyfoesedd y mesurau caeth traddodiadol.”

Cyflwynwyd y Gadair am awdl ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, heb fod yn hwy na 250 o linellau o dan y teitl Arwr neu Arwres, teitl yr awdl fuddugol Hedd Wyn.

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Huw Meirion Edwards, Emyr Lewis a Peredur Lynch, a draddododd y feirniadaeth o’r llwyfan.

Cafwyd deuddeg ymgais am y Gadair eleni, gyda phump o’r rhain yn dod i’r brig mewn cystadleuaeth safonol iawn. 

Wrth draddodi’r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid, dywedodd, “Mae ’na bump yn y ras, ond oes ’na deilyngdod? Wel, os buo ’na rioed deilyngdod fe’i cafwyd yma ym Mȏn eleni. Mae tri o’r cystadleuwyr  – Ail Don, Merch y Drycinoedd a Gari – yn llwyr deilyngu’r gadair, ac oedd, mi oedd hi’n gystadleuaeth glós. Yn ’y marn i, Merch y Drycinoedd sy’n dod i’r brig. Ond mae Emyr a Huw yn ffafrio Gari. Mi rydw i, wrth gwrs, yn derbyn dyfarniad mwyafrifol y ddau ac yn cyhoeddi’n llawen felly mai ffugenw’r bardd buddugol ydi Gari. 

“Mae awdl Gari yn un seicolegol ddwys. Mae hi’n agor ym mis Tachwedd hefo dyn ifanc ar fin ei fwrw ei hun oddi ar bont reilffordd i lwybr trên. Ond yna mae o’n ymatal. Ar ȏl yr agoriad dramatig mi gawn ni’n harwain drwy fisoedd tywyll y gaeaf hyd at ddyfodiad mis Mai ac mae’r awdl yn gronicl o fywyd y prif gymeriad dros gyfnod o saith mis. Rydan ni yng nghwmni unigolyn y mae bywyd yn drech nag o, un sy’n chwilio am ystyr i’w ddyddiau.  Mae ’na ymdeimlad llethol o gaethiwed yma wrth i’r gŵr ifanc ymgodymu hefo disgwyliadau cymdeithasol y mae’n o’n waelodol sinigaidd yn eu cylch. Erbyn diwedd yr awdl mae’n hi’n fis Mai. Mae’r bardd yn ôl ar y bont reilffordd. Mae o wedi llwyddo i fagu adenydd i ddianc rhag ei amgylchiadau.  Ond mae’r diweddglo yn amwys. Ai magu adenydd i ddianc rhag ei iselder wnaeth o, ynteu magu’r hyder i neidio oddi ar y bont? Dyna’r dirgelwch sy’n cloi’r awdl.”

Mae Osian Rhys Jones yn gynhyrchydd a golygydd digidol o Gaerdydd. Fe’i magwyd ger Y Ffôr, Pwllheli a bu’n ddisgybl yn Ysgol Glan y Môr a Choleg Meirion Dwyfor yn y dre.

Wedi graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth treuliodd rhai blynyddoedd yn gweithio yn Adran Datblygiadau Digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Mae’n aelod o dîm Y Glêr ar gyfres Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru, tîm a oedd yn bencampwyr y gyfres yn 2012 ac eto eleni yn 2017.

Yn yr un flwyddyn, Y Glêr oedd y tîm cyntaf i ateb Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru, gan gyfansoddi cant o gerddi ar y cyd dros gyfnod o 24 awr. Yn 2011 roedd Osian yn un o griw a sefydlodd nosweithiau Bragdy’r Beirdd yn y brifddinas ac mae’r digwyddiadau barddol poblogaidd hyn yn dal i gael eu cynnal yn rheolaidd yng Nghaerdydd.

Yn ogystal â threfnu nosweithiau, mae Osian yn cymryd rhan a pherfformio mewn nosweithiau llenyddol trwy Gymru ben baladr.

Yn 2012/13 roedd yn un o bedwar a deithiodd gyda’r sioe farddol a cherddorol, ‘Cnoi Draenogod’. Enillodd Dlws Coffa D. Gwyn Evans (Y Gymdeithas Gerdd Dafod) ddwywaith a derbyniodd Dlws Coffa Cledwyn am delyneg orau cyfres Talwrn y Beirdd yn 2011.

Cadair 2017                       
Mae Cadair Eisteddfod Ynys Môn eleni wedi’i chreu’n rhannol o ynn a derw a lifiwyd o goed a dyfodd ar dir Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn ac fe’i cyflwynwyd i’r Eisteddfod Genedlaethol gan Barc Cenedlaethol Eryri.

Y crefftwr ifanc, Rhodri Owen, sy’n egluro: “Mae’r syniad o ail-eni a symud ymlaen yn ganolog i gysyniad y Gadair eleni. Ond mae’r ddolen gyda’r gorffennol hefyd yn bwysig, ac felly fe fûm yn ystyried siapiau’r offer ac arfau a fyddai’n cael eu defnyddio’n ddyddiol mewn ardal wledig ganrif yn ôl, gan eu datblygu a’u mewnosod yn y cynllun.

“Mae’r ddwy goes ôl yn codi tua’r ‘lloer’ ac ar siâp pladuriaid, a gwaelod y cefn ar siâp dau haearn marcio, a fyddai wedi’u defnyddio i farcio’r tywyrch cyn torri’r mawn ym myd amaeth. Mae’r ddau siâp cefn wrth gefn yn creu un haearn donni, a fyddai’n torri’r dywarchen ar ôl ei marcio, yn pwyntio tua’r is-fyd, gan gynrychioli tywyllwch a marwolaeth, tra bo pen y Gadair a’r Nod Cyfrin yn cynrychioli goleuni a bywyd newydd.

“Rydw i hefyd wedi cadw mewn cof y ffaith mai ym Môn y cynhelir yr Eisteddfod eleni, ac wrth gwrs, mae’r cyswllt Celtaidd felly’n amlwg, a’r syniad Celtaidd o ail-eni a symud o’r tywyllwch i’r goleuni sydd i’w weld yng nghynllun y Gadair. Mae egin bywyd yn codi wrth i’r düwch ildio i oleuni a’r gobaith o fywyd newydd, heddychlon mewn oes o ansicrwydd gwleidyddol byd-eang ac argyfwng hunaniaethol y Cymry.

“Roedd hi’n bwysig i’r Parc [Cenedlaethol Eryri] ac i minnau fod y Gadair yn cyfleu ei neges ei hun, ac rwy’n gobeithio fy mod wedi gwireddu hyn, gan roi’r pwyslais ar gamu ymlaen yn hyderus fel cenedl o Gymry i ddyfodol newydd, gwell a heddychlon.”