Flashdance yn ffrwydro ar y llwyfan

16 Awst 2017

Bydd y Sioe Gerdd, Flashdance yn ymddangos am y tro cyntaf ar lwyfan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth heno (nos Fercher 16 Awst), gyda pherfformiadau tan ddydd Sadwrn 2 Medi.

Mae ‘Flashdance - The Musical’ yn adrodd stori ysbrydoledig a bythgofiadwy Alex 18 oed, sy’n weldwraig yn ystod y dydd, yn ‘ddawnswraig fflach’ gyda’r nos ac sy’n breuddwydio am fynd i’r Academi Ddawns uchel ei bri yn Shipley i hyfforddi fel dawnswraig broffesiynol. Pan mae rhamant yn cymhlethu ei huchelgais, mae hi’n ei ddefnyddio i gadw ei breuddwyd yn fyw.

Yn seiliedig ar ffilm Paramount Pictures (sgript gan Tom Hedley a Joe Eszterhas, stori gan Tom Hedley) mae Flashdance yn sioe gerdd ysbrydoledig am y pŵer o ddal ymlaen i’’ch breuddwydion a chariad er gwaethaf popeth.

Byddwch yn barod i gael eich syfrdanu gan sioe gerdd ysblennydd a choreograffi anhygoel i sgôr eiconig yn cynnwys y caneuon poblogaidd Maniac, Manhunt, Gloria, I Love Rock & Roll a thrac gwych y teitl sef Flashdance... What a Feeling.

Gyda Joanne Clifton o BBC Strictly Come Dancing a Ben Adams, canwr-gyfansoddwr, mae'r sioe ymlaen o ddydd Mercher 16 Awst i ddydd Sadwrn 2 Medi yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Cynhelir perfformiadau nos o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn am 7.30pm, gyda pherfformiad Sul ychwanegol am 6pm ar 27 Awst. Bydd perfformiadau Matinee ar ddydd Mercher, dydd Iau a dydd Sadwrn am 2.30pm. Bydd y Sioe yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain ar ddydd Sadwrn 19 Awst.

Cynhyrchir gan y tîm arobryn yn Selladoor Productions - cynhyrchwyr Footloose, Avenue Q a Little Shop of Horrors, a Runaway Entertainment – cynhyrchwyr In The Heights, Guys and Dolls a Lazarus. Ni ddylid methu Flashdance - The Musical!

Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau ewch i wefan Canolfan y Celfyddydau.