Cynigion Clirio ar y cyfryngau cymdeithasol

Bydd tîm Clirio'r Brifysgol wrth law o 7.30yb ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch Ddydd Iau 17 Awst i ateb ymholiadau.

Bydd tîm Clirio'r Brifysgol wrth law o 7.30yb ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch Ddydd Iau 17 Awst i ateb ymholiadau.

16 Awst 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol am y tro cyntaf i wneud cynigion i ymgeiswyr yn ystod cyfnod Clirio.

Bydd tîm Clirio'r Brifysgol wrth law o 7.30yb ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch Ddydd Iau 17 Awst i ateb ymholiadau.

Yn ogystal ag ateb y brif linell ffôn 0800 121 40 80 a negeseuon e-bost, bydd staff hefyd yn trafod opsiynau ac yn gwneud cynigion gan ddefnyddio ap negesu Facebook (Messenger) neu sgwrs fyw dros y we.

Mewn datblygiad newydd arall, bydd myfyrwyr hefyd yn gallu ymgeisio'n uniongyrchol trwy wefan Prifysgol Aberystwyth www.aber.ac.uk/clirio ddydd Iau 17 a dydd Gwener 18 Awst 2017.

Dywedodd Pennaeth Swyddfa Derbyn Israddedig Prifysgol Aberystwyth, David Moyle: "Rydyn ni'n gwybod ei fod yn well gan nifer o bobl ifanc gyfathrebu ar-lein ac rydym am wneud popeth a allwn i wneud y broses Glirio mor syml ac mor glir â phosib i ymgeiswyr.

"Mae Clirio yn gyfnod o'r flwyddyn sy'n gallu trawsnewid bywydau a datgloi potensial. Mae'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr sydd heb gael y graddau Safon Uwch angenrheidiol i ddod o hyd i gwrs prifysgol arall sy’n addas iddyn nhw. Mae hefyd yn gyfle i'r rhai sydd wedi penderfynu yn hwyrach yn y dydd eu bod yn dymuno dilyn cwrs prifysgol.

"Ymhellach, mae'r broses Clirio yn ddefnyddiol i'r rheiny sydd am ailystyried dewisiadau  a wnaed yn gynharach - naill ai am eu bod wedi cael graddau gwell na'r disgwyl neu wedi newid eu meddyliau ynglŷn â lle maen nhw eisiau mynd. Beth bynnag yw'r rheswm, mae’n tîm o staff Clirio wrth law i wneud y broses mor hwylus â phosib a sicrhau bod pobl yn dod o hyd i’r cwrs gorau ar eu cyfer nhw."

Mae llinell gymorth clirio Prifysgol Aberystwyth 0800 121 4080 ar agor o 7.30yb - 8yh ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch Dydd Iau 17 Awst, gyda staff wrth law i ateb unrhyw ymholiadau yn ystod y dyddiau sy'n dilyn:

Dydd Iau 17 Awst

7.30yb – 8yh

Dydd Gwener 18 Awst

8yb – 7yh

Dydd Sadwrn 19 Awst – Dydd Sul 20 Awst

10yb – 4yp

Dydd Llun 21 – i ddydd Gwener 25 Awst

9yb – 5yp

Mae manylion pellach am y broses Clirio ar ein gwefan, gan gynnwys atebion i gwestiynau sy’n codi’n aml: https://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/clearing/faqs.