Gwyddonwyr solar yn yr Unol Daleithiau i astudio clip yr haul

Joe Hutton (chwith) a Steve Fearn o’r Adran Ffiseg yn gwneud paratoadau munud olaf yn Boulder, Colorado cyn clip llwyr yr haul ddydd Llun 21 Awst 2017

Joe Hutton (chwith) a Steve Fearn o’r Adran Ffiseg yn gwneud paratoadau munud olaf yn Boulder, Colorado cyn clip llwyr yr haul ddydd Llun 21 Awst 2017

17 Awst 2017

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn ymuno â thîm rhyngwladol o wyddonwyr solar yn UDA'r wythnos hon wrth iddynt baratoi i astudio clip llwyr diweddaraf yr haul.

Mae Joe Hutton a Steve Fearn o'r Adran Ffiseg wedi ymuno â gwyddonwyr o'r Almaen, y Weriniaeth Tsiec a'r UDA yn Boulder, Colorado, wrth i'r tîm wneud y paratoadau olaf i gofnodi'r digwyddiad solar ddydd Llun 21 Awst.

Bydd pum tîm wedi’u lleoli mewn safleoedd gwahanol ar hyd llwybr y clip haul wrth iddo groesi'r Unol Daleithiau o Oregon yn y gogledd orllewin i Dde Carolina ar yr arfordir dwyreiniol.

Mi fydd tîm Aberystwyth yn nhref wledig Mackay, Idaho, yn y gogledd-orllewin, y pwynt arsylwi mwyaf gorllewinol o’r pump, ac felly’r cyntaf i gofnodi'r digwyddiad.

Yno byddant yn defnyddio sbectromedr newydd a gynlluniwyd i ddal golau’r clip yn ei anterth, cyfnod byr o ddwy funud.

O faint briff ces mawr, cafodd y sbectromedr ei ddylunio a'i adeiladu gan yr Athro Adalbert Ding o'r Sefydliad Ffiseg Technegol, Berlin yn yr Almaen, a'i adeiladu ganddo gyda chymorth aelodau o Grŵp Ymchwil Ffiseg y System Solar Prifysgol Aberystwyth.

Gan ddefnyddio cyfres o lensys a chamerâu, mae'n cipio golau o gorona'r haul cyn ei rannu'n sawl sianel, mewn modd tebyg i brism.

Bydd y wybodaeth a gesglir o'r golau plŷg yn galluogi'r tîm i fesur nodweddion ffisegol awyrgylch yr haul, ei thymheredd, ei ddwysedd a'i faes magnetig.

Dr Huw Morgan yw Prif Ymchwilydd sbectromedr Aberystwyth. Cafodd y prosiect ei ariannu gan Gyngor Cyfleusterau Technoleg Gwyddoniaeth fel prawf ar gyfer technolegau a allai arwain at wyddoniaeth newydd a theithiau yn y dyfodol.

Meddai Dr Morgan: "Rydyn ni mor ffodus ar y ddaear fod y lleuad yr union faint cywir i guddio’r haul o bryd i’w gilydd ac achosi clip haul.  Weithiau, mi fydd y ddau mewn llinell a’r lleuad yn cuddio prif ddisg yr haul ac yn anhygoel ddigon bryd hynny, gallwn weld awyrgylch yr haul. Mae'n gyfle gwych i ni fel gwyddonwyr i arsylwi a dysgu mwy am awyrgylch yr haul.

"Mae awyrgylch yr haul yn amgylchedd eithafol o blasma poeth sydd wedi ei fagneteiddio a lle mae tymheredd yn cyrraedd 1,000,000 gradd ganradd, ac un sy'n anodd iawn ei dyblygu mewn labordai ar y ddaear. Mae clip haul yn cynnig cyfle unigryw i astudio corona'r haul a chyfle i ddysgu ffiseg sylfaenol newydd.

"Ond mae hefyd yn broblem tywydd y gofod", ychwanegodd Dr Morgan. "Gall ffrwydradau mawr o awyrgylch yr haul ar ffurf Alldafliadau Màs Coronol niweidio rhwydweithiau technolegol ar y ddaear. Mae gwell dealltwriaeth o'r ffenomen hon yn hanfodol er mwyn gwella ein gallu i ragweld y digwyddiadau hyn a darparu gwell amddiffyniad i loerennau cyfathrebu sy'n darparu systemau megis Systemau Lleoli Byd-eang (GPS), yr ydym yn dibynnu'n fwyfwy arnynt."

Mae Dr Huw Morgan yn heliwr clipiau haul profiadol. Rhwng 2006 a 2010 teithiodd i Anialwch y Sahara, Anialwch Gobi, Ynysoedd Marshall a Tahiti yn y Môr Tawel i gymryd mesuriadau yn ystod clipiau llwyr o’r haul. Ef sy’n goruchwylio gwaith Aberystwyth ar y clip diweddaraf.

Ar yr achlysur hwn bydd Dr Morgan yn aros yn Aberystwyth, a Steve Fearn, arbenigwr arbrofol a thechnoleg yn yr Adran Ffiseg, a Joe Hutton, Ymchwilydd Cysylltiol gyda'r Grŵp Ymchwil Ffiseg Solar yn gweithio yn y maes.

Ymunodd Joe a Natalia Alzate, cyn-aelod o Grŵp Ffiseg Solar Aberystwyth sydd bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Hawaii, â thaith ryngwladol debyg i ynysoedd Svalbard, yn yr uwch-arctig, i astudio clip 2015.

Mae Joe a Steve wedi cyfrannu at adeiladu a phrofi'r sbectromedr newydd.

Dywedodd Joe: "Dwy funud yn unig fydd clip llwyr yn bara mewn un man, ond bydd cysgod y lleuad i’w weld ar diroedd yr UDA am oddeutu awr a thri deg munud, wrth iddo ysgubo yn araf ar draws y cyfandir. Drwy gael y pum pwynt arsylwi hyn ar hyd y llwybr hwn, gallwn greu cyfres amser o'r awyrgylch solar gan ddefnyddio'r arsylwadau o’r clip, rhywbeth na chafodd ei wneud o’r blaen ar y raddfa hon. Felly mae hyn yn gyffrous iawn. "

Bydd y tîm rhyngwladol yn cael ei arwain gan yr Athro Shadia Habbal, Athro Ffiseg Solar ym Mhrifysgol Hawaii a chyn-Athro yn yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

AU27217