Academydd o Aberystwyth i gynghori'r Cynulliad ar heriau masnach Brexit

Yr Athro Nicholas Perdikis

Yr Athro Nicholas Perdikis

18 Awst 2017

Mae arbenigwyr blaenllaw ar bolisi masnach ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth yn darparu cyngor ymchwil arbenigol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar sut mae Brexit yn debygol o effeithio ar economi Cymru.

Mae'r Athro Nicholas Perdikis newydd ddechrau ar Gymrodoriaeth Academaidd bum mis o hyd gyda Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych ar sut gall ymadawiad y DU o'r UE effeithio ar sectorau allweddol o’r economi.

Mae ei benodiad yn rhan o gynllun peilot sy'n galluogi uwch-academyddion o brifysgolion Cymru i dreulio amser yng Nghomisiwn y Cynulliad yn gweithio ar brosiect sydd o fudd i'r ddwy ochr.

Dywedodd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC: “Rwy'n falch iawn bod arbenigedd a phrofiad sylweddol Prifysgol Aberystwyth yn rhan o'r rhaglen gymrodoriaeth. Bydd hyn yn cynorthwyo Aelodau'r Cynulliad i gael gwell dealltwriaeth o oblygiadau Brexit i sectorau allweddol economi Cymru, sy’n hollbwysig er mwyn iddynt allu craffu ar bolisïau Llywodraethu Cymru a'r DU.”

O fis Awst 2017 hyd fis Ionawr 2018, bydd yr Athro Perdikis yn rhannu ei amser rhwng cartref y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth.

Fel rhan o'i orchwyl gwaith, bydd yn edrych ar sut y gallai ystod o senarios effeithio ar fasnach yng Nghymru, gan gynnwys dim bargen o gwbl neu fasnachu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, yn ogystal ag aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd fel trefniant trawsnewid.

Dywedodd yr Athro Nicholas Perdikis, sy'n Athro Busnes Rhyngwladol ac arbenigwr ar Bolisi Masnach a Masnach Ryngwladol yn Ysgol Fusnes Aberystwyth: “Does neb yn gwybod sut y bydd gadael yr UE yn effeithio ar fasnach yng Nghymru na'r DU yn gyffredinol, ac mae Brexit yn parhau yn un o brif bynciau trafod y byd gwleidyddol. Mae'r gymrodoriaeth hon yn gyfle gwych i weithio mewn rôl ymgynghorol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar adeg o newid sylweddol i amgylchedd economaidd rhyngwladol Cymru.”

Yn ogystal â'i ymchwil academaidd ar fasnachu, integreiddio a pholisi masnach yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Athro Perdikis wedi gweithredu fel ymgynghorydd i sefydliadau rhyngwladol a chenedlaethol.

Mae'r rhain yn cynnwys Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Fasnach a Datblygiad (UNCTAD),  Swyddfa Dramor a Chymanwlad y DU ac Uchel Gomisiwn Prydain yn India.

Mae'r Athro Perdikis hefyd yn gydawdur adroddiad ar y Cytundeb Masnach Rydd arfaethedig rhwng yr Undeb Ewropeaidd ac India.

 

AU25217