Un o raddedigion Aber, Rhodri Siôn yw enillydd Gwobr Goffa yr Athro Gwyn Thomas

Rhodri Siôn (canol) gyda Jennifer Thomas, gwraig y diweddar Athro Gwyn Thomas, a Dr Haydn E Edwards, Cadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Rhodri Siôn (canol) gyda Jennifer Thomas, gwraig y diweddar Athro Gwyn Thomas, a Dr Haydn E Edwards, Cadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

22 Awst 2017

Dyfarnwyd Gwobr Goffa yr Athro Gwyn Thomas i un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth, Rhodri Siôn.

Graddiodd Rhodri Siôn, sydd yn wreiddiol o Lanrwst, â BA mewn Cymraeg Proffesiynol yn 2016, a dyfarnwyd y wobr iddo am ei draethawd buddugol, Beowulf a Grendel: Cyfieithu a sylwebaeth, gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y traethawd gorau a gyflwynwyd yn Gymraeg gan fyfyriwr israddedig o brifysgol yng Nghymru, er cof am yr Athro Gwyn Thomas a fu farw'r llynedd.

Cafodd Rhodri Siôn ganmoliaeth uchel gan yr arholwr allanol, yr Athro Dafydd Johnston: “Mae’r gwaith yma yn hynod uchelgeisiol sydd wedi’i gyflawni’n llwyddiannus dros ben. Ceir rhesymau aeddfed yn y sylwebaeth sy’n dangos dealltwriaeth a chryn feistrolaeth ar yr iaith a’i hadnoddau. Llwydda Rhodri i gyfiawnhau ei gyfieithiad a’i ddehongliad yn ddeallus a gwybodus.”

Meddai Dr Cathryn Charnell-White Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd  Prifysgol Aberystwyth: “O ystyried cyfieithiadau disglair Gwyn Thomas ein hun, mae hi'n briodol iawn mai cyfieithiad llenyddol a ddewiswyd gan feirniaid y wobr sy'n ei goffáu, a phleser o'r mwyaf oedd clywed mai cyfieithiad celfydd Rhodri Siôn o'r gerdd eiconig, 'Beowulf', oedd hwnnw.”

Cafodd y wobr ei chyflwyno ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ar ddydd Mawrth 8 Awst 2017.

Urddwyd yr ysgolhaig Gwyn Thomas yn Gymrawd Er Anrhydedd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2015 am ei gyfraniad amhrisiadwy i lenyddiaeth Cymru a’i weledigaeth wrth sefydlu y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn frodor o Dangyrisiau, addysgwyd yr Athro Gwyn Thomas yn Ysgol Sir Ffestiniog, Prifysgol Cymru Bangor a Choleg yr Iesu, Rhydychen. Gweithiodd fel darlithydd a bu’n Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.

 

AU30017