Adeilad hynaf Campws Penglais yn ennill statws cofrestredig Gradd II

Adeilad Cledwyn, 1939. Credyd: Archifau Prifysgol Aberystwyth

Adeilad Cledwyn, 1939. Credyd: Archifau Prifysgol Aberystwyth

22 Awst 2017

Mae'r adeilad cyntaf a godwyd ar Gampws Penglais ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael statws cofrestredig Gradd II er mwyn ei ddiogelu i'r oesoedd a ddêl.

Dyluniwyd Adeilad Cledwyn gan Syr Percy Thomas (1883-1969), un o benseiri pennaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif ac roedd yr adeilad yn rhan bwysig o gam cyntaf gwaith datblygu Campws Penglais.

Yr Hen Goleg ar lan y môr oedd cartref gwreiddiol y Brifysgol, ond pan ddaeth 36 hectar safle Penglais i ddwylo'r Brifysgol yn 1929, fe wnaed cynlluniau i ganolbwyntio datblygiadau'r dyfodol ar y safle newydd.

Yn 1935 paratôdd Percy Thomas gynllun i'r campws newydd, ac fe'i penodwyd yn bensaer i'r tri adeilad cyntaf i'w codi, sef Cledwyn, Pantycelyn a'r pwll nofio. Dyma ddechrau'r symud, o'r coleg ger y lli, i'r cartref newydd ar y bryn. 

Agorwyd Adeilad Cledwyn yn 1937 a dyma oedd cartref Gorsaf Fridio Planhigion Cymru a’r Adran Economeg Amaethyddol.

Fe'i hadeiladwyd mewn arddull modern Georgaidd syml, gydag wyneb o waith maen Fforest y Ddena. O gwmpas prif ddrws yr adeilad mae architraf eang wedi'i addurno â cherfwedd fas sy'n darlunio golygfeydd amaethyddol, ac mae cylchoedd maen addurniadol i'w gweld rhwng ffenestri'r llawr uchaf.    

Cafodd yr adeilad ei enwi wedyn ar ôl y gwleidydd Llafur, Cledwyn Hughes, y Barwn Cledwyn o Benrhos CHPC (1916-2001), a fu'n Llywydd ar Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth o 1976 tan 1985.

Dywedodd Andrew Thomas, Rheolwr Gwella Adeiladau Hanesyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym yn wirioneddol falch bod Cadw wedi rhoi statws cofrestredig Gradd II i Adeilad Cledwyn. Mae hynny'n adlewyrchu ei bwysigrwydd pensaernïol a hanesyddol. Mae Cledwyn yn awr yn ymuno â nifer o adeiladau arwyddocaol yn ystâd y Brifysgol, gan gynnwys yr Hen Goleg, wrth gwrs, yr adeilad eiconig cofrestredig Gradd I ar lan y môr.”

 

AU28717