Adeiladu tŷ bêls Miscanthus cyntaf y byd

Mae gwyddonwyr bridio planhigion o IBERS wedi cymryd gwahanol fathau o Miscanthus a'u croesi i ddatblygu hybridau y gellir eu tyfu o hadau ar gyfer marchnadoedd penodol, gan gynnwys y diwydiant adeiladu.

Mae gwyddonwyr bridio planhigion o IBERS wedi cymryd gwahanol fathau o Miscanthus a'u croesi i ddatblygu hybridau y gellir eu tyfu o hadau ar gyfer marchnadoedd penodol, gan gynnwys y diwydiant adeiladu.

05 Medi 2017

Mewn lleoliad delfrydol yng Ngorllewin Cymru, mae tŷ yn cael ei adeiladu. Ond nid tŷ cyffredin mohono. Credir taw hwn yw’r cyntaf o’i fath yn y byd, gan fod waliau yn cael eu hadeiladu o fêls Miscanthus.

Mae’r prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth, y Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT) a’r partner masnachol Terravesta yn edrych ar y potensial i ddefnyddio Miscanthus fel deunydd adeiladu fel ffordd o helpu i ddad-garboneiddio'r diwydiant adeiladu.

Mae Miscanthus, cnwd ynni adnewyddadwy lluosflwydd carbon-negyddol hwn yn cael ei dyfu ar tua 8,000 hectar o dir ymylol o ansawdd isel yn y DU, yn meddu ar nodweddion adeiladu rhagorol sydd ag iddo werth insiwleiddio gwych.

Yn dilyn prawf adeiladu llwyddiannus y llynedd, mae'r partneriaid nawr yn gweithio ar adeiladu tŷ bêls Miscanthus a fydd yn dal i sefyll ymhen 100 mlynedd.

Mae'r bêliau Miscanthus yn cael eu defnyddio i lenwi ffrâm bren, yn yr un modd ag y defnyddir bêls gwellt gwenith yn aml, gydag wyneb y bêls yn addas ar gyfer plastr clai mewnol a rendro allanol.

Dywedodd Bee Rowan, arweinydd cwrs adeiladu bêls gwellt y Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT): "Y peth mwyaf difyr am Miscanthus yw y gallai ddad-garboneiddio'r diwydiant adeiladu ar raddfa fawr.

Mewn adeiladu confensiynol, mae'r ôl troed carbon yn drwm ac mae un tŷ yn gallu allyrru 50 tunnell o CO2. Mewn cyferbyniad, mae tua 40% o fiomas Miscanthus yn cynnwys carbon sy'n cael ei ddal yn uniongyrchol o'r atmosffer mewn ffotosynthesis. Mae cloi'r carbon hwn mewn deunyddiau adeiladu yn lleihau lefelau atmosfferig CO2."

Mae'r adeilad hwn yn defnyddio 'bêls dau linyn' a ddarparwyd gan Terravesta, arbenigwyr yn y gadwyn gyflenwi Miscanthus.

Mae'r rhain ychydig dros fetr o hyd, 45cm o led a 35cm o uchder, gan eu gwneud yn faint bloc adeiladu cyfleus y gellir ei drin yn hawdd.

Mae yna hefyd gyfle i ddefnyddio bêls Heston mwy o faint - sef maint nodweddiadol y bêls Miscanthus sydd ar gael yn fasnachol - mewn adeiladau mwy a gofodau warws.

Mae gwyddonwyr bridio planhigion blaenllaw ym mhrosiect Beacon yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn datblygu hybridau Miscanthus o hadau, sy'n gweithio'n dda mewn adeiladu gyda bêls.

Meddai Dr Judith Thornton o'r Prosiect Beacon: "Mae Miscanthus yn cael ei dyfu o risomau ar hyn o bryd - mae'n cael ei blannu unwaith a'i gynaeafu bob gwanwyn am 20 mlynedd neu fwy. Mae ein gwyddonwyr ni wedi cymryd gwahanol fathau o Miscanthus a'u croesi i ddatblygu hybridau y gellir eu tyfu o hadau ar gyfer marchnadoedd penodol.

"Hyd yma, mae hynny wedi bod ar gyfer marchnadoedd biomas a bioblastigau, ond trwy gydweddu ein dealltwriaeth o nodweddion planhigion â gofynion y diwydiant adeiladu, gallwn fridio o bosibl ar gyfer y farchnad adeiladu tai.

"Rydym wedi bod yn defnyddio planhigion fel deunyddiau adeiladu ers miloedd o flynyddoedd. Yr hyn sy'n wahanol nawr yw ein bod yn deall digon am nodweddion ffisegol a chemegol y planhigion a bod gennym fwy o dechnegau prosesu ar gael i ni. Mae hyn yn cynnig llawer o gyfleoedd - tra bod adeiladu'n uniongyrchol â bêls yn ddelfrydol ar gyfer tai hunan-adeiladu; yn y dyfodol gallem hefyd ddefnyddio paneli parod o Miscanthus ar gyfer adeiladu tai, a gallem gynhyrchu deunydd inswleiddio llofft neu fyrddau ffibr," ychwanegodd Judith.

Mae'r bêls wedi eu cynnwys yn y prosiect ‘Y Tŷ Bach Cymreig’ sy'n cael ei redeg fel cyfres o gyrsiau byr gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen, gan helpu hunan-adeiladwyr i fynd i'r afael â deunyddiau a dulliau adeiladu sydd yn amgylcheddol gadarn.