Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd i ddatblygwyr Apple

Cynrychiolir tri deg o wledydd yn y gynhadledd eleni sydd yn llawn gyda phob un o’r 200 o lefydd wedi eu cymryd.

Cynrychiolir tri deg o wledydd yn y gynhadledd eleni sydd yn llawn gyda phob un o’r 200 o lefydd wedi eu cymryd.

06 Medi 2017

Mae datblygwyr meddalwedd o bob cwr o'r byd wedi ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon ar gyfer cynhadledd mwyaf blaenllaw'r DU ar gyfer datblygwyr meddalwedd Apple.

Bellach yn ei seithfed flwyddyn, mae iOSDevUK yn cael ei threfnu gan yr Athro Chris Price a Dr Neil Taylor o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth ac yn cael ei chynnal dros bedwar diwrnod; 4-7 Medi 2017.

Ymhlith y themâu sy'n cael eu harchwilio mae ARKit, y feddalwedd realiti estynedig newydd a gyhoeddwyd gan Apple yn ei Cynhadledd Datblygwyr Byd-eang ar ddechrau mis Mehefin 2017.

Hefyd ar yr agenda mae meddalwedd dysgu peirianyddol newydd Apple sydd wedi ei ddatblygu ar gyfer datblygwyr apiau.

Daw’r gynhadledd i ben brynhawn/nos Iau gyda ‘hac’ deg awr sydd bellach wedi dod yn draddodiad.

Yr her a osodwyd ar gyfer yr hac eleni yw datblygu apiau newydd arloesol ar gyfer meddalwedd realiti estynedig, sydd wedi profi mor boblogaidd mewn gemau megis Pokemon Go.

Dywedodd yr Athro Chris Price: “Dros y blynyddoedd mae iOSDevUK wedi gosod Aberystwyth wrth galon datblygu meddalwedd mewn llawer ffordd, ac rydym wrth ein bodd bod cynifer o ddatblygwyr o bob cwr o'r byd yn teimlo ei bod yn werth iddynt deithio yma i fynychu'r gynhadledd hon.

“Mae technoleg fel adnabod delwedd, realiti estynedig a dysgu peirianyddol yn dod yn fwyfwy cyfarwydd ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn natur y trafodaethau yn iOSDevUK, ond hefyd yn y rhaglenni gradd cyfrifiadureg rydym yn eu cynnig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“O'r cychwyn cyntaf, ein nod gyda iOSDevUK oedd annog creadigrwydd trwy rannu arbenigedd a phrofiadau. Gobeithio bod y gynhadledd eleni wedi cyflawni hyn unwaith eto, i'n cynadleddwyr a'n myfyrwyr sydd wedi gallu mynychu yn rhad ac am ddim.”

Noddir cynhadledd iOSDevUK eleni gan wefan rhannu ryseitiau Cookpad, CapitalOne a Starling Bank.

Ymysg y cwmnïoedd sydd wedi eu cynrychioli yn y gynhadledd mae BBC, SKY UK, CapitalOne, Experian, MoneySupermarket, 3squared, Booking.com, HostelWorld, 02, Shopify, eBay, Facebook, JP Morgan a Garmin.

Ac ymhlith y gwledydd sydd wedi eu cynrychioli mae Awstria, Awstralia, Gwlad Belg, Bwlgaria, Canada, yr Almaen, Denmarc, Hwngari, Iwerddon, yr Eidal, Israel, Irac, Siapian, yr Iseldiroedd, Portiwgal, Gwlad Pwyl, Romania, Twrci a’r Unol Daleithiau.

Ceir rhagor o fanylion am y gynhadledd ar gael ar-lein yma.

I gael gwybod mwy am astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth cliciwch yma.