Enwi Aberystwyth yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu

22 Medi 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei henwi yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu yn The Times and Sunday Times Good University Guide 2018.

Dyma'r tro cyntaf i’r wobr fawreddog hon gael ei dyfarnu i brifysgol yng Nghymru gan y Good University Guide, sydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Sul 24 Medi 2017.

Mae tabl cynghrair y Good University Guide hefyd yn dyrchafu Prifysgol Aberystwyth i’r 50 prifysgol uchaf, naw lle yn uwch na’r llynedd, ac yn safle 47 yn y DU o 131 o sefydliadau addysg uwch.

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd wedi dringo i'r 10 uchaf yn y DU a’r cyntaf yng Nghymru am brofiad myfyrwyr - i fyny 11 lle o’i gymharu â 2017.

Ar gyfer ansawdd y dysgu mae Prifysgol Aberystwyth yn 5ed yn DU yn ôl The Good University Guide, i fyny bum lle ar 2017.

Dywedodd Golygydd The Good University Guide, Alastair McCall, bod Prifysgol Aberystwyth wedi cymryd camau breision yn y blynyddoedd diweddar i wella profiad myfyrwyr.

"Mae myfyrwyr Aberystwyth wedi’i deall hi ac wedi bod yn barod iawn i gydnabod hynny. Mae’r Brifysgol wedi sicrhau rhai o'r sgorau mwyaf nodedig yn y DU gan fyfyrwyr am ansawdd y dysgu mae'n ei gynnig. Mae'n un o nifer bach iawn o brifysgolion sydd wedi cynyddu eu sgoriau boddhad myfyrwyr yn y maes hwn ers y llynedd, a hynny yng nghyd-destun Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr llymach,” dywedodd Alastair McCall.

“Mae ymdrechion y brifysgol dros y ddwy flynedd ddiwethaf i wella profiad y myfyrwyr wedi talu ar eu canfed. Mae ein gwobr yn cydnabod y camau breision a wnaed ac yn dangos sut y gellir defnyddio'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol pan fydd rheolwyr brifysgol yn penderfynu gweithredu ar ei ganfyddiadau.”

Yn y tablau cynghrair, mae Prifygol Aberystwyth yn 5ed yn DU am ansawdd y dysgu yn ôl The Good University Guide 2018, i fyny bum lle o’i gymharu â 2017.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Rwyf wrth fy modd bod ein gwerthoedd addysgol uchel wedi cael eu cydnabod gan y Good University Guide 2018. Mae'r wobr annibynnol hon yn gadarnhad digamsyniol o ymdrechion eithriadol ein staff i gynnal y safonau uchaf ac i sicrhau bod gan raddedigion Aberystwyth yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial.

“Mae Aberystwyth yn brifysgol sydd wedi adeiladu ei henw da ar ansawdd ei dysgu a'i ysgolheictod dros ganrif a hanner. Ein nod yw darparu cymuned ddysgu ysgogol sy'n meithrin meddwl creadigol a beirniadol. Rydyn ni am ymestyn meddyliau ein myfyrwyr mewn amgylchedd cefnogol ac mae ein haddysgu'n tynnu ar gryfderau ymchwil ein staff academaidd,  sydd gyda system tiwtor personol gref yn sail iddi.”

Mae canfyddiadau'r Good University Guide diweddaraf yn adleisio canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (ACM) a gyhoeddwyd ym mis Awst 2017, a roddodd Aberystwyth yn yr ail safle ar draws y DU am ansawdd asesu ac adborth.

O ran boddhad myfyrwyr yn gyffredinol, Aberystwyth oedd yr orau yng Nghymru ac un o'r pum prifysgol brif-ffrwd uchaf yn ACM eleni*.

Mae cyfraddau cyflogadwyedd y Brifysgol hefyd ar eu huchaf erioed gyda ffigurau a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch ym mis Gorffennaf 2017 yn dangos bod 95% o fyfyrwyr Aberystwyth yn gweithio neu mewn astudio pellach chwe mis ar ôl graddio yn 2016.