Brogaod saethau gwenwyn yn New Scientist Live

Dr Karen Siu-Ting gyda model o amffibiad ffosil yn Amgueddfa Hanes Natur yn Vienna.

Dr Karen Siu-Ting gyda model o amffibiad ffosil yn Amgueddfa Hanes Natur yn Vienna.

28 Medi 2017

Mi fydd y gwyddonydd o Brifysgol Aberystwyth, Dr Karen Siu-Ting, yn trafod brogaod saethau gwenwyn yn ystod sioe New Scientist Live sydd yn agor yn Llundain heddiw, dydd Iau 28 Medi 2017.

Mae Dr Siu-Ting yn Gymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol IRC ELEVATE-MSCA yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd ei hymchwil i frogaod saethau gwenwyn yn rhan o ‘Holwch Fiolegydd’ sydd yn cael ei gynnal gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol.

Biolegydd esblygiad o Peru yw Dr Siu-Ting sydd yn arbenigo mewn amffibiaid. Mae ei hymchwil yn cyfuno gwaith maes yng nghoedwig law'r Amazon, gyda dadansoddiadau labordy a chyfrifiadurol i fynd i'r afael â chwestiynau biolegol.

Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiect broagaod saethau gwenwyn rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Dinas Dulyn.

Dywedodd Dr Siu-Ting: "Rwy'n ymchwilio i sut mae'r brogaod hyn yn caffael eu tocsinau trwy eu diet a pha addasiadau y maent wedi'u datblygu i wrthsefyll y tocsinau rheiny a’u hailddefnyddio fel amddiffynfa. Bydd pobl sy'n ymweld â'r stondin yn dechrau trwy ofyn i mi "O ble mae brogaod saeth wenwynig yn cael eu tocsinau?", ac mi fydd y sgwrs yn mynd oddi yno.

“Mae hwn yn gyfle gwych i mi ymgysylltu â'r cyhoedd yn fy maes bioleg i ac mae'n gyfle cyffrous i'r cyhoedd ddysgu mwy am y gwaith sy'n digwydd yn IBERS."

Gŵyl syniadau a darganfyddiadau yw New Scientist Live ac mae’n cael ei yn ExCeL Llundain o ddydd Iau 28 Medi tan ddydd Sul 1 Hydref, ac fe ddisgwylir tua 30,000 o ymwelwyr ar draws y pedwar diwrnod.

Bydd gweithgaredd ‘Ask a Biologist’ y Gymdeithas Frenhinol Bioleg yn cael ei gynnal ar stondin rhif 528 ym Mharth y Ddaear yn yr ardal arddangos.

Bydd aelodau'r cyhoedd yn cael cyfle i holi 24 o'i haelodau arbenigol, i ddarganfod mwy am yr hyn y mae'r Gymdeithas Fioleg Frenhinol yn ei wneud a sut y gallant gymryd rhan ynddo.