Cymrawd Ysgrifennu ar y rhestr fer am wobr BBC

Cynan Jones Llun: Bernadine Jones

Cynan Jones Llun: Bernadine Jones

02 Hydref 2017

Mae awdur o Geredigion sy’n rhoi cyngor ysgrifennu i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Stori Fer y BBC 2017.

Cafodd Cynan Jones, sy’n byw yn Aberaeron, ei benodi’n Gymrawd Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2016.

Mae e’n un o bump ar y rhestr fer eleni am Wobr Stori Fer y BBC, a sefydlwyd yn 2005 i godi ymwybyddiaeth am fy ffurf yma o ysgrifennu.

Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o £15,000, gyda’r pedwar awdur arall sydd ar y rhestr fer yn cael £600 yr un.

Dan gadeiryddiaeth y nofelydd Joanna Trollope, mae’r panel beirniadu eleni yn cynnwys Eimear McBride sydd wedi ennill Gwobr Baileys; Jon McGregor sydd wedi bod ar restr hir Gwobr Booker; Sunjeev Sahota sydd wedi ennill Gwobr Encore, a Di Speirs sy’n Olygydd Llyfrau gyda’r BBC ac yn un o feirniaid y wobr hon ers iddi gael ei lansio.

Mae stori fer Cynan Jones, ‘The Edge of the Shoal’, yn delynegol ac yn llawn tensiwn am drip pysgota a aiff o chwith. Yn sail i’r stori y mae’r awydd i oroesi ar y moroedd, a sylweddoli colled.

Mae ‘The Edge of the Shoal’ ar y rhestr fer gyda phedair stori fer arall a ddewiswyd o blith dros 600 o ymgeiswyr eleni:

  •  ‘Murmur’ gan Will Eaves
  • ‘The Waken’ gan Jenni Fagan
  • ‘The Edge of the Shoal’ gan Cynan Jones
  • ‘The Collector’ gan Benjamin Markovits
  • ‘If a book is locked there’s probably a good reason for that, don’t you think?’ gan Helen Oyeyemi

Darlledwyd y straeon ar BBC Radio 4, ac mae modd gwrando ar-lein ar stori Cynan Jones.

Caiff enw’r enillydd ei gyhoeddi’n fyw ar raglen ‘Front Row’ ar BBC Radio 4 ar 3 Hydref am 7.15pm.

Mae Cynan Jones eisoes wedi cyhoeddi pum nofel ac mae nifer o’i weithiau wedi eu cyfieithu.

Yn rhinwedd ei swydd fel Cymrawd Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Cynan Jones yn cynorthwyo myfyrwyr i wella’u sgiliau ysgrifennu a’i llythrennedd academaidd.  Gall myfyrwyr drefnu apwyntiad i’w weld drwy e-bostio writers@aber.ac.uk.