Gwobr Bafta Cymru i gyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth

Iwan England, cynhrychydd a chyfarwyddwr 'Aberfan: The Fight for Justice'. Llun: BAFTA Cymru Sutterstock

Iwan England, cynhrychydd a chyfarwyddwr 'Aberfan: The Fight for Justice'. Llun: BAFTA Cymru Sutterstock

09 Hydref 2017

Mae rhaglen ddogfen gan gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth i nodi hanner-can-mlwyddiant trychineb Aberfan wedi ennill Gwobr Ddogfen Sengl Bafta Cymru 2017.

Cynhyrchwyd a chyfarwyddwyd Aberfan: The Fight for Justice gan Iwan England, a fu’n fyfyriwr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Mae'r rhaglen yn olrhain hanes y frwydr dros gyfiawnder wedi i wastraff o domen lô ladd 144 o bobl ym mhentref Aberfan ar y 21ain o Hydref 1966, 116 ohonynt yn blant.

Derbyniodd y rhaglen ddogfen wobr Bafta Cymru arall wrth i newyddiadurwr y BBC Huw Edwards gipio gwobr y Cyflwynydd Gorau.

Roedd Aberfan: The Fight for Justice yn un o dair rhaglen ar drasiedi Aberfan i ennill gwobrau yn Bafta Cymru 2017, a gynhaliwyd yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd ar ddydd Sul 8 Hydref.

Aeth y wobr am y Ddrama Deledu orau i Aberfan: The Green Hollow wobr Drama Teledu, a gwobr Cyfarwyddwr Ffeithiol i Marc Evans am The Aberfan Young Wives Club.

Dywedodd Dr Anwen Jones, Pennaeth yr Adran Astudiaeth Theatr, Ffilm a Theledu: “Rydym wrth ein bodd ac yn falch iawn o lwyddiant Iwan. Fel noddwyr y categori Dogfen Sengl eleni, roedd hi'n wych gweld un o’n cynfyfyrwyr yn ennill y categori gyda ffilm ddogfen mor bwysig, sydd yn garreg bwysig yn ein dealltwriaeth o drychineb Aberfan.”

Ymhlith yr enillwyr eraill yn y gwobrau roedd yr actor o Hollywood, Michael Sheen, a gafodd wobr Bafta Cymru yn y categori Newyddion a Materion Cyfoes am The Fight For My Steel Town a oedd yn edrych ar golli swyddi yn yr ardal.

Profodd Cymrawd Prifysgol Aberystwyth, Bryn Terfel, llwyddiant hefyd wrth i’w raglen Gwlad y Gân ennill gwobr Rhaglen Adloniant.

Gellir gweld rhestr lawn o enillwyr Bafta Cymru 2017 ar-lein yma.