Gwahodd enwebiadau am Gymrodoriaethau a Graddau Anrhydedd 2018

Canghellor Prifysgol Aberystwyth, Syr Emyr Jones Parry, yn cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i'r naturiaethwr a chyflwynydd teledu, Iolo Williams yn 2015.

Canghellor Prifysgol Aberystwyth, Syr Emyr Jones Parry, yn cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i'r naturiaethwr a chyflwynydd teledu, Iolo Williams yn 2015.

16 Hydref 2017

Y dyddiad cau i enwebu unigolion i’w hystyried am Gymrodoriaethau a Graddau Anrhydedd yn seremonïau graddio Prifysgol Aberystwyth 2018 yw canol nos, ddydd Llun 23 Hydref 2017.

Mae gan staff, myfyrwyr, ac aelodau'r cyhoedd hawl i gyflwyno enwebiadau.

Mae'r Brifysgol yn dyfarnu nifer o Gymrodoriaethau, Doethuriaethau, a graddau Baglor er Anrhydedd bob blwyddyn. 

Caiff y Cymrodoriaethau er Anrhydedd eu dyfarnu i anrhydeddu unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.

Ymhlith y rhai a anrhydeddwyd yn lled ddiweddar y mae'r nofelydd a cholofnydd y Times, Caitlin Moran, y newyddiadurwr a chyflwynydd Robert Peston, cyn Brif Weinidog Seland newydd Julia Gillard, a'r naturiaethwr a chyflwynydd teledu Iolo Williams.

Yn 2015, dechreuodd y Brifysgol hefyd ddyfarnu Doethuriaethau a graddau Baglor er Anrhydedd.

Gellir dyfarnu gradd Doethuriaeth er Anrhydedd i rai sydd wedi bod yn llwyddiannus eithriadol yn eu maes, neu sydd â hanes hir o ymchwil a chyhoeddiadau clodwiw.

Cyflwynir gradd Baglor er Anrhydedd i unigolion sy'n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad er mwyn cydnabod gwasanaeth, cyfraniad ac ymroddiad hirdymor i'r Sefydliad; ac i aelodau'r cyhoedd sydd wedi cyfrannu'n sylweddol i dref Aberystwyth a'r cylch.

Gwahoddir staff, myfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd i enwebu unigolion addas y gellir dathlu eu cyflawniadau a'u cyfraniadau, ac a fydd yn ysbrydoli cymuned y Brifysgol.

Caiff yr enwebiadau a ddaw i law eu hystyried gan y Pwyllgor Graddau er Anrhydedd a fydd yn gwneud argymelliadau priodol i Senedd a Chyngor y Brifysgol.

Mae manylion llawn, yn cynnwys ffurflen enwebu, i'w gweld ar lein: www.aber.ac.uk/cy/about-us/honorary-awards.

Mae'r wefan hefyd yn rhestru'r meini prawf y bydd y Pwyllgor Graddau er Anrhydedd yn eu defnyddio wrth ystyried yr enwebiadau.

Os ydych yn ansicr ynglŷn â chyflwyno enw i'w ystyried, gallwch ofyn am gyngor anffurfiol trwy e-bostio Ysgrifennydd y Brifysgol - ysgrifennydd@aber.ac.uk.

 

AU35517