Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Mis Hanes Pobl Dduon

Bydd y gantores Ninja ym Mhrifysgol Aberystwyth fel rhan o Fis Pobol Dduon, ynghyd ag Eric Martin ac Oliver Morris, Pennaeth Addysg a Sgiliau UK Music.

Bydd y gantores Ninja ym Mhrifysgol Aberystwyth fel rhan o Fis Pobol Dduon, ynghyd ag Eric Martin ac Oliver Morris, Pennaeth Addysg a Sgiliau UK Music.

20 Hydref 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal dau ddigwyddiad cerddorol arbennig i ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon 2017.

Bydd tîm o UK Music – sefydliad sydd wedi’i ariannu gan y diwydiant ac sy’n cynrychioli ac yn hyrwyddo diwydiant cerddoriaeth Brydeinig – ar y campws ddydd Llun 23 Hydref.

Bydd sesiwn i ysgolion am yrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth yn ystod y dydd drwy wahoddiad yn unig ac yna gweithdy gyrfaoedd agored am 3.30yp gyda'r artistiaid Ninja ac Eric Martin, ynghyd ag Oliver Morris, Pennaeth Addysg a Sgiliau UK Music. Gyda'r hwyr, bydd y tri yn rhan o drafoedaeth banel ar wleidyddiaeth a cherddoriaeth. 

Dydd Llun 23 Hydref 2017

  • Jam gyrfaoedd UK Music – 3.30yh, Ystafell Ymarfer Canolfan y Celfyddydau

    Bydd Ninja, Eric Martin ag Oliver Morris o UK Music yn cynnal jam gerddoriaeth a sgwrs am yrfaoedd posib yn y diwydiant i ysgolion lleol (gwahoddiad yn unig).
  • Panel Trafod – 6yh, Prif Neuadd, Gwleidyddiaeth Rhyngwladol

    Trafodaeth ar Wleidyddiaeth ym myd Cerddoriaeth yng nghwmni Pennaeth Addysg UK Music Oliver Morris a’r artistiaid Ninja ac Erin Martin.

Fel rhan o Mis Hanes Pobl Dduon, mae’r Brifysgol wedi trefnu dadl ar hiliaeth sefydliadol.

Dydd Mawrth 24 Hydref 2017

  • Panel Trafod ar Hiliaeth Sefydliadol – 6yh, A6, Llandinam

    Darperir lluniaeth. Croeso cynnes i bawb.

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ddigwyddiad blynyddol, a gychwynnodd yn America, er mwyn adlewyrchu hanes, diwylliant a’i heffaith ar bobl dduon mewn gwledydd ar draws y byd. Mae’r digwyddiad wedi cael ei nodi bob mis Hydref yn y DU ers 1987 ac mae’n dathlu ei ben-blwydd yn 30 eleni.