Myfyrwraig ar banel dyfarnu gwobr llyfr plant

30 Tachwedd 2017

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae un o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar y panel beirniadu ar gyfer un o brif wobrau llyfrau plant yng Nghymru.

Caredigrwydd yn goleuo Aberystwyth

29 Tachwedd 2017

Dros y dyddiau nesaf, mewn trefi a dinasoedd ledled y wlad, bydd sêr enwog yn cynnau goleuadau Nadolig.

Cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yn rownd gynderfynol Arlunydd Tirluniau’r Flwyddyn

28 Tachwedd 2017

Mae myfyriwr sy’n raddedig mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd rownd gynderfynol Arlunydd Tirluniau’r Flwyddyn, sy’n cael ei darlledu heno (nos Fercher 29 Tachwedd) ar Sky Arts am 8 yr hwyr.

Gwyddonwyr o Aber yn arwain gweithdy ar lifogydd rhewlifol yn Kathmandu

28 Tachwedd 2017

Y peryglon o fflach lifogydd yn Nepal wedi eu hachosi gan argaeau llynnoedd rhewlifol yn torri yw ffocws gweithdy dau ddiwrnod sydd yn cael ei gynnal gan wyddonwyr o Aberystwyth yn Kathmandu sy'n dechrau heddiw, ddydd Mawrth 28 Tachwedd 2017.

Cytuno ar arian adnewyddu Pantycelyn

27 Tachwedd 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cymeradwyo pecyn cyllid gwerth £12 miliwn fel rhan o'i chynlluniau i adnewyddu neuadd breswyl hanesyddol Pantycelyn.

Pelenni tân, ffrwydradau a rocedi yn Narlith Goffa Bill Williams eleni

27 Tachwedd 2017

‘Creating fireworks, and the scientific principles behind them’
Dr Joel Loveridge, Prifysgol Abertawe
1.15-2.15pm, ddydd Mercher, 13 Rhagfyr 2017
Y Brif Ddarlithfa Ffiseg, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth

Delweddau cyfrifiadurol yn allweddol i ddatblygu crwydryn ExoMars

24 Tachwedd 2017

Mae delweddau cyfrifiadurol o grwydryn ExoMars sydd i'w lansio yn 2020 yn darparu gwybodaeth bwysig i wyddonwyr sydd yn paratoi i adeiladu cerbyd ymchwil y daith.

SilwairSMART – gwella effeithlonrwydd silwair yng Nghymru

24 Tachwedd 2017

Bydd consortiwm newydd sydd â’r nod o wella effeithlonrwydd gwneud silwair yng Nghymru o 20% yn cael ei lansio yn Ffair Aeaf Cymru yn Llanelwedd, ddydd Mawrth 28 Tachwedd 2017.

Yr Wcráin yn cofio cyn-fyfyrwyr Aberystwyth

23 Tachwedd 2017

Mae Dirprwy Llysgennad yr Wcráin i'r DU wedi gosod torch er cof am gyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth, Gareth Jones, a ddatgelodd newyn yr Wcráin ym 1932-33.

Cyn-heddwas yn ymuno â phrosiect cam-drin yr henoed

22 Tachwedd 2017

Mae’r cyn-heddwas gyda Heddlu Dyfed-Powys, Lynn Rees wedi ymuno â phrosiect Dewis/Choice yng Nghanolfan Astudio Heneiddio, Cam-drin ac Esgeuluso yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth.

Mushaira Aberystwyth – Dathliad o Farddoniaeth y Byd

21 Tachwedd 2017

Mae Sefydliad Mercator, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, yn cynnal Mushaira ar Nos Fercher, 22 Tachwedd 2017 yn Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth.

Myfyrwyr rhyngwladol yn gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru

21 Tachwedd 2017

Mae myfyrwyr rhyngwladol yn gwneud cyfraniadau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol iawn at Gymru yn ôl adroddiad newydd sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, 21 Tachwedd 2017.

Llwyddiant cynhadledd trawsryweddol gyntaf Aber

20 Tachwedd 2017

Bywydau trawsryweddol ac anneuaidd yng Nghymru oedd testun cynhadledd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Gwener 17 Tachwedd.

Agor ffenest ddigidol ar y gorffennol

17 Tachwedd 2017

Mae cofnodion myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sy’n dyddio’n ôl bron 150 mlynedd yn cael eu digideiddio a’u trawsgrifio er mwyn hwyluso gwaith pori a chwilio.

Ychydig berswad i’r cyfeiriad cywir?

15 Tachwedd 2017

Mae moeseg defnyddio damcaniaeth ‘nudge’ neu ‘berswad’ er mwyn llywio polisi cyhoeddus yn cael sylw mewn llyfr newydd gan ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Yr Athro Christopher Coker i draddodi Darlith Flynyddol Kenneth N. Waltz ar ddyfodol rhyfel.

14 Tachwedd 2017

Yr ysgolhaig rhyfel enwog a'r arbenigwr ar wrthdaro milwrol, Yr Athro Christopher Coker, fydd yn traddodi Darlith Flynyddol Kenneth N. Waltz eleni, nos Iau 16 Tachwedd am 6y.h.

Cyhoeddiad newydd ar ail gainc y Mabinogi

14 Tachwedd 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi’r golygiad cyntaf ers 80 o flynyddoedd o ail gainc y Mabinogi yn y Gymraeg.

Gwahodd myfyrwyr mentrus i ymgeisio am InvEnterPrize 2018

13 Tachwedd 2017

Mae rhifyn 2018 o gystadleuaeth menter myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei lansio, gyda gwobr o £10,000 i'r ymgeisydd buddugol.

Prifysgol Aberystwyth yn peilota rhaglen llesiant i fyfyrwyr

10 Tachwedd 2017

Mae cyfres o weithdai llesiant yn cael eu cynnig i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf Prifysgol Aberystwyth fel rhan o beilot arloesol ar y cyd gyda'r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol.

Cynhadledd yn trafod dyfodol darlledu

09 Tachwedd 2017

Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth yn cadeirio cynhadledd flaenllaw ar ddyfodol  darlledu Cymraeg ddydd Iau 9 Tachwedd 2017.

Gwrthrychau Hollywood prin o’r 1940au yn cael eu harddangos yn Ysgol Gelf Aberystwyth

08 Tachwedd 2017

Mae Darlithydd o Ysgol Gelf, Dr Harry Heuser, wedi curadu arddangosfa sy’n cynnwys albwm unigryw yn coffau’r ffilm ffantasi Mighty Joe Young, a gynhyrchwyd yn Hollywood yn 1949.

Wedi 35 mlynedd o S4C, pam na ddylai Cymru fod yn gyfrifol am y sianel?

06 Tachwedd 2017

Elin Haf Gruffydd Jones, Athro yn y Cyfryngau a’r Diwydiannu Creadigol, yn trafod a ddylai penderfyniadau allweddol am ddyfodol S4C, un o’r sianeli teledu cyntaf mewn iaith leiafrifol, gael eu gwneud yn Llundain neu yng Nghaerdydd.

Y cyfreithiwr o Gymro a ddyfeisiodd y gell danwydd hydrogen yn ystod oes Fictoria

06 Tachwedd 2017

Yr Athro Iwan Morus o Adran Hanes a Hanes Cymru yn trafod dyfeisio’r batri nwy yn 1842 gan y Cymro ifanc o Abertawe, William Robert Grove.

Cyfnod cyfieithu ym Mhrifysgol Aberystwyth i fardd o India

02 Tachwedd 2017

Mae bardd o India yn treulio tri mis ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cyfieithu gwaith Vikram Seth i’r Hindi ac yn cyfansoddi cerddi i ddarllenwyr ifanc.

Dychmygu dyfodol amgen i ganolbarth Cymru

02 Tachwedd 2017

Wrth i’r dadlau barhau am gysylltiadau masnach y DU gyda'r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit, mae yna wahoddiad i bobl gyflwyno eu gweledigaethau ar gyfer canolbarth Cymru.

Dathlu llwyddiant eisteddfodol cyn-fyfyrwyr

01 Tachwedd 2017

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn dathlu llwyddiant ei chyn-fyfyrwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn mewn digwyddiad arbennig yn yr Hen Goleg nos Wener 10 Tachwedd.